Food poverty means that an individual cannot afford or lacks the ability to prepare the nutritious food needed to lead a healthy life.
Mae tlodi bwyd yn golygu nad yw unigolyn yn gallu fforddio’r bwyd maethlon sydd ei angen i fyw bywyd iach, neu nid yw’n gwybod sut i’w baratoi.
It can be caused by a crisis in finance or personal circumstances, but may also be a long-term experience of not being able to access a healthy diet or afford to eat well.
Despite increasing choice and affordability of food, many individuals in food poverty eat more of the low quality foods as these are the more affordable and accessible option.
It can affect children who lack free school meals during the holidays and their parents going without food so that their children can eat.
It can also affect those who lack the ability to prepare healthy food for themselves such as the elderly who are unable to prepare a nutritious meal without help.
Individuals on low incomes have the lowest intakes of fruit and vegetables and are far more likely to suffer from diet-related diseases such as cancer, diabetes, obesity and heart disease.
The Welsh Government is working with Public Health Wales and a range of stakeholders (organisations with an interest or concern in the well-being of individuals) to identify and take forward key actions in Wales that can help to reduce the risk of individuals experiencing food poverty.
This issue has seen the rise of the number of Food Banks throughout Wales.
Gall gael ei achosi gan argyfwng ariannol neu amgylchiadau personol, ond gall hefyd fod yn brofiad tymor hir o beidio â gallu dilyn deiet iach neu o beidio â gallu fforddio bwyta'n dda.
Er gwaethaf y dewis cynyddol a'r ffaith bod bwyd yn fwy fforddiadwy, mae llawer o unigolion mewn tlodi bwyd yn bwyta mwy o'r bwydydd ansawdd isel gan eu bod yn ddewis mwy fforddiadwy ac yn haws eu cael.
Gall effeithio ar blant nad ydyn nhw'n cael prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau gan olygu bod eu rhieni yn mynd heb fwyd er mwyn i’w plant allu bwyta.
Gall hefyd effeithio ar unigolion nad ydyn nhw'n gallu paratoi bwyd iach ar gyfer eu hunain fel yr henoed sydd yn methu paratoi pryd maethlon heb gymorth.
Unigolion ar incwm isel sy'n bwyta'r lleiaf o ffrwythau a llysiau ac maen nhw'n llawer mwy tebygol o ddioddef o afiechydon sy'n gysylltiedig â deiet fel canser, diabetes, gordewdra a chlefyd y galon.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac amryw o randdeiliaid (mudiadau â budd neu bryder am lesiant unigolion) i nodi a rhoi camau allweddol ar waith yng Nghymru all helpu i leihau'r risg bydd unigolion yn wynebu tlodi bwyd.
Mae'r mater hwn wedi arwain at gynnydd yn nifer y Banciau Bwyd ar draws Cymru.
Study the data and answer the questions.
Astudiwch y data ac atebwch y cwestiynau.
Based on the map of the UK. Where does Wales rank in terms of the needing to hand out three-day emergency food supplies?
Yn seiliedig ar fap o'r Deyrnas Unedig. Beth yw safle Cymru o ran yr angen i rannu cyflenwadau bwyd mewn argyfwng sy'n para tri diwrnod?
Suggested response: Wales needed to hand out the eighth highest number of three-day emergency food supplies.
Ymateb awgrymedig: Roedd Cymru yn yr wythfed safle o ran rhannu'r nifer mwyaf o gyflenwadau bwyd mewn argyfwng i bara tri diwrnod.
Look at the bar chart below. By how much has the estimated number of individuals in need of emergency food supplies grown between 2012/13 and 2017/18? (Round both figures to the nearest thousand.)
2. Edrychwch ar y siart bar isod. Faint o gynnydd sydd wedi bod yn nifer yr unigolion yr amcangyfrifir bod arnyn nhw angen cyflenwadau bwyd mewn argyfwng rhwng 2012/13 a 2017/18? (Talgrynnwch y ddau ffigur i'r mil agosaf.)
Suggested response: The estimated number of people in need of emergency food supplies in Wales has grown by 60,000 or by 150%.
Ymateb awgrymedig: Mae cynnydd o 60,000 neu 150% wedi bod yn nifer yr unigolion yr amcangyfrifir bod arnyn nhw angen cyflenwadau bwyd mewn argyfwng yng Nghymru.
Using the same graph – between which two dates did Wales see the highest rise in need?
Gan ddefnyddio'r un graff – rhwng pa ddau ddyddiad gwnaeth Cymru weld y cynnydd mwyaf yn yr angen?
Suggested response: The highest rise in need was between 2012/13 and 2013/14.
Ymateb awgrymedig: Roedd y cynnydd mwyaf yn yr angen rhwng 2012/13 a 2013/14.
Look at the pie chart. What was the highest reason for referrals to a food bank in 2017/18?
Edrychwch ar y siart cylch. Beth oedd y prif reswm dros gyfeirio unigolion at fanc bwyd yn 2017/18?
Suggested response: Low income is the highest reason for referral to food banks accounting for 28.49% of all referrals.
Ymateb awgrymedig: Incwm isel yw'r prif reswm dros gyfeirio unigolion at fanciau bwyd gan gyfrif am 28.49% o'r holl atgyfeiriadau.
We know that low income was responsible for the largest number of referrals to a food bank in 2017/18. Study the map below and determine which group of individuals make up the largest percentage of those on low income.
Rydyn ni'n gwybod mai incwm isel oedd i gyfrif am y nifer mwyaf o atgyfeiriadau at fanc bwyd yn 2017/18. Astudiwch y map isod a phenderfynwch pa grŵp o unigolion sy'n cyfrif am y ganran fwyaf o'r rheini sydd ar incwm isel.
Suggested response: Individuals solely on benefits make up the largest group of those on low income.
Ymateb awgrymedig: Unigolion sy'n byw ar fudd-daliadau yn unig sy'n cyfrif am y grŵp mwyaf o’r rhai ar incwm isel.