Everyone has the right to live his or her life free from harm, abuse or neglect.

Mae gan bawb hawl i fyw ei fywyd heb niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

Safeguarding is about protecting individuals from abuse or neglect and educating those around them to recognise the signs and dangers.

It also involves promoting the welfare of the individual, preventing their health and development from being impaired and ensuring that they receive safe and effective care.

Abuse can happen anywhere and the individual responsible for the abuse is often well known to the abused individual. The abuse or neglect can be intentional or unintentional.

Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth neu esgeuluster ac addysgu'r rhai o'u cwmpas i adnabod yr arwyddion a pheryglon.

Mae hefyd yn ymwneud â hyrwyddo lles yr unigolyn, gan atal eu hiechyd a datblygiad rhag cael eu handwyo a sicrhau eu bod yn derbyn gofal diogel ac effeithiol.

Gall camdriniaeth ddigwydd unrhyw le ac mae'r unigolyn sy'n gyfrifol am y gamdriniaeth fel arfer yn gyfarwydd iawn i'r unigolyn sy'n cael ei gamdrin. Gall y gamdriniaeth neu esgeuluster fod yn fwriadol neu'n anfwriadol.

Use the thought shower to note down as many types of abuse as you can think of.

Defnyddiwch y gawod syniadau i nodi cynifer o fathau gwahanol o gamdriniaeth ag y gallwch.

What is abuse? Beth yw camdriniaeth?

Domestic abuse: This can be adults suffering domestic abuse or children witnessing the abuse.

Sexual abuse: Being forced or coerced to take part in sexual activities.

Neglect: Failure to meet the individual’s basic needs.

Online abuse: Any type of abuse that happens online when using social media sites or gaming for example.

Bullying: This can be verbal or physical and usually happens over long periods of time.

Physical abuse: Deliberately hurting or causing injury to an individual.

Emotional: Making an individual feel worthless or scared.

Discriminatory: Abuse that concerns one of the nine protected characteristics.

Psychological: Denying an individual contact with others so that they experience feelings of isolation, control, humiliation, and threats of abandonment are just some of the forms of psychological abuse.

Financial: Theft, fraud or coercing an individual to part with money or property or misuse of an individual’s property or finances.

Grooming: Building an emotional connection with a child to gain their trust for the purposes of sexual abuse, sexual exploitation or trafficking.

Self-neglect: Failing to care for personal hygiene, health or surroundings.

Sexual exploitation: Abusers giving gifts, money or affection to an individual for performing sexual acts.

Elder abuse: Takes place when an older person is harmed or caused distress by a single or repeated action, or lack of appropriate action, by an individual they should be able to trust.

Hate crime: Verbal or physical abuse because of one of the nine protected characteristics.

Mate crime: Befriending an individual to take advantage of them.

Radicalisation: When an individual, often from a vulnerable background, begins to adopt extreme political, religious, or social views and through these engages in extremist activity.

Institutional: A culture in care homes that restricts dignity, privacy, choice, independence or fulfilment.

Cam-drin domestig: Gall hyn fod yn oedolion sy'n dioddef cam-drin domestig neu blant sy'n gweld y gamdriniaeth.

Cam-drin rhywiol: Gorfodi unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol.

Egesulustod: Methiant i fodloni anghenion sylfaenol yr unigolyn.

Cam-drin ar-lein: Unrhyw fath o gam-drin sy'n digwydd ar-lein wrth ddefnyddio safleoedd cyfryngau cymdeithasol neu gemau cyfrifiadurol er enghraifft.

Bwlio: Gall hyn fod yn eiriol neu'n gorfforol ac mae fel arfer yn digwydd dros gyfnodau hir.

Cam-drin corfforol: Anafu neu achosi niwed i unigolyn yn fwriadol.

Emosiynol: Gwneud i unigolyn deimlo'n ddiwerth neu'n ofnus.

Gwahaniaethol: Camdriniaeth sy'n ymwneud ag un o'r naw nodwedd warchodedig.

Seicolegol: Atal unigolyn rhag dod i gysylltiad ag eraill er mwyn iddo brofi teimladau o arwahanrwydd, rheolaeth, cywilydd, a theimlad o unigolyn yn bygwth eu gadael yw rhai mathau o gam-drin seicolegol.

Ariannol: Dwyn, twyll neu orfodi unigolyn i roi ei arian neu eiddo neu gamddefnyddio eiddo neu arian unigolyn.

Paratoi i bwrpas rhywiol: Meithrin cysylltiad emosiynol gyda phlentyn i ennill ei ymddiriedaeth at ddibenion cam-drin rhywiol, camfanteisio rhywiol neu fasnachu.

Hunanesgeulustod: Methiant i ofalu am hylendid personol, iechyd neu'r amgylchynau.

Camfanteisio rhywiol: Y rhai sy'n cam-drin yn cynnig anrhegion, arian neu serch i unigolyn am gyflawni gweithredoedd rhywiol.

Cam-drin henuriad: Yn digwydd pan fydd unigolyn hŷn yn cael ei anafu neu achosir gofid iddo gan un weithred neu weithred a ailadroddir, neu ddiffyg gweithred briodol, gan rywun y dylai allu ymddiried ynddo.

Trosedd gasineb: Cam-drin geiriol neu gorfforol oherwydd un o'r naw nodwedd warchodedig.

Trosedd Ffrindiau Ffug: Dod yn ffrindiau ag unigolyn er mwyn manteisio arno.

Radicaleiddio: Pan fydd unigolyn, yn aml o gefndir agored i niwed, yn dechrau mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol, crefyddol neu gymdeithasol eithafol a thrwy'r rhain yn cymryd rhan mewn gweithgarwch eithafol.

Sefydliadol: Diwylliant mewn cartrefi gofal sy'n cyfyngu ar urddas, preifatrwydd, dewis, annibyniaeth neu boddhad.