Primary care

Gofal sylfaenol

Primary care

Statutory health care services fall under what is known as primary care services and secondary care services.

Primary care providers are a free service and are often the first point of contact for an individual with mental and physical health needs. They can refer individuals on to other services, if needed.

Professionals working in primary care are generalists, dealing with a broad range of physical, psychological and social problems, rather than specialists in any particular disease area.

Mae gwasanaethau gofal iechyd statudol yn cael eu cynnwys o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau gofal eilaidd.

Mae darparwyr gofal sylfaenol yn wasanaeth am ddim ac yn aml maent yn bwynt cyswllt cyntaf i unigolyn ar gyfer anghenion iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Gallant atgyfeirio unigolion at wasanaethau eraill os bydd angen.

Mae unigolion proffesiynol sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol yn gyffredinolwyr, yn deilio ag amrywiaeth eang o broblemau corfforol, seicolegol a chymdeithasol, yn hytrach nag arbenigwyr mewn unrhyw faes clefyd penodol.

Secondary care

Gofal eilaidd

Secondary care

If a primary care provider, such as a GP feels a patient needs further treatment that they aren’t able to provide then they refer them on to a specialist. This is known as secondary care.

Secondary care includes:

  • Cardiology (heart)
  • Haematology (blood)
  • Paediatrics (children)
  • Dermatology (skin)
  • Nursing homes (older individuals)
  • Physiotherapy (mobility)
  • Hospices (end of life care).

Os bydd darparwr gofal sylfaenol fel meddyg teulu o'r farn bod angen rhagor o driniaeth na all ei darparu i glaf, bydd yn ei atgyfeirio at arbenigwr. Y term am hyn yw gofal eilaidd.

Mae gofal eilaidd yn cynnwys:

  • Cardioleg (calon)
  • Hematoleg (gwaed)
  • Pediatreg (plant)
  • Dermatoleg (croen)
  • Cartrefi nyrsio (unigolion hŷn)
  • Ffisiotherapi (symudedd)
  • Hosbisau (gofal diwedd oes).

As we know, primary care services are the first point of call if an individual has a health need. Identify as many primary care services that you can think of.

Fel y gwyddom, gwasanaethau gofal sylfaenol yw'r pwynt cyswllt cyntaf os bydd gan unigolyn angen iechyd. Nodwch gymaint o wasanaethau gofal sylfaenol ag y gallwch feddwl amdanynt.

Primary Care Services Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

Possible Answers: GP surgeries, hospital accident and emergency department, opticians, walk-in centres, dental surgeries, pharmacies.

Atebion posibl: Meddygfeydd meddyg teulu, adran damweiniau ac achosion brys, optegwyr, canolfannau galw heibio, meddygfeydd deintyddol, fferyllfeydd.