Prudent healthcare describes the distinctive way of shaping the Welsh NHS to ensure it is always adding value, contributes to improved outcomes and is sustainable.

Mae gofal iechyd darbodus yn disgrifio'r ffordd arbennig o lunio'r GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod yn ychwanegu gwerth, yn cyfrannu at ganlyniadau gwell ac yn gynaliadwy.

The Prudent healthcare principles are:

  • Achieve health and well-being with the public, patients and professionals as equal partners through co-production.
  • Care for those with the greatest health need first making the most effective use of all skills and resources.
  • Do only what is needed, no more, no less; and do no harm.
  • Reduce inappropriate variation using evidence-based practices consistently and transparently.

Egwyddorion gofal iechyd darbodus yw:

  • Sicrhau iechyd a llesiant gyda'r cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal drwy gydgynhyrchu.
  • Gofalu am y rhai â'r angen iechyd mwyaf yn gyntaf gan ddefnyddio'r holl sgiliau ac adnoddau yn effeithiol.
  • Gwneud yr hyn sydd ei angen, dim mwy, dim llai; a pheidio â gwneud niwed.
  • Lleihau amrywio amhriodol drwy ddilyn arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn modd cyson a thryloyw.

Read the case study and identify what makes the actions taken by the ambulance service prudent.

Darllenwch yr astudiaeth achos a nodwch beth sy'n gwneud y camau gweithredu a gymerwyd gan y gwasanaeth ambiwlans yn rhai darbodus.

Welsh Ambulance

Lucy is a 35-year-old with severely-reduced mobility following a fall some years previously. Lucy has developed an alcohol dependency over the course of 2013, which culminated in thirty-six 999 calls that year, consuming a total of 1,911 minutes or 31.85 unit hours of ambulance time.
The vast majority of these calls were prioritised as green 1 responses as it was often impossible to illicit the reason for the call as Lucy was so intoxicated.
Clinically, Lucy’s needs were not being met, as many of these calls resulted in Lucy being left at home in the care of relatives. In addition to this, the volume of calls received was adversely affecting the ability of the Cardiff and Vale team to deliver responses to higher acuity calls.

The frequent caller guidance was used and a meeting between the clinical support officer and Lucy's GP practice manager was arranged. Following further meetings between the practice manager and her GP, Lucy was admitted for inpatient treatment with the Cardiff Alcohol Team.
In the three months after Lucy received inpatient treatment, the Welsh Ambulance Service received only three calls from her which were either cancelled by Lucy before an ambulance being dispatched or the calls were managed by NHS Direct Wales.

Source: Prudent Healthcare https://bit.ly/2Q0OozP

Mae Lois yn ferch 35 oed ag anawsterau symud difrifol yn dilyn cwymp rai blynyddoedd yn ôl. Daeth Lois yn ddibynnol ar alcohol yn ystod 2013, ac arweiniodd hyn at 36 galwad 999 y flwyddyn honno, gan gymryd cyfanswm o 1,911 munud neu 31.85 oriau uned o amser y gwasanaeth ambiwlans.
Cafodd mwyafrif helaeth y galwadau hyn eu blaenoriaethu yn ymatebion 'gwyrdd 1' gan ei fod yn aml yn amhosibl canfod y rheswm dros yr alwad gan fod Lois yn feddw.
Yn glinigol, doedd anghenion Lois ddim yn cael eu diwallu, oherwydd canlyniad llawer o'r galwadau hyn cafodd Lois gael ei gadael adref yng ngofal perthnasau. At hyn, roedd cyfanswm y galwadau a dderbyniwyd yn cael effaith niweidiol ar allu tîm Caerdydd a'r Fro i ymateb i alwadau mwy difrifol.

Defnyddiwyd y canllaw galwr rheolaidd a threfnwyd cyfarfod rhwng y swyddog cymorth clinigol a rheolwr meddygfa Lois. Yn dilyn cyfarfodydd pellach rhwng rheolwr y feddygfa a'i meddyg teulu, cafodd Lois ei derbyn ar gyfer triniaeth fel claf mewnol gyda Thîm Alcohol Caerdydd.
Yn ystod y tri mis ers i Lois dderbyn triniaeth fel claf mewnol, derbyniodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dri galwad yn unig ganddi a chafodd y galwadau hyn un ai eu canslo gan Lois cyn i'r ambiwlans gael ei anfon neu cawson nhw eu rheoli gan Galw Iechyd Cymru.

Ffynhonnell: Gofal iechyd darbodus https://bit.ly/2Q0OozP

Suggested response

  • It ensures that highly-trained paramedics are using their skills appropriately in dealing with immediate life-threatening emergencies.
  • Situations are addressed in a co-productive way as the Welsh Ambulance Service works with other agencies and listens to the individuals and addresses them appropriately.
  • The potential for inadvertent harm to individuals is reduced as they are signposted to services and interventions which will actually improve their situations.

Ymateb awgrymedig

  • Mae'n sicrhau bod parafeddygon sydd wedi cael hyfforddiant uwch yn defnyddio eu sgiliau yn briodol wrth ymdrin ag achosion brys lle mae bywyd yn y fantol.
  • Mae sefyllfaoedd yn cael eu trin mewn ffordd gydgynhyrchiol gan fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio gydag asiantaethau eraill ac yn gwrando ar yr unigolion ac yn rhoi sylw priodol iddyn nhw.
  • Mae llai o bosibilrwydd bydd niwed diofal yn cael ei achosi i unigolion gan eu bod yn cael eu cyfeirio at wasanaethau a chamau ymyrraeth a fydd yn gwella eu sefyllfaoedd mewn gwirionedd.