Data from the Office of National Statistics (ONS) shows that out of a population of 3.1 million, over 800,000 people in Wales are aged 60 and over, and that around a third of these are at least 75 years old.
Mae data o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dangos, o boblogaeth o 3.1 miliwn, bod dros 800,000 o bobl yng Nghymru yn 60 oed a throsodd, a bod tua traean o'r rhain yn 75 oed o leiaf.
The ONS predicts that the number of over 65s will continue to rise in future years.
People living longer means that more individuals will need care and support because of failing physical health and frailty in old age as well as mental health conditions including dementia.
The increasing demands on the health and social care sectors will put extra pressure on their resources.
The Strategy for Older People in Wales 2013 -2023 aims to ensure that health, well-being and independence are a priority.
The Older People’s Commissioner for Wales’ quality of life model states that in order for older individuals to lead lives that have value, meaning and purpose they need:
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhagweld bydd nifer y bobl dros 65 oed yn parhau i godi yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r ffaith bod pobl yn byw yn hŷn yn golygu bydd angen mwy o ofal a chymorth ar unigolion wrth i’w hiechyd corfforol ddirywio a mynd yn fwy bregus wrth heneiddio, ynghyd â chyflyrau iechyd meddwl gan gynnwys dementia.
Bydd y galw cynyddol ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu hadnoddau.
Mae'r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013 - 2023 yn ceisio sicrhau bod iechyd, llesiant ac annibyniaeth yn flaenoriaeth.
Yn ôl model ansawdd bywyd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, er mwyn i unigolion hŷn fyw bywydau sydd â gwerth, ystyr a phwrpas mae angen y canlynol arnyn nhw:
Study the data and answer the questions.
Astudiwch y data ac atebwch y cwestiynau.
What does this graph tell you about the ageing population in Wales?
Beth mae'r graff hwn yn ei ddweud wrthoch chi am y boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru?
Suggested response: The graph shows that the number of individuals aged over 65 is higher in Wales than anywhere else in the UK.
Ateb awgrymedig: Mae'r graff yn dangos bod mwy o unigolion dros 65 oed yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.
Which county’s population will have the largest percentage of over 65s by 2036?
Poblogaeth pa sir fydd â'r ganran fwyaf o bobl dros 65 oed erbyn 2036?
Welsh Goverment population projections by local authority based on 2011 data
Welsh Goverment population projections by local authority based on 2011 data
Suggested response: Powys
Ateb awgrymedig: Powys
In what type of household will the majority of over 65s be living by 2026?
Ar ba fath o aelwyd fydd y rhan fwyaf o bobl dros 65 oed yn byw erbyn 2026?
Household types in 2016 (adapted from Holmans & Monk, 2011)
Mathau o aelwydydd yn 2016 (wedi'u haddasu o Holmans & Monk, 2011)
*Figures in brackets denote % of total household type
*Mae ffigurau mewn cromfachau yn dynodi% o gyfanswm y math o aelwyd
Suggested response: Most individuals over 65 will be living alone.
Ymateb awgrymedig: Bydd y rhan fwyaf o unigolion dros 65 oed yn byw ar eu pen eu hunain.
How many people are living with dementia in your parliamentary constituency?
Faint o bobl sy'n byw gyda dementia yn eich etholaeth seneddol chi?
Data from here: https://bit.ly/2EbmdpX
Data yma https://www.dementiastatistics.org/statistics/dementia-maps/
Suggested response: The answers differ depending on the constituency.
Ateb awgrymedig: Mae'r atebion yn amrywio yn dibynnu ar yr etholaeth.
This bar graph shows the average weekly income of couples and single pensioners. What does it tell you about pensioners in Wales and what impact would this have?
Mae'r graff bar hwn yn dangos incwm cyfartalog wythnosol pensiynwyr sengl a chyplau. Beth mae'n ei ddweud wrthoch chi am bensiynwyr yng Nghymru a pha effaith fyddai hyn yn ei gael?
Suggested response: Pensioners in Wales have the lowest weekly income in Britain. This would mean that pensioners in Wales are less able to eat healthily and partake in activities that enhance their health and well-being as pensioners in England.
Ymateb awgrymedig: Incwm wythnosol pensiynwyr yng Nghymru yw’r isaf ym Mhrydain. Byddai hyn yn golygu bod pensiynwyr yng Nghymru yn llai abl i fwyta'n iach a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella eu hiechyd a'u llesiant na phensiynwyr yn Lloegr.