Codes of practice are produced by regulatory bodies, such as, Social Care Wales (SCW) and the Nursing and Midwifery Council.

Cynhyrchir codau ymarfer gan gyrff rheoleiddio, megis, Gofal Cymdeithasol Cymru (SCW) a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Paper family

The codes of practice set out the standards of practice and behaviour expected of health and social care, and childcare workers and their employers.

Mae'r codau ymarfer yn amlinellu'r safonau ymarfer a'r ymddygiad a ddisgwylir gan weithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant a'u cyflogwyr.

Hint 1: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

Awgrymiadau 1: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.

The Code of Professional Practice for Social Care

Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Health visitor

The seven sections of the Code.

As a social care worker, you must:

  1. Respect the views and wishes, and promote the rights and interests, of individuals and carers.
  2. Strive to establish and maintain the trust and confidence of individuals and carers.
  3. Promote the well-being, voice and control of individuals and carers while supporting them to stay safe.
  4. Respect the rights of individuals while seeking to ensure that their behaviour does not harm themselves or other individuals.
  5. Act with integrity and uphold public trust and confidence in the social care profession.
  6. Be accountable for the quality of your work and take responsibility for maintaining and developing knowledge and skills.
  7. In addition to sections 1 – 6, if you are responsible for managing or leading staff, you must embed the Code in their work.

Saith rhan y Cod.

Fel gweithiwr gofal cymdeithasol, rhaid i chi:

  1. Parchu barn a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a diddordebau, unigolion a gofalwyr.
  2. Ymdrechu i sefydlu a chynnal ffydd a hyder unigolion a gofalwyr.
  3. Hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr a'u cefnogi i gadw'n ddiogel.
  4. Parchu hawliau unigolion gan geisio sicrhau nad yw eu hymddygiad yn eu niweidio hwy nag eraill.
  5. Ymddwyn gyda gonestrwydd a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.
  6. Bod yn atebol am ansawdd eich gwaith a chymryd cyfrifoldeb dros gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau.
  7. Yn ogystal ag adrannau 1 - 6, os ydych yn gyfrifol am reoli neu arwain staff, rhaid i chi wreiddio'r Cod yn eu gwaith.

National Midwifery Council (NMC) Code of Conduct

Cod Ymddygiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Genedlaethol (NMC)

New born

The Code contains the professional standards that registered nurses and midwives must uphold. UK nurses and midwives must act in line with the Code, whether they are providing direct care to individuals, groups or communities or bringing their professional knowledge to bear on nursing and midwifery practice in other roles, such as leadership, education or research.

There are four main themes:

  1. Prioritise individuals
    • put the interests of individuals using or needing nursing or midwifery services first
    • make their care and safety your main concern and make sure that their dignity is preserved and their needs are recognised, assessed and responded to
    • make sure that those receiving care are treated with respect, that their rights are upheld and that any discriminatory attitudes and behaviours towards those receiving care are challenged.
  2. Practise effectively
    • assess need and deliver or advise on treatment, or give help (including preventative or rehabilitative care) without too much delay and to the best of your abilities, on the basis of the best evidence available and best practice
    • communicate effectively, keeping clear and accurate records and sharing skills, knowledge and experience where appropriate
    • reflect and act on any feedback you receive to improve your practice.
  3. Preserve safety
    • make sure that patient and public safety is protected
    • work within the limits of your competence, exercising your professional ‘duty of candour’ and raising concerns immediately whenever you come across situations that put patients or public safety at risk
    • take necessary action to deal with any concerns where appropriate.
  4. Promote professionalism and trust
    • uphold the reputation of your profession at all times
    • display a personal commitment to the standards of practice and behaviour set out in the Code.

Be a model of integrity and leadership for others to aspire to, this should lead to trust and confidence in the profession from patients, individuals receiving care, other healthcare professionals and the public.

Mae'r Cod yn cynnwys y safonau proffesiynol y mae'n orfodol i nyrsys a bydwragedd cofrestredig eu cynnal. Rhaid i nyrsys a bydwragedd y DU weithredu yn unol â'r Cod, boed yn darparu gofal uniongyrchol i unigolion, grwpiau neu gymunedau neu'n defnyddio eu gwybodaeth broffesiynol o'r byd nyrsio a bydwreigiaeth mewn rolau eraill, fel arweinyddiaeth, addysg neu ymchwil.

Ceir pedwar prif thema:

  1. Blaenoriaethu unigolion
    • rhoi buddiannau unigolion sy’n defnyddio neu sydd angen gwasanaethau nyrsio neu fydwreigiaeth yn gyntaf
    • gwneud eu gofal a diogelwch eich prif ystyriaeth, a sicrhau bod eu hurddas yn cael ei gadw a'u hanghenion yn cael eu cydnabod, eu hasesu a'u hateb
    • gwneud yn siŵr bod y rheini sy'n derbyn gofal yn cael eu trin gyda pharch, bod eu hawliau'n cael eu parchu, a bod unrhyw agweddau ac ymddygiadau sy'n gwahaniaethu'r sawl sy'n derbyn gofal yn cael eu herio.
  2. Ymarfer yn effeithiol
    • asesu'r hyn sydd ei angen a darparu neu gynghori ar driniaeth, neu roi cymorth (gan gynnwys gofal ataliol neu adsefydlu) yn ddi-oed a hyd eithaf eich gallu, ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael a'r arfer gorau
    • cyfathrebu'n effeithiol, cadw cofnodion clir a chywir a rhannu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad lle mae hynny'n briodol
    • ystyried a gweithredu ar unrhyw adborth a gewch i wella'ch practis.
  3. Cynnal diogelwch
    • sicrhau diogelwch y claf a'r cyhoedd
    • gweithio o fewn ffiniau'ch gallu, gan ddefnyddio'ch 'dyletswydd gonestrwydd' proffesiynol ac wrth godi pryderon yn syth pan welwch sefyllfa lle mae diogelwch y claf neu'r cyhoedd mewn perygl
    • cymryd y camau sydd angen i ddelio gydag unrhyw bryderon lle bo’n briodol.
  4. Hyrwyddo proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth
    • parhau i gadw enw da eich proffesiwn
    • dangos ymrwymiad personol at y safonau ymarfer a'r ymddygiad a nodir yn y Cod.

Bod yn fodel o onestrwydd ac arweinyddiaeth i eraill anelu ato, dylai hyn gwneud i gleifion, unigolion sy'n derbyn gofal, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a'r cyhoedd gael ffydd a hyder yn y proffesiwn.

Decide whether each of the statements belong to the Social Care Wales Codes of Practice or the National Midwifery Council Codes of Conduct by clicking the correct button.

Trwy glicio ar y botwm cywir, penderfynwch os yw pob un o'r datganiadau'n perthyn i God Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru neu Godau Ymddygiad Cyngor Cenedlaethol Bydwreigiaeth.

Penalty total: Cyfanswm cosbau:

Your time: Eich amser: 00:00:00

The current record is: Yr amser gorau: 00:00:00

The Code of Professional Practice for Social Care

Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

QuestionCwestiwn Your AnswerEich Ateb

Suggested Answer:

Ateb Awgrymedig:

Prompts

Some areas that you may have considered:

  • Things that are wrong in the scene:
    • No proper induction for Sarah – she does not know what is expected of her
    • The manager is dismissive and does not pick up on Sarah’s concerns from her body language and facial expressions
    • There is little information passed on about the individuals Sarah will be working with
    • The manager is dismissive of family concerns and talks of Gareth as if his phone calls are a nuisance
    • The manager is dismissive of Betsan’s communication needs and has a lack of understanding of how dementia can impact upon the language that individuals are able to use
    • The environment – noise levels / TV
    • Lack of varied and individual centred activities
    • Lack of interaction between staff and the individuals living in the home
    • Did not pick up on Betsan’s facial expression that she wanted an individual to talk to her when the new member of staff was being shown around
    • Calling Betsan ‘Bet’
    • Betsan’s appearance is unkempt
    • The food is unappetising and would be difficult for an individual with sight loss or altered perception to see
    • There is no drink on the table
    • The use of a plastic apron and the way that this is placed on Betsan
    • The use of a spoon to feed Betsan.
  • Sarah and Betsan are likely to be feeling:
    • Ill at ease
    • Lost
    • Confused
    • Anxious
    • Distressed
    • Not valued.

The consequences for Betsan are likely to be that her quality of life and well-being seriously deteriorate and that Sarah will either leave her employment fairly quickly or get sucked into a poor culture and ways of working.

Awgrymiadau

Rhai meysydd y gallech chi fod wedi’u hystyried:

  • Pethau sy’n anghywir yn yr olygfa:
    • Dim proses sefydlu briodol ar gyfer Sarah – dyw hi ddim yn gwybod beth a ddisgwylir ganddi
    • Mae’r rheolwr yn ei diystyru a dyw hi ddim yn sylwi ar bryderon Sarah yn sgil iaith ei chorff ac o’r olwg ar ei hwyneb
    • Does fawr ddim gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo am yr unigolion y bydd Sarah yn cydweithio â nhw
    • Mae’r rheolwr yn diystyru pryderon teuluol ac yn siarad am Gareth fel petai ei alwadau ffôn yn niwsans
    • Mae’r rheolwr yn diystyru anghenion cyfathrebu Betsan ac mae ganddi ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut y gall dementia effeithio ar yr iaith y gall unigolion ei defnyddio
    • Yr amgylchedd – lefelau sŵn / teledu
    • Diffyg gweithgareddau amrywiol sy’n canolbwyntio ar unigolion
    • Diffyg ymwneud rhwng y staff a’r unigolion sy’n byw yn y cartref
    • Ni sylwodd o’r olwg oedd ar wyneb Betsan ei bod am i unigolyn siarad â hi pan oedd yr aelod staff newydd yn cael ei hebrwng o gwmpas
    • Galw Betsan yn ‘Bet’
    • Ymddangosiad Betsan yn anniben
    • Dyw’r bwyd ddim yn edrych yn flasus iawn a byddai’n anodd i unigolyn a oedd yn colli ei olwg neu â nam ar y golwg ei weld
    • Does dim byd i’w yfed ar y bwrdd
    • Defnyddio ffedog blastig a’r ffordd y mae’n cael ei rhoi ar Betsan
    • Defnyddio llwy i fwydo Betsan.
  • Mae Sarah a Betsan yn debygol o fod yn teimlo fel a ganlyn:
    • Yn chwithig
    • Ar goll
    • Yn ddryslyd
    • Yn bryderus
    • Yn ofidus
    • Nad ydynt yn cael ei gwerthfawrogi.

Mae’n debygol mai’r goblygiadau i Betsan yw y bydd ansawdd ei bywyd a’i llesiant yn dirywio’n ddifrifol a bydd Sarah naill ai’n gadael ei chyflogaeth yn eithaf cyflym neu’n cael ei sugno i mewn o ddiwylliant a ffyrdd gwael o weithio.

The Code of Professional Practice for Social Care

Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Which sections of the Code of Professional Practice do you think have not been upheld in this scene by the manager and why do you think this? Is there anything that could be done to remedy this?

Pa adrannau o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ydych chi’n credu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â nhw yn yr olygfa yma a pham ydych chi’n credu hyn? Oes yna unrhyw beth y gellid ei wneud i wella hyn?

Section in the CodeAdran yn y Côd Why?Pam? What could be done? Beth ellid ei wneud?

Prompts

Some sections that you may have identified from the Code of Professional Practice for Social Care:

Section 1: You must respect the views and wishes, and promote the rights and interests, of individuals and carers.
  • 1.1 working with individuals in individual centred ways and using this as the basis for social care and support;
  • 1.2 respecting and, where appropriate, promoting and upholding the rights, values, beliefs, views and wishes of both individuals and carers;
  • 1.3 supporting individuals to maximise their decision making and control over their lives;
  • 1.4 working with individuals and carers in ways that respect their dignity, privacy, preferences, culture, language and rights;
  • 1.5 ensuring that your actions promote equality, diversity and inclusion.
Section 2: You must strive to establish and maintain the trust and confidence of individuals and carers.
  • 2.2 communicating in an appropriate, open, accurate and straightforward way;
  • 2.3 actively supporting individuals and carers to communicate their views and preferences using their preferred method and language;
  • 2.4 respecting confidential information and clearly explaining policies about confidentiality to individuals and carers.
Section 3: You must promote the well-being, voice and control of individuals and carers while supporting them to stay safe.
  • 3.1 working with individuals in ways that maximise their well-being and active participation and balances their rights and responsibilities;
  • 3.4 recognising and using sensitively and responsibly the power that comes from your work with individuals and carers;
  • 3.5 supporting individuals and carers to express concerns or make complaints, taking complaints seriously and responding to them or passing them to the appropriate individual.
Section 7: In addition to sections 1 – 6, if you are responsible for managing or leading staff, you must embed the Code in their work.
  • 7.1 ensuring staff know about the Code and how it applies to their conduct and practice;
  • 7.2 supporting an open and learning culture in the workplace where staff have the opportunity to raise concerns and access, discuss, reflect on and share best practice;
  • 7.3 ensuring induction, training, learning and development opportunities support staff to maintain and develop their knowledge, skills and understanding.

Awgrymiadau

Rhai meysydd y gallech chi fod wedi’u hystyried o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol:

Adran 1: Rhaid i chi barchu safbwyntiau a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a buddiannau, unigolion a gofalwyr.
  • 1.1 gweithio gydag unigolion mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a defnyddio hyn fel sail ar gyfer gofal a chymorth cymdeithasol;
  • 1.2 parchu a, lle bo hynny’n briodol, hyrwyddo a chynnal hawliau, gwerthoedd, credoau, safbwyntiau a dymuniadau unigolion a gofalwyr;
  • 1.3 cefnogi unigolion i’w galluogi i wneud cymaint o’u penderfyniadau ag y bo modd a bod â chymaint o reolaeth ag y bo modd dros eu bywydau;
  • 1.4 gweithio gydag unigolion a gofalwyr mewn ffyrdd sy’n parchu eu hurddas, eu preifatrwydd, eu dewisiadau, eu diwylliant, eu hiaith a’u hawliau;
  • 1.5 sicrhau bod eich gweithredoedd yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Adran 2: Rhaid i chi ymdrechu i sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.
  • 2.2 cyfathrebu mewn ffordd briodol, agored, gywir ac uniongyrchol;
  • 2.3 cefnogi unigolion a gofalwyr yn weithredol fel y gallant gyfleu eu safbwyntiau a’u dewisiadau gan ddefnyddio’r dull ac iaith y maent yn ei ffafrio;
  • 2.4 parchu gwybodaeth gyfrinachol ac esbonio polisïau ynghylch cyfrinachedd yn eglur i unigolion a gofalwyr.
Adran 3: Rhaid i chi hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr gan eu cefnogi i’w cadw eu hunain yn ddiogel.
  • 3.1 gweithio gydag unigolion mewn ffyrdd sy’n gwneud y mwyaf o’u llesiant a’u cyfranogiad gweithredol ac sy’n cydbwyso eu hawliau a’u cyfrifoldebau;
  • 3.4 cydnabod a defnyddio’n sensitif a chyfrifol y pwer a ddaw o’ch gwaith gydag unigolion a gofalwyr;
  • 3.5 cefnogi unigolion a gofalwyr i fynegi pryderon a gwneud cwynion, cymryd cwynion o ddifrif ac ymateb iddynt neu eu trosglwyddo i’r unigolyn priodol.
Adran 7: Yn ogystal ag adrannau 1 - 6, os ydych yn gyfrifol am reoli neu arwain staff, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y Côd yn rhan annatod o’u gwaith.
  • 7.1 sicrhau bod staff yn gwybod am y Côd a’i berthnasedd i’w hymddygiad a’u hymarfer;
  • 7.2 cefnogi diwylliant agored a dysgedig yn y gweithle lle mae gan staff y cyfle i godi pryderon a chael mynediad i, trafod, myfyrio ar a rhannu arferion gorau;
  • 7.3 sicrhau bod cyfleoedd ymsefydlu, hyfforddiant, dysgu a datblygu yn cefnogi staff i gynnal a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth.

The Code of Professional Practice for Social Care

Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

After watching 'Care home 2' reflect upon the following:

  • What was different within this scene?
  • How do you think Betsan and Sarah are feeling?
  • What may the consequences be for each of them?
  • What else could be better? / how could this be built upon?

Ar ôl gwylio ‘Cartref gofal 2’ ystyriwch y canlynol:

  • Beth oedd yn wahanol yn yr olygfa hon?
  • Sut ydych chi’n meddwl y mae Betsan a Sarah yn teimlo?
  • Beth yw’r goblygiadau posib i’r naill a’r llall?
  • Beth arall allai fod yn well? / sut y gellid adeiladu ar hyn?

Prompts

Some areas that you may have considered:

  • What was different within this scene:
    • A more structured induction for Sarah – no pressure on her first day, allocated a mentor
    • The manager seems to have a better understanding of dementia
    • The manager is respectful of family concerns and how Gareth may be feeling
    • The manager acknowledges Betsan’s communication needs and has an understanding of how dementia can impact upon the language that individuals are able to use. There is some attempt to start meeting her communication needs
    • The language that the manager uses and the way that she talks about the individuals living in the home is more respectful and demonstrates that she values them
    • The environment – calmer
    • A range of varied and individual centred activities
    • Interaction between staff and the individuals living in the home
    • Calling Betsan by her preferred name
    • Betsan’s appearance is better – she no longer looks unkempt
    • The food looks appetising and there is good use of colour contrast that would help individuals with sight loss
    • There is drink on the table
    • No plastic apron
    • A knife and fork laid on the table rather than a spoon
    • Staff and the individuals living in the home eat together – this helps a feeling of equality and can help foster relationships
    • Sarah seems more confident and relaxed.
  • Feelings that Betsan and Sarah might have and the consequences for them:
    • Relaxed and comfortable
    • Confident
    • Happy
    • Valued
    • Connected
    • A sense of belonging for Betsan
    • Job satisfaction for Sarah
    • Betsan would have a better quality of life
    • Betsan’s family would feel reassured about her care and support
    • Sarah would be less likely to want to leave her employment, she is more likely to develop and grow.
  • Ideas of what could be better or how this could be built upon:
    • The manager could further develop the Welsh language skills of her workers by encouraging staff to use the Welsh that they do have, supporting Welsh language development in the work place, specifically targeting the recruitment of Welsh speakers and maybe by Betsan teaching care staff different Welsh words each day and having bilingual signs
    • A choice of different meals
    • Betsan could perhaps be involved in some food preparation
    • Alternative methods of communication could be used for her to stay in touch with her family such as skype.

If you work with children or young individuals or younger adults with learning difficulties or mental health issues, what learning is there from watching this scene about how their care and support could be improved?

Awgrymiadau

Rhai meysydd y gallech chi fod wedi’u hystyried:

  • Beth oedd yn wahanol yn yr olygfa hon:
    • Proses sefydlu mwy strwythuredig ar gyfer Sarah - dim pwysau ar ei diwrnod cyntaf, dyrannwyd mentor iddi
    • Ymddengys fod gan y rheolwr well dealltwriaeth o ddementia
    • Mae’r rheolwr yn ymdrin â phryderon y teulu a sut y gall Gareth fod yn teimlo
    • Mae’r rheolwr yn cydnabod anghenion cyfathrebu Betsan ac mae ganddi ddealltwriaeth o sut gall dementia effeithio ar yr iaith y gall unigolion ei defnyddio. Gwneir rhywfaint o ymdrech i geisio dechrau diwallu ei hanghenion cyfathrebu
    • Mae’r iaith y mae’r rheolwr yn ei defnyddio a’r ffordd y mae’n siarad am unigolion sy’n byw yn y cartref yn dangos mwy o barch a’i bod yn eu gwerthfawrogi
    • Yr amgylchedd – yn dawelach
    • Gweithgareddau amrywiol sy’n canolbwyntio ar unigolion
    • Rhyngweithio rhwng y staff a’r unigolion sy’n byw yn y cartref
    • Cyfarch Betsan gyda’r enw y mae’n ei ffafrio
    • Mae ymddangosiad Betsan yn well – dyw hi ddim yn edrych yn anniben mwyach
    • Mae’r bwyd yn edrych yn flasus ac mae gwrthgyferbyniad da yn y lliwiau a fyddai’n helpu unigolion sy’n colli’u golwg
    • Mae yna rywbeth i’w yfed ar y bwrdd
    • Dim ffedog blastig
    • Mae cyllell a fforc wedi’u gosod ar y bwrdd yn hytrach na llwy
    • Mae’r staff a’r unigolion sy’n byw yn y cartref yn bwyta gyda’i gilydd – mae hyn yn helpu gyda’r ymdeimlad o gydraddoldeb a gall helpu i feithrin perthynas rhwng unigolion
    • Ymddengys Sarah yn fwy hyderus a didaro.
  • Teimladau a allai fod gan Betsan a Sarah a’r goblygiadau iddyn nhw:
    • Didaro a chyfforddus
    • Hyderus
    • Hapus
    • Eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
    • Cysylltiad ag eraill
    • Ymdeimlad o berthyn i Betsan
    • Bodlonrwydd swydd i Sarah
    • Byddai gan Betsan well ansawdd bywyd
    • Byddai hyn yn rhoi cysur i deulu Betsan ynglŷn â’i gofal a’i chymorth
    • Byddai Sarah yn llai tebygol o fod am adael ei chyflogaeth, mae’n fwy tebygol o ddatblygu a thyfu.
  • Syniadau o ran beth allai fod yn well neu sut gellid adeiladu ar hyn:
    • Gallai’r rheolwr ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ei gweithwyr ymhellach drwy annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddyn nhw, gan gefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg yn y gweithle, yn benodol targedu’r broses o recriwtio siaradwyr Cymraeg ac efallai drwy gael Betsan i ddysgu gwahanol eiriau Cymraeg i staff gofal bob dydd a chael arwyddion dwyieithog
    • Dewis o wahanol brydau
    • Gallai Betsan fod yn rhan o’r gwaith o baratoi bwyd o bosibl
    • Gellid defnyddio dulliau cyfathrebu amgen er mwyn iddi gadw mewn cysylltiad â’i theulu fel skype.

Os ydych chi’n gweithio gyda phlant neu unigolion ifanc neu oedolion iau ag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, beth ellid ei ddysgu o wylio’r olygfa hon ynglŷn â sut y gellid gwella eu gofal a’u cymorth?

The Code of Professional Practice for Social Care

Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Which sections of the Code of Professional Practice do you think have been upheld in this scene by the manager and Sarah and why do you think this?

Pa adrannau o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ydych chi’n credu y mae’r rheolwr a Sarah wedi cydymffurfio â nhw yng ngolygfa 4 a pham ydych chi’n credu hyn?

Section in the CodeAdran yn y Côd Why?Pam? What could be done? Beth ellid ei wneud?

Prompts

Some sections that you may have identified from the Code of Professional Practice for Social Care:

Section 1: You must respect the views and wishes, and promote the rights and interests, of individuals and carers.
  • 1.1 working with individuals in individual centred ways and using this as the basis for social care and support;
  • 1.2 respecting and, where appropriate, promoting and upholding the rights, values, beliefs, views and wishes of both individuals and carers;
  • 1.3 supporting individuals to maximise their decision making and control over their lives;
  • 1.4 working with individuals and carers in ways that respect their dignity, privacy, preferences, culture, language and rights;
  • 1.5 ensuring that your actions promote equality, diversity and inclusion.
Section 2: You must strive to establish and maintain the trust and confidence of individuals and carers.
  • 2.2 communicating in an appropriate, open, accurate and straightforward way;
  • 2.3 actively supporting individuals and carers to communicate their views and preferences using their preferred method and language.
Section 3: You must promote the well-being, voice and control of individuals and carers while supporting them to stay safe.
  • 3.1 working with individuals in ways that maximise their well-being and active participation and balances their rights and responsibilities;
  • 3.4 recognising and using sensitively and responsibly the power that comes from your work with individuals and carers.
Section 7: In addition to sections 1 – 6, if you are responsible for managing or leading staff, you must embed the Code in their work.
  • 7.2 supporting an open and learning culture in the workplace where staff have the opportunity to raise concerns and access, discuss, reflect on and share best practice;
  • 7.3 ensuring induction, training, learning and development opportunities support staff to maintain and develop their knowledge, skills and understanding.

Awgrymiadau

Rhai adrannau o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol y gallech fod wedi’u nodi:

Adran 1: Rhaid i chi barchu safbwyntiau a dymuniadau, a hyrwyddo hawliau a buddiannau, unigolion a gofalwyr.
  • 1.1 gweithio gydag unigolion mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a defnyddio hyn fel sail ar gyfer gofal a chymorth cymdeithasol;
  • 1.2 parchu a, lle bo hynny’n briodol, hyrwyddo a chynnal hawliau, gwerthoedd, credoau, safbwyntiau a dymuniadau unigolion a gofalwyr;
  • 1.3 cefnogi unigolion i’w galluogi i wneud cymaint o’u penderfyniadau ag y bo modd a bod â chymaint o reolaeth ag y bo modd dros eu bywydau;
  • 1.4 gweithio gydag unigolion a gofalwyr mewn ffyrdd sy’n parchu eu hurddas, eu preifatrwydd, eu dewisiadau, eu diwylliant, eu hiaith a’u hawliau;
  • 1.5 sicrhau bod eich gweithredoedd yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Adran 2: Rhaid i chi ymdrechu i sefydlu a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.
  • 2.2 cyfathrebu mewn ffordd briodol, agored, gywir ac uniongyrchol;
  • 2.3 cefnogi unigolion a gofalwyr yn weithredol fel y gallant gyfleu eu safbwyntiau a’u dewisiadau gan ddefnyddio’r dull ac iaith y maent yn ei ffafrio.
Adran 3: Rhaid i chi hyrwyddo llesiant, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr gan eu cefnogi i’w cadw eu hunain yn ddiogel.
  • 3.1 gweithio gydag unigolion mewn ffyrdd sy’n gwneud y mwyaf o’u llesiant a’u cyfranogiad gweithredol ac sy’n cydbwyso eu hawliau a’u cyfrifoldebau;
  • 3.4 cydnabod a defnyddio’n sensitif a chyfrifol y pwer a ddaw o’ch gwaith gydag unigolion a gofalwyr.
Adran 7: Yn ogystal ag adrannau 1 - 6, os ydych yn gyfrifol am reoli neu arwain staff, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y Côd yn rhan annatod o’u gwaith.
  • 7.2 cefnogi diwylliant agored a dysgedig yn y gweithle lle mae gan staff y cyfle i godi pryderon a chael mynediad i, trafod, myfyrio ar a rhannu arferion gorau;
  • 7.3 sicrhau bod cyfleoedd ymsefydlu, hyfforddiant, dysgu a datblygu yn cefnogi staff i gynnal a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth.