It is important that anti-discriminatory practice is always recognised and challenged. Ignoring comments or behaviour that are discriminatory can be seen as condoning or excusing discrimination. It is not always easy to challenge discrimination particularly if it has previously been accepted in a workplace or the individual behaving in a discriminatory way is a colleague or friend.

Mae'n bwysig bod arfer gwrthwahaniaethol yn cael ei gydnabod a'i herio bob amser. Gall anwybyddu sylwadau neu ymddygiad sy'n wahaniaethol awgrymu bod gwahaniaethu yn cael ei gymeradwyo neu esgusodi. Nid yw bob amser yn hawdd herio gwahaniaethu, yn enwedig os oedd yn dderbyniol yn y gweithle o'r blaen, neu os yw'r unigolyn sy'n ymddwyn mewn ffordd wahaniaethol yn gydweithiwr neu'n ffrind.

Challenging discrimination

Sometimes discrimination is a result of ignorance or having a poor role model and it is important to challenge discriminatory behaviour in a way that changes practice. Knowledge of the policies, procedures and practice in a work or educational setting will support challenge of behaviour.

To challenge discrimination

  • explain why comments or behaviour have been unacceptable
  • say what the impact of the comments or behaviour on others may be
  • suggest how to ensure anti discriminatory practice is followed in the future.

Weithiau mae gwahaniaethu yn digwydd o ganlyniad i anwybodaeth neu o gael delfryd ymddwyn gwael, ac mae'n bwysig herio ymddygiad gwahaniaethol mewn ffordd sy'n newid arferion. Bydd gwybodaeth am y polisïau, gweithdrefnau ac ymarferion y gweithle neu'r lleoliad addysg yn helpu tuag at herio'r fath ymddygiad.

Herio gwahaniaethu

  • esboniwch pam mae sylwadau neu ymddygiad wedi bod yn annerbyniol
  • eglurwch beth yw effaith y sylwadau neu'r ymddygiad ar eraill
  • awgrymwch sut i sicrhau arferion gwrthwahaniaethol yn y dyfodol.

Consider how you would react and deal with the following types of discrimination in your workplace or educational setting

Ystyriwch sut y byddech chi'n ymateb ac yn delio gyda'r mathau canlynol o wahaniaethu yn eich gweithle neu'ch lleoliad addysgol

A colleague comments that she thinks it is wrong that a pregnant staff member is making frequent toilet visits.

Mae cydweithiwr yn sôn ei bod hi'n credu bod aelod o staff beichiog yn mynd i'r toiled yn rhy aml.

Explain to the colleague that when pregnant the baby presses on the mother’s bladder so they need to go to the toilet more frequently. Have them understand that the extra toilet breaks are a necessity.

Esboniwch wrth y cydweithiwr fod angen i fenywod beichiog fynd i'r toiled yn amlach gan fod y babi yn pwyso ar eu pledren. Gwnewch yn siŵr fod y cydweithiwr yn deall ei bod yn angenrheidiol caniatáu iddyn nhw fynd i’r toiled yn amlach.

One of the staff members in a day nursery asks another staff member to give feedback to a parent at the end of the day because she can't make the mother hear her.

Mae angen amser i weddïo ar un o'r myfyrwyr yn ystod y dydd. Nid yw ei diwtor yn fodlon newid amseroedd y dosbarthiadau nac edrych ar y gwaith ar ôl dosbarth gyda'r myfyriwr.

The tutor needs to understand that the student has a right to observe his prayer times and that the college needs to support this. The tutor will need to change his class times or offer to help him catch up on the work he misses. This is not something that the tutor can fail to offer.

Mae angen i'r tiwtor ddeall bod gan y myfyriwr yr hawl i gadw at ei amseroedd gweddi a bod angen i'r coleg gefnogi hyn. Bydd angen i'r tiwtor un ai newid amseroedd ei ddosbarth neu gynnig ei helpu i ddal i fyny â'r gwaith bydd yn ei golli. Dydy hyn ddim yn rhywbeth gall y tiwtor fethu ei gynnig.

One of the students requires prayer time during the day. His tutor is unwilling to adjust times of classes or look at work after class with the student.

Mae aelod o staff mewn meithrinfa ddydd yn gofyn i aelod arall o staff i roi adborth i riant ar ddiwedd y dydd oherwydd dydy'r fam ddim yn gallu ei chlywed.

The staff member needs to be given training on how to communicate effectively. The colleague could agree to speak to the mother but she should insist that the staff member is there so that she can observe how to engage with the parent.

Mae angen rhoi hyfforddiant i'r aelod staff ar sut i gyfathrebu'n effeithiol. Gallai'r cydweithiwr gytuno i siarad gyda'r fam ond dylai hi fynnu bod yr aelod staff yno er mwyn iddi weld sut i feithrin perthynas gyda'r rhiant.

A student admits to being homophobic and refuses to participate in group activities with another student as he is gay.

Mae myfyriwr yn cyfaddef ei fod yn homoffobig ac yn gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp gyda myfyriwr arall gan ei fod yn hoyw.

The college needs to explain to the student that they have zero tolerance towards homophobic attitudes and that he has no choice but to participate in the group. College campaigns that celebrate difference may help to change homophobic attitudes.

Mae angen i'r coleg esbonio wrth y myfyriwr nad yw’n goddef agweddau homoffobaidd o gwbl ac nad oes ganddo ddim dewis a bod yn rhaid iddo gymryd rhan yn y grŵp. Gall ymgyrchoedd coleg sy'n dathlu gwahaniaeth helpu i newid agweddau homoffobaidd.