Benefits of active participation for the individual

Buddion cyfranogiad gweithredol i'r unigolyn

Benefits of active participation for the individual

There are numerous benefits on an individuals’ development and well-being from the inclusive approach of the active participation process.

An individual who actively participates in their own development and well-being can feel empowered to make positive choices to aid recovery and improve/maintain overall development and well-being.

The benefits of active participation can be divided into two categories - primary and secondary.

Primary benefits of an individual actively engaging with active participation are viewed as direct improvement to aspects of their development and well-being.

These would include:

  • more independence and autonomy in what they can do
  • greater physical benefits including being more active
  • more opportunity to have a say in matters of direct concern to their lives
  • more social contact and interpersonal relationships
  • greater self‐awareness and involvement
  • increased opportunities for learning and developing skills, knowledge, education and employment
  • a greater sense of well‐being with increased self‐esteem and self‐confidence.

Secondary benefits are not direct improvements or the original main aim of active participation, though are likely to be results of the primary benefits gained.

These would include:

  • a decrease in the likelihood of abuse
  • a decrease in the risk of vulnerability.

Benefits for children and young individuals could include but are not limited to the following:

  • developing independence and a sense of responsibility
  • developing leadership skills
  • developing a sense of belonging
  • increased self-esteem
  • improved relationships
  • improved communication and collaboration skills
  • increased motivation to do well.

Benefits for adults could include but are not limited to the following:

  • feeling in control
  • having a sense of dignity
  • feeling connected to others in the community
  • developing relationships
  • increased independence
  • increased self-awareness
  • greater levels of physical activity
  • increased self-esteem
  • enhanced well-being.

Mae ymagwedd gynhwysol y broses cyfranogiad gweithredol yn cynnwys nifer o fanteision ar gyfer datblygiad a llesiant unigolyn.

Gall unigolyn sy'n cyfranogi yn weithredol yn eu datblygiad a'u llesiant eu hunain deimlo eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau cadarnhaol i helpu i deimlo'n well ac i wella/cynnal datblygiad a llesiant cyffredinol.

Mae buddion cyfranogiad gweithredol yn gallu cael eu rhannu'n ddau gategori – cynradd ac eilaidd.

Mae manteision cynradd i unigolyn sy'n ymgysylltu'n weithredol â chyfranogiad gweithredol yn cael eu gweld fel gwelliant uniongyrchol i agweddau ar eu datblygiad a'u llesiant, gan gynnwys:

  • mwy o annibyniaeth ac ymreolaeth o ran beth gall ei wneud
  • mwy o fanteision corfforol, gan gynnwys bod yn fwy gweithredol
  • mwy o gyfle i leisio barn ar faterion sy’n uniongyrchol berthnasol i’w fywyd
  • gwell cyswllt cymdeithasol a pherthnasau rhyngbersonol
  • mwy o hunanymwybyddiaeth a gwell cyfranogiad
  • mwy o gyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau, gwybodaeth, addysg a chyflogaeth
  • gwell teimlad o lesiant gyda mwy o hunan-barch a hunanhyder.

Nid yw manteision eilaidd yn welliannau uniongyrchol neu nid dyma yw prif nod gwreiddiol cyfranogiad gweithredol, er maen nhw'n debygol o fod o ganlyniad i'r manteision cynradd sydd wedi'u hennill.

Byddai’r rhain yn cynnwys:

  • llai o debygolrwydd o ddioddef camdriniaeth
  • llai o berygl o fod yn agored i niwed.

Gallai manteision ar gyfer plant ac unigolion ifanc gynnwys y canlynol ond heb eu cyfyngu iddyn nhw:

  • datblygu annibyniaeth ac ymdeimlad o gyfrifoldeb
  • datblygu sgiliau arwain
  • datblygu ymdeimlad o berthyn
  • mwy o hunan-barch
  • perthnasoedd gwell
  • sgiliau cyfathrebu a chydweithio gwell
  • mwy o gymhelliant i wneud yn dda.

Gallai’r manteision i oedolion gynnwys y canlynol, ond nid ydyn nhw’n gyfyngedig i’r rhestr hon:

  • teimlo bod popeth dan reolaeth
  • ymdeimlad o urddas
  • teimlo bod ganddyn nhw gysylltiadau ag eraill yn y gymuned
  • datblygu perthnasoedd
  • mwy o annibyniaeth
  • mwy o hunan-ymwybyddiaeth
  • lefelau gwell o weithgarwch corfforol
  • mwy o hunan-barch
  • llesiant gwell.

Benefits of active participation for the individual

Drag the benefits to the correct category.

Buddion cyfranogiad gweithredol i’r unigolyn

Llusgwch y buddion at y categori cywir.

      Reducing the barriers to Active Participation

      Lleihau’r rhwystrau i Gyfranogiad Gweithredol

      If an individual is unable to participate in an activity, the reasons for this need to be identified, and ways to remove or minimise any barriers should be considered. This can help the individual have more independence and control over their life, which will positively affect their self-esteem and well-being.

      • Physical barriers (for example, a lack of wheelchair access). Ensuring the location of any activity is free from accessibility issues would remove this barrier.
      • Intellectual barriers (for example, not understanding the reasons an individual should be participating). A consideration could be ensuring the best methods of communication for the individual, as described in their care plan, are used.
      • Emotional barriers (for example, depression or anxiety). Offering lots of praise and ensuring the individual is allowed to do things at their own pace would minimise this barrier. Seeking outside expert advice from the individual’s wider care team would also be advisable.
      • Social barriers (for example, an individual locking themselves in their room so they don’t have to interact with anyone). Encouraging the individual to remove the barrier whilst also respecting their right to choice and privacy would help.
      • Cultural barriers (for example, religious observations may prevent an individual from participating in a particular activity or at a particular time). A consideration could be to read the individual’s care plan before planning activities for them, to ensure the individual’s background has been understood.

      Os nad yw unigolyn yn gallu cymryd rhan mewn gweithgaredd, mae angen nodi’r rhesymau pam, ac ystyried ffyrdd o gael gwared ar unrhyw rwystrau, neu eu lleihau. Gall hyn helpu’r unigolyn i gael mwy o annibyniaeth a rheolaeth dros ei fywyd, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ei hunan-barch a’i lesiant.

      • Rhwystrau corfforol (er enghraifft, diffyg mynediad i gadeiriau olwyn). Byddai sicrhau nad oes unrhyw faterion hygyrchedd yn effeithio ar y lleoliad lle mae gweithgareddau’n cael eu cynnal yn cael gwared ar y rhwystr hwn.
      • Rhwystrau deallusol (er enghraifft, peidio â deall y rhesymau pam dylai unigolyn fod yn cyfranogi). Gallai ystyriaeth bwysig gynnwys sicrhau bod y dulliau cyfathrebu gorau ar gyfer yr unigolyn, fel sydd wedi’i nodi yn ei gynllun gofal, yn cael eu defnyddio.
      • Rhwystrau emosiynol (er enghraifft, iselder neu gorbryder). Byddai cynnig llawer o ganmoliaeth a sicrhau bod yr unigolyn yn cael cyfle i wneud pethau ar ei liwt ei hun yn lleihau’r rhwystr hwn. Byddai hefyd yn syniad da ceisio cyngor arbenigol allanol gan dîm gofal ehangach yr unigolyn.
      • Rhwystrau cymdeithasol (er enghraifft, unigolyn yn cloi ei hun yn ei ystafell i osgoi rhyngweithio â phobl eraill). Byddai’n helpu i annog yr unigolyn i gael gwared ar y rhwystr, ond gan barchu ei hawl i wneud ei ddewisiadau ei hun a’i hawl i breifatrwydd ar yr un pryd.
      • Rhwystrau diwylliannol (er enghraifft, gall arferion crefyddol atal unigolyn rhag gallu cyfranogi mewn gweithgaredd penodol neu ar adeg benodol). Gallai ystyriaeth bwysig gynnwys darllen cynllun gofal yr unigolyn cyn cynllunio gweithgareddau ar ei gyfer, er mwyn sicrhau dealltwriaeth o gefndir yr unigolyn.