There are various pieces of legislation in place that aims to support and promote health and well-being. This includes:

Mae darnau amrywiol o ddeddfwriaeth ar waith sydd â'r nod o gefnogi a hybu iechyd a llesiant. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys:

  • NHS and Community Care Act 1990, 2012
  • Social Services and Well-being (Wales) Act 2014
  • Public Health Wales Act 2017
  • The Children Act (1989 and 2004)
  • Care Standards Act 2000.

Each piece of legislation provides guidelines for different aspects of care provision, with the aim of regulating care provision and protecting individuals who use care services.

  • Deddf GIG a Gofal Cymunedol 1990, 2012
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Iechyd y Cyhoedd Cymru 2017
  • Y Ddeddf Plant (1989 a 2004)
  • Deddf Safonau Gofal 2000.

Mae pob darn o ddeddfwriaeth yn rhoi canllawiau ar gyfer gwahanol agweddau ar ddarparu gofal, gyda'r nod o reoleiddio'r gofal a ddarperir ac amddiffyn unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal.

The NHS and Community Care Act 1990

Deddf GIG a Gofal Cymunedol 1990

The NHS and Community Care Act applies to the whole of the U.K. Under the Act any adult aged 18 or over that needs care services from the Local Authority has the right to an assessment of their needs. These needs may be physical, social, spiritual etc.

Once the assessment is complete, a package of care will be tailored to meet their individual needs, which will help to promote their health and well-being.

Mae Deddf y GIG a Gofal Cymunedol yn gymwys i'r DU gyfan. O dan y Ddeddf, mae gan unrhyw oedolyn 18 oed neu drosodd y mae angen gwasanaethau gofal arno gan yr Awdurdod Lleol yr hawl i gael asesiad o'i anghenion. Gall yr anghenion hyn fod yn rhai corfforol, cymdeithasol, ysbrydol ac ati.

Pan fydd yr asesiad wedi'i gwblhau, caiff pecyn gofal ei deilwra i ddiwallu ei anghenion unigol, a fydd yn helpu i hybu ei iechyd a'i lesiant.

The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

The Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 applies to Wales only and came into force to provide legal guidelines for those that need care and support and to also provide support for individuals who care for others.

The core aims of the Act include:

  • Voice and control - putting individuals at the centre of their care and ensuring that they have a voice
  • Preventing and early intervention - Increasing preventative care to minimise the risk of an individual's well-being declining
  • Well-being – providing support to individuals to achieve well-being
  • Co-production - involving individuals more in service delivery.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gymwys i Gymru yn unig a daeth i rym er mwyn darparu canllawiau cyfreithiol i'r sawl y mae angen gofal a chymorth arnynt a hefyd i roi cymorth i unigolion sy'n gofalu am eraill.

Ymysg nodau craidd y Ddeddf mae:

  • Llais a rheolaeth - rhoi unigolion wrth wraidd eu gofal a sicrhau bod ganddynt lais
  • Atal ac ymyrraeth gynnar - gwella gofal ataliol er mwyn lleihau'r risg y bydd llesiant unigolyn yn dirywio
  • Llesiant – rhoi cymorth i unigolion sicrhau llesiant
  • Cydgynhyrchu - cynnwys unigolion yn fwy wrth ddarparu gwasanaethau.

The Public Health Wales Act 2017

Deddf Iechyd y Cyhoedd Cymru 2017

The Public Health Wales Act applies to Wales only and covers the following key areas of health promotion:

  • reducing obesity through a national strategy
  • restricting smoking in schools and hospital grounds, public playgrounds and outdoor care settings for children
  • providing a national register for anyone selling tobacco products
  • reducing the risk of infection from tattooing, body piercing and other procedures by introducing a licencing system for individuals carrying out the procedures
  • making it against the law for individuals under the age of 18 years to carry out intimate piercing of body parts
  • making changes to planning processes for pharmaceutical services and access to toilets for public use
  • public bodies carrying out health assessments.

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd Cymru yn gymwys i Gymru yn unig ac mae'n cwmpasu'r meysydd allweddol canlynol o hybu iechyd:

  • lleihau gordewdra drwy strategaeth genedlaethol
  • cyfyngu ar ysmygu mewn ysgolion a thiroedd ysbytai, parciau chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored i blant
  • darparu cofrestr genedlaethol ar gyfer unrhyw un sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco
  • lleihau'r risg o heintiau drwy gael tatŵ, tyllu'r corff a gweithdrefnau eraill drwy gyflwyno system drwyddedu ar gyfer unigolion sy'n cyflawni'r gweithdrefnau
  • sicrhau ei bod yn erbyn y gyfraith i unigolion dan 18 oed dyllu rhannau personol o'r corff
  • gwneud newidiadau i brosesau cynllunio ar gyfer gwasanaethau fferyllol a sicrhau bod toiledau ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio
  • cyrff cyhoeddus sy'n cynnal asesiadau iechyd.

The Children Act (1989 and 2004)

Y Ddeddf Plant (1989 a 2004)

The Children Act 2004 applies to the whole of the U.K. The aim of the Act is to put children’s well-being at the forefront and applies to anyone that cares for children.

The key features of the Act are:

  • to allow children to be healthy
  • allowing children to remain safe in their environments
  • helping children to enjoy life
  • assist children in their quest to succeed
  • help make a contribution – a positive contribution – to the lives of children
  • help achieve economic stability for our children’s futures.

Mae Deddf Plant 2004 yn gymwys i'r DU gyfan. Nod y Ddeddf yw rhoi blaenoriaeth i lesiant plant ac mae'n gymwys i unrhyw un sy'n gofalu am blant.

Prif nodweddion y Ddeddf yw:

  • galluogi plant i fod yn iach
  • galluogi plant i fod yn ddiogel yn eu hamgylcheddau
  • helpu plant i fwynhau bywyd
  • helpu plant yn eu hymgais i lwyddo
  • helpu i wneud cyfraniad – cyfraniad cadarnhaol – i fywydau plant
  • helpu i gyflawni sefydlogrwydd economaidd ar gyfer dyfodol ein plant.

The Care Standards Act 2000-2017

Deddf Safonau Gofal 2000–2017

When the Act was introduced, it applied to the whole of the U.K. In 2008 care in England was superseded and is now subject to the Health and Social Care Act 2008, adult social care in Wales is still covered by the Care Standards Act 2000.

The main purpose of the Act is to promote social care and to regulate care providers and ensure they are competent in terms of their duty of care. The Act outlines the minimum standards of care that everyone receiving social care is entitled to.

The key features of the Act include:

  • a qualifications framework for care workers
  • the introduction of the National Care Standards Commission
  • introduction of national minimum standards of care individuals should receive
  • all local authorities in Wales have to be regulated and meet the same standards of care as those in the independent sector
  • the introduction of the National Care Standards Commission
  • the establishment of a general social care council for England and Wales
  • raising standards of care through codes of conduct and practice.

Pan gyflwynwyd y Ddeddf, roedd yn gymwys i'r DU gyfan. Yn 2008, cafodd gofal yn Lloegr ei ddisodli ac mae bellach yn ddarostyngedig i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008. Mae gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru yn dal i gael ei gwmpasu gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Prif ddiben y Ddeddf yw hybu gofal cymdeithasol a rheoleiddio darparwyr gofal a sicrhau eu bod yn gymwys o ran eu dyletswydd gofal. Mae'r Ddeddf yn amlinellu'r safonau gofal gofynnol y mae gan bawb sy'n derbyn gofal cymdeithasol hawl iddo.

Ymysg prif nodweddion y Ddeddf mae:

  • fframwaith cymwysterau ar gyfer gweithwyr gofal
  • cyflwyno'r Comisiwn Safonau Gofal Cymdeithasol
  • cyflwyno'r safonau gofynnol cenedlaethol o ofal y dylai unigolion ei gael
  • mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gael ei reoleiddio a bodloni'r un safonau o ofal â'r rhai yn y sector annibynnol
  • cyflwyno'r Comisiwn Safonau Gofal Cymdeithasol
  • sefydlu cyngor gofal cymdeithasol cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr
  • gwella safonau gofal drwy godau ymddygiad ac ymarfer.

National regulatory bodies

Match the key feature to the correct act.

Cyrff rheoleiddio cenedlaethol

Cyfateb y nodwedd allweddol i'r ddeddf gywir.

Legislative frameworks quiz

The Legislative frameworks quiz tests your knowledge on some of the areas covered in the ‘National Legislative frameworks that promote and support health and well-being' module. Select the correct answer(s) from the options below.

Cwis fframweithiau deddfwriaethol

Mae'r cwis fframweithiau deddfwriaethol yn profi eich gwybodaeth am rai o'r meysydd a gwmpesir yn y modiwl 'Fframweithiau deddfwriaethol cenedlaethol sy'n hybu ac yn cefnogi iechyd a llesiant'. Dewiswch yr ateb(ion) cywir o’r opsiynau isod.