Introduction

Cyflwyniad

Taking blood pressure

In the past, the mind and the body were viewed as two separate entities. More modern thinking recognises the interdependence between our physical health and mental health. Studies have shown that physical activity has positive psychosocial benefits, which has a link with mental health. Therefore, taking care of physical health can be good for mental health too.

It is well known that taking care of our physical health is a vital aspect of staying healthy. Looking after physical health helps build resilience against physical diseases and illnesses. There is a link between moderate amounts of exercising and reducing the chances of developing heart disease, hypertension, osteoporosis and type two diabetes.

Physical activity helps in the development of resilience and coping strategies in managing mental health. Being active helps mental health as a distraction to unhelpful thinking (which improves mood), increasing a sense of control and confidence (when achieving a goal that is a challenge) and interaction with other individuals (as a way of developing mutual support).

Physical activity often involves a social element which can impact positively on mood and a sense of well-being too. It is important to remember that humans are social beings and need to experience life within a social context.

How much ‘screen time’ do you have in a day? Do you need to increase your physical activity? Research and choose three exercises you could easily do every hour to break up your sitting time.

Yn y gorffennol, roedd y meddwl a'r corff yn cael eu gweld fel dau endid ar wahân. Mae'r farn fwy modern yn cydnabod y gyd-ddibyniaeth rhwng ein hiechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae astudiaethau wedi dangos bod manteision seicogymdeithasol cadarnhaol i weithgarwch corfforol, ac mae cysylltiad rhwng hyn ag iechyd meddwl. Felly, gall gofalu am iechyd corfforol fod yn dda ar gyfer iechyd meddwl hefyd.

Mae'n hysbys bod gofalu am ein hiechyd corfforol yn agwedd hanfodol ar gadw'n iach. Mae gofalu am iechyd corfforol yn helpu i feithrin gwydnwch yn erbyn clefydau ac afiechydon corfforol. Mae cysylltiad rhwng gwneud ymarfer corff cymhedrol a lleihau'r siawns o ddatblygu clefyd y galon, gordensiwn, osteoporosis a diabetes math dau.

Mae gweithgarwch corfforol yn helpu i ddatblygu gwydnwch a strategaethau ymdopi i reoli iechyd meddwl. Mae bod yn weithgar yn helpu iechyd meddwl gan dynnu'r sylw oddi ar feddyliau nad ydyn nhw'n ddefnyddiol (gan wella hwyliau), gan gynyddu'r ymdeimlad o reolaeth a meithrin hyder (pan fo cyflawni'r nod hwnnw yn her) a rhyngweithio gydag unigolion eraill (fel ffordd o ddatblygu cymorth ar y cyd).

Mae gweithgarwch corfforol hefyd yn aml yn cynnwys elfen gymdeithasol sy'n gallu cael effaith gadarnhaol ar yr hwyliau ac ymdeimlad o leisant hefyd. Mae'n bwysig cofio bod unigolion yn fodau cymdeithasol a bod arnyn nhw angen profi bywyd mewn cyd-destun cymdeithasol.

Faint o ‘amser sgrin’ sydd gennych chi mewn diwrnod? A oes angen i chi wneud mwy o weithgarwch corfforol? Ymchwiliwch a dewiswch dri ymarferiad y byddech chi'n gallu eu gwneud bob awr i dorri ar yr amser rydych chi'n ei dreulio yn eistedd.

What do we mean by physical health?

Beth yw ystyr iechyd corfforol?

Achieving physical health is linked to being active and gaining physical fitness. Being physically fit helps individuals do the activities that they want to do. Being unable to do the things that have been chosen can have an impact on mood and general well-being. So, everyone needs a certain level of physical fitness to be able to take part and enjoy life.

The human body can be compared to a car; it needs maintenance and fuel to work.

A car would not be expected to start and keep going with no petrol and no servicing to keep it road worthy.

Alongside physical activity, everyone needs to have a good, healthy, balanced diet, quality rest and sleep.

Group activity. Get together and think up some ideas about how your teachers can increase your physical activity whilst sitting in class. (Think about how to make them as least disruptive as possible.)
Teacher prompt: https://www.nhs.uk/live-well/exercise/sitting-exercises/

Mae iechyd corfforol yn gysylltiedig â bod yn weithgar a dod yn ffit yn gorfforol. Mae bod yn ffit yn gorfforol yn helpu unigolion i wneud y gweithgareddau maen nhw'n dymuno eu gwneud. Gall methu gwneud y pethau rydyn ni wedi dewis eu gwneud gael effaith ar ein hwyliau a'n llesiant cyffredinol. Felly, mae angen lefel o ffitrwydd corfforol ar bawb er mwyn gallu cymryd rhan mewn bywyd a'i fwynhau.

Gellir cymharu'r corff dynol â char; mae angen tanwydd arno a gwaith cynnal er mwyn iddo weithio.

Ni fyddai disgwyl i gar gychwyn a pharhau i fynd heb betrol a heb gael gwasanaeth i sicrhau ei fod yn ddiogel i fod ar y ffordd.

Yn ogystal â gweithgarwch corfforol, mae angen i bawb gael deiet cytbwys, da, iach, amser gorffwys a chwsg o ansawdd.

Gweithgaredd grŵp. Dewch at eich gilydd a meddyliwch am rai syniadau ynghylch sut gall eich athrawon gynyddu eich gweithgarwch corfforol pan fyddwch yn eistedd yn y dosbarth. (Meddyliwch sut gallech eu haddasu i aflonyddu cyn lleied â phosibl.)
Anogwr i'r athro: https://www.nhs.uk/live-well/exercise/sitting-exercises/

Sitting exercises

  • Chest stretch – pull shoulders back and extend arms out to the side and hold for ten seconds, repeat 5 times.
  • Upper body twist – cross arms across chest and without moving hips turn to the left and hold for ten seconds, repeat 5 times on both sides.
  • Hip Marching – marching on the spot while sitting down.
  • Ankle stretch – leg straight, point toes away and then towards the body, repeat 5 times for each leg.
  • Arm raises – lift arms out to the side and then up to the head before bringing back down, repeat 5 times.
  • Neck rotation – turn head slowly to the left and then back to facing forward, repeat 5 times on both sides.
  • Neck stretch – look up to the ceiling and then down to the floor slowly, repeat 5 times. Then place a hand on the right shoulder and tilt head slowly to the left as far as possible, repeat 5 times on both sides.

Standing exercises

  • Sit to stand – stand up and sit down slowly, repeat 5 times.
  • Mini squats – bend the knees to squatting position, repeat 5 times (holding on to the back of the chair).
  • Sideways bend – bend slowly to the side as far as possible, repeat 5 times on each side.
  • Calf stretch – hold on to the desk and stretch out calf muscles, repeat 5 times for each leg.
  • Calf raises – stand up on tiptoes slowly and down again, repeat 5 times (holding on to the back of the chair).
  • Sideways leg lift – lift leg slowly to the side and bring back down again, repeat 5 times for each leg (holding on to the back of the chair).
  • Leg extension – lift leg slowly to the back and bring back down again, repeat 5 times for each leg (holding on to the back of the chair).
  • Bicep Curls – using books as weights bring arms up to chest slowly and then back down, repeat five times
  • Jogging – jog on the spot for two minutes.
  • Star jumps – star jump for one minute.

Ymarferion eistedd

  • Ymestyn y frest – tynnwch eich ysgwyddau'n ôl ac ymestynnwch eich breichiau allan i'r ochr a dal y siâp hwnnw am ddeg eiliad, ailadroddwch 5 gwaith.
  • Troi rhan uchaf y corff – croeswch eich breichiau ar draws eich brest a heb symud eich cluniau, trowch i'r chwith a dal y siâp hwnnw am ddeg eiliad, a gwnewch hyn 5 gwaith ar y ddwy ochr.
  • Plygu'r glun – cerdded yn y fan a'r lle tra'n eistedd i lawr.
  • Ymestyn y ffêr/pigwrn – gyda choes syth, pwyntiwch y bodiau oddi wrth ac yna tuag at y corff. Gwnewch hyn 5 gwaith ar gyfer bob coes.
  • Codi breichiau – codwch eich breichiau allan i'r ochr ac yna fyny at y pen cyn dod â nhw yn ôl i lawr. Gwnewch hyn 5 gwaith.
  • Cylchdroi'r gwddf – trowch eich pen i'r chwith yn araf ac yna ei droi yn ôl i wynebu am ymlaen. Gwnewch hyn 5 gwaith ar y ddwy ochr.
  • Ymestyn y gwddf – edrychwch i fyny tua'r nenfwd ac yna i lawr at y llawr yn araf. Gwnewch hyn 5 gwaith. Yna rhowch law ar yr ysgwydd dde a gogwyddwch eich pen i'r chwith cyn belled â phosibl yn araf. Gwnewch hyn 5 gwaith ar y ddwy ochr.

Ymarferion sefyll

  • Eistedd i sefyll – codwch ac eisteddwch yn araf, ac ailadrodd 5 gwaith.
  • Cyrcydau bach – plygwch y pengliniau i siâp cwrcwd, ac ailadrodd 5 gwaith (gan ddal cefn cadair).
  • Plygu i'r ochr – plygwch i'r ochr mor bell â phosibl yn araf, ac ailadrodd hyn 5 gwaith ar bob ochr.
  • Ymestyn croth y goes – daliwch y ddesg ac ymestynnwch gyhyrau croth y goes, ailadroddwch hyn 5 gwaith ar gyfer bob coes.
  • Codi croth y goes – ewch ar flaenau eich traed ac i lawr eto, ac ailadrodd 5 gwaith (gan ddal cefn cadair).
  • Codi'r goes i'r ochr – codwch eich coes i'r ochr yn araf a'i rhoi yn ôl i lawr eto, ac ailadrodd 5 gwaith ar gyfer bob coes (gan ddal cefn cadair).
  • Ymestyn y goes – codwch eich coes yn ôl a'i rhoi yn ôl i lawr eto, ac ailadrodd 5 gwaith ar gyfer bob coes (gan ddal cefn cadair).
  • Cyrlio cyhyrau deuben y fraich – gan ddefnyddio llyfrau fel pwysau, codwch eich breichiau at eich brest yn araf ac yna yn ôl i lawr, ac ailadrodd 5 gwaith.
  • Loncian – loncian yn y fan a'r lle am ddau funud.
  • Naid seren – naid seren am funud.

What is good mental health and why do we need it?

Beth yw iechyd meddwl da a pham mae ei angen arnon ni?

Young woman seeing a therapist

Mental health is something that affects daily life. It is influenced, and influences, how everyone feels about themselves, mood, thinking and behaviour. It is important to recognise that there is a difference between not being mentally healthy and having a mental health problem.

Think about having good mental health and poor mental health sitting on a horizontal line with one at each end. Every individual’s experience of mental health will be on this line somewhere and, of course, it changes over our lifetime. Feelings of being stressed and scared about something (such as sitting an exam) can go once the results are in. When these feelings stay for a longer time and stop us doing the things we want to do, it can be an indication of a more serious problem.

Having good mental health is linked to our well-being and ability to cope with what life throws at us. Taking care of our mental health helps us develop the resilience to bounce back after an upsetting or stressful time and to get on with our lives in the way we want to.

Have a think about your own mental health and take this quick survey to learn a little more about it:
https://www.mentalhealth.org.uk/your-mental-health/good-mental-health-survey

Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy'n effeithio ar fywyd bob dydd. Mae'n cael ei ddylanwadu gan y ffordd mae pawb yn teimlo amdanyn nhw eu hunain, eu hwyliau, meddyliau ac ymddygiad ac yn dylanwadu ar yr holl bethau hyn. Mae'n bwysig cydnabod bod gwahaniaeth rhwng peidio â bod yn iach yn feddyliol a chael problem iechyd meddwl.

Meddyliwch am osod iechyd meddwl da ac iechyd meddwl gwael ar bob pen i linell lorweddol. Bydd profiad pob unigolyn o iechyd meddwl ar y llinell hon yn rhywle ac, wrth gwrs, bydd yn newid yn ystod ein hoes. Gall teimladau o fod dan straen neu'n ofnus am rywbeth (fel sefyll arholiad) ddiflannu unwaith byddwn wedi derbyn y canlyniadau. Pan fydd y teimladau hyn yn aros am amser hirach ac yn ein hatal rhag gwneud y pethau rydyn ni eisiau eu gwneud, gall hyn fod yn arwydd o broblem fwy difrifol.

Mae cael iechyd meddwl da yn cael ei gysylltu â'n llesiant a'n gallu i ymdopi â throeon bywyd. Mae gofalu am ein hiechyd meddwl yn ein helpu i ddatblygu'r gwydnwch i fownsio'n ôl ar ôl amser o drallod neu straen ac i fwrw ymlaen â'n bywydau yn y ffordd rydyn ni'n dymuno ei wneud.

Meddyliwch am eich iechyd meddwl eich hun a rhowch gynnig ar yr arolwg sydyn hwn i ddysgu rhagor amdano:
https://www.mentalhealth.org.uk/your-mental-health/good-mental-health-survey

How does physical health impact on mental health?

Sut mae iechyd corfforol yn effeithio ar iechyd meddwl?

Exercising

Self-esteem and self-image

Self-esteem is an indicator of the mental health of an individual. It is linked with the value individuals place on themselves and can be unhelpful when it is at the extremes; either very poor or too great. Self-esteem requires a balance for it to be a healthy aspect in anyone’s life which can be helped by taking a realistic view.

Self-image is tied in with the levels of self-esteem. Perceived physical appearance can affect self-esteem by reducing it or boosting it, depending on what individuals think about how they look to others. If individuals are unhappy about how they look, it impacts on health and general well-being through affecting how much confidence there is with interactions with others. This can impact on mood and create a vicious cycle, if we withdraw from social settings confidence often reduces further.

Physical activity can have a positive impact on self-esteem and mood by allowing the individual to gain a sense of control. The initiative 'Couch to 5k', which is supported by the NHS, is an example of this. Setting small, realistic and achievable goals to increase physical activity over time, can result in a sense of achievement. It also builds up resilience to cope with life stressors as well as helps gain a satisfaction with overall appearance.

Hunan-barch a hunanddelwedd

Mae hunan-barch yn arwydd o iechyd meddwl unigolyn. Mae'n gysylltiedig â'r gwerth mae unigolion yn ei roi arnyn nhw eu hunain a gall fod yn ddinistriol pan fydd ar y ddau begwn; un ai gwael iawn neu llawer gormod. Mae angen cydbwysedd er mwyn i hunan-barch fod yn agwedd iach ym mywyd unrhyw un a gellir helpu hyn drwy fabwysiadu safbwynt realistig.

Mae hunanddelwedd yn gysylltiedig â lefelau hunan-barch. Gall canfyddiad yr unigolyn o’i ymddangosiad corfforol effeithio ar ei hunan-barch drwy ei leihau, neu roi hwb iddo, yn dibynnu ar farn unigolion am y ffordd maen nhw’n edrych i unigolion eraill. Os yw unigolion yn anhapus am y ffordd maen nhw'n edrych, mae hyn yn effeithio ar iechyd a llesiant cyffredinol drwy effeithio ar faint o hyder sydd ganddyn nhw wrth ryngweithio gydag eraill. Gall hyn gael effaith ar yr hwyliau a chreu cylch dieflig, os byddwn yn encilio o leoliadau cymdeithasol, yn aml bydd gennyn ni hyd yn oed llai o hyder.

Gall gweithgarwch corfforol gael effaith gadarnhaol ar hunan-barch a hwyliau drwy roi ymdeimlad o reolaeth i'r unigolyn. Mae'r fenter 'Couch to 5k', sy'n cael ei chefnogi gan y GIG, yn un enghraifft o hyn. Gall gosod nodau bach, realistig y gellir eu cyflawni i gynyddu gweithgarwch corfforol dros amser, arwain at ymdeimlad o gyflawniad. Mae hefyd yn meithrin gwydnwch i ymdopi â'r pethau sy'n achosi straen mewn bywyd yn ogystal â helpu i feithrin boddhad ag ymddangosiad cyffredinol.

How does physical health impact on mental health?

Sut mae iechyd corfforol yn effeithio ar iechyd meddwl?

Exercising

Anxiety and depression

As well as changing the body’s shape, undertaking physical activity also prompts internal changes. The bodies chemical balance alters when we are exercising and endorphins are released which make individuals feel good. This has an impact on mood, alongside giving a boost of energy, it reduces worrying and helps aid better sleep.

These factors can affect mental illnesses such as anxiety and depression. Neurotic illnesses, such as anxiety and depression are, in part, a result of chemical changes in the brain. The positive chemical changes that occur when exercising can help alleviate the low mood and stress that accompanies mental illnesses.

Introducing physical activity into daily life in a regular way, helps reduce tension and frustration levels. This in turn helps both the body and mind ability to cope with stressful times when and if they arise.

Physical activity can help shift the focus from unhelpful thoughts that fuel feelings of anxiety or depression. Apart from the chemical changes that occur in the body, it also can give a different perspective on life. Being mindful when engaging in the activity brings a sense of calm, which enables individuals to look at the things with greater objectivity. This has a direct impact on mental health and well-being as it helps individuals feel more in control and able to manage moods by challenging or ignoring unhelpful thoughts.

Gorbryder ac iselder

Yn ogystal â newid siâp y corff, mae gweithgarwch corfforol hefyd yn gallu ysgogi newidiadau mewnol. Mae cydbwysedd cemegol y corff yn newid pan fyddwn yn ymarfer a bydd endorffinau yn cael eu rhyddhau sy'n gwneud i unigolion deimlo'n dda. Mae hyn yn cael effaith ar yr hwyliau, ac yn ogystal â rhoi hwb o egni, mae'n lleihau pryder ac yn helpu i wella cwsg.

Gall y ffactorau hyn effeithio ar fathau o salwch meddwl fel gorbryder ac iselder. Mae salwch niwrotig, fel gorbryder ac iselder, yn rhannol o ganlyniad i newidiadau cemegol yn yr ymennydd. Gall y newidiadau cemegol cadarnhaol sy'n digwydd wrth wneud ymarfer corff helpu i leddfu hwyliau gwael a'r straen sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.

Mae cyflwyno gweithgarwch corfforol fel rhan rheolaidd o fywyd bob dydd yn helpu i leihau tensiwn a rhwystredigaeth. Bydd hyn yn ei dro yn helpu'r corff a'r meddwl i ymdopi ag amseroedd sy’n achosi straen, pan ac os byddan nhw'n codi.

Gall gweithgarwch corfforol helpu i symud y pwyslais o feddyliau nad ydyn nhw'n rhai defnyddiol ac sy'n bwydo teimladau o orbryder neu iselder. Heblaw am y newidiadau cemegol sy'n digwydd yn y corff, gall hefyd roi safbwynt gwahanol ar fywyd. Mae bod yn ymwybodol ofalgar wrth gymryd rhan yn y gweithgaredd yn dod ag ymdeimlad o lonyddwch, sy'n galluogi unigolion i edrych ar bethau yn fwy gwrthrychol. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a llesiant gan ei fod yn helpu unigolion i deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth a'u bod yn gallu rheoli eu hwyliau drwy herio neu anwybyddu teimladau nad ydyn nhw'n rhai defnyddiol.

How does physical health impact on mental health?

Sut mae iechyd corfforol yn effeithio ar iechyd meddwl?

Exercising

Sedentary behaviour

Sedentary behaviour can have a negative impact on mental health and well-being. Sedentary behaviour is when low levels of energy are expended in the activity being done. Most often, this type of behaviour is associated with ‘screen time’: the use of laptops, televisions, tablets, mobile phones and so on. Interacting with these devices usually occurs whilst sitting and requires limited movement. The day being filled with many hours of sedentary behaviour can become a problem. It affects physical health by reducing cardiovascular fitness and metabolic rate, which can result in an increase in weight gain.

Inactivity can also impact on the mental health of an individual. Diminished feelings of well-being and an increased sense of distress are associated with sedentary behaviour. This is especially the case when this takes place in social isolation. This can impact on mood and self-worth, which can lead to the development of mental illnesses such as depression. Reductions in time spent sitting, whether when working or in leisure time, can impact positively on mental health by increasing our energy levels and alertness.

Ymddygiad eisteddog

Gall ymddygiad eisteddog gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a llesiant. Ymddygiad eisteddog yw pan fydd lefelau isel o egni yn cael eu defnyddio ar gyfer y gweithgaredd dan sylw. Yn amlach na pheidio, mae'r math hwn o ymddygiad yn gysylltiedig ag ‘amser sgrin’: y defnydd o setiau teledu, gliniaduron, tabledi, ffonau symudol ac ati. Mae rhyngweithio gyda'r dyfeisiau hyn fel arfer yn digwydd wrth eistedd ac felly does dim angen symud llawer. Gall llenwi'r diwrnod gyda sawl awr o ymddygiad eisteddog ddod yn broblem. Mae'n effeithio ar iechyd corfforol gan leihau ffitrwydd cardiofasgwlar a chyfradd fetabolaidd, a gall hyn arwain at fagu pwysau.

Gall anweithgarwch hefyd effeithio ar iechyd meddwl unigolyn. Mae llai o lesiant a mwy o ymdeimlad o drallod yn gysylltiedig ag ymddygiad eisteddog. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd yn digwydd mewn arwahanrwydd cymdeithasol. Gall hyn effeithio ar yr hwyliau a hunanwerth, a gall arwain at ddatblygu salwch meddwl fel iselder. Mae lleihau faint o amser sy'n cael ei dreulio yn eistedd, yn y gwaith neu yn ystod amser hamdden, yn gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl drwy wella ein lefelau egni a'n gwneud yn fwy effro.

How does physical health impact on mental health?

Sut mae iechyd corfforol yn effeithio ar iechyd meddwl?

Exercising

Cognition

Cognition is the ability to think. It involves processes such as attention, reasoning skills, the ability to weigh up information to make decisions, memory and language and so on. Abilities in cognition are an essential aspect of our daily life and allow us to engage in daily activities such as learning.

Studies in children show a link between routine physical activity and enhanced cognition. Physiological changes occur within the body when exercising which can impact positively on the cognition of students. An increase of oxygen in the blood and an increase of blood flow to the brain helps to clarify things and allow individuals to think more clearly. Alongside this, an additional chemical interaction occurs: the brain senses a moment of stress on exertion and counteracts this by producing a protein that protects the brain. This protein also has a ‘reset’ function and repairs the neurons associated with memory.

These interactions increase alertness, attention and reasoning skills. It is easy to make the connection between this and the impact of this on cognition. Physical activity results in better behaviour in the classroom, showing an increase in ability to concentrate and results in the achievement of better results academically.

Gwybyddiaeth

Gwybyddiaeth yw'r gallu i feddwl. Mae'n ymwneud â phrosesau fel canolbwyntio a sylwi, sgiliau rhesymu, y gallu i gydbwyso gwybodaeth er mwyn dod i benderfyniadau, y cof ac iaith ac ati. Mae gallu ym maes gwybyddiaeth yn agwedd hanfodol ar ein bywydau bob dydd ac yn ein galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd fel dysgu.

Mae astudiaethau o blant wedi dangos cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol rheolaidd a gwell gwybyddiaeth. Gall newidiadau ffisiolegol sy'n digwydd yn y corff wrth ymarfer gael effaith gadarnhaol ar wybyddiaeth myfyrwyr. Mae cynnydd yn yr ocsigen yn y gwaed a chynnydd yn y llif gwaed i'r ymennydd yn helpu i egluro pethau gan alluogi unigolion i feddwl yn fwy clir. Ochr yn ochr â hyn, mae rhyngweithiad cemegol ychwanegol yn digwydd: mae'r ymennydd yn synhwyro moment o straen wrth ymarfer ac yn gwrthbwyso hyn drwy gynhyrchu protein sy'n amddiffyn yr ymennydd. Mae gan y protein hwn swyddogaeth ‘ailosod’ hefyd ac mae'n atgyweirio'r niwronau sy'n gysylltiedig â'r cof.

Mae'r rhyngweithiadau hyn yn gwneud unigolyn yn fwy effro a sylwgar ac yn gwella sgiliau rhesymu. Mae'n hawdd gwneud y cysylltiad rhwng hyn a’i effaith ar wybyddiaeth. Mae gweithgarwch corfforol yn arwain at well ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, yn gwella’r gallu i ganolbwyntio ac yn arwain at ganlyniadau academaidd gwell.

How does physical health impact on mental health?

Sut mae iechyd corfforol yn effeithio ar iechyd meddwl?

Activity

Set yourself a personal SMART (Specific, Measurable, Achievable, Relevant, Time-bound) goal related to your current levels of physical activity. This might be ‘On Tuesday I will get off the bus a stop early and walk the rest of the way’ or ‘I will make sure I have a good meal and a rest after going to the gym on Saturday’.

Gweithgaredd

Gosodwch nod CAMPUS (Cyrraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol, Uchelgeisiol, Synhwyrol) i'ch hun yn gysylltiedig â'ch lefelau gweithgarwch corfforol presennol. Er enghraifft, ‘Ddydd Mawrth rydw i am ddod oddi ar y bws un arhosfan yn gynt a cherdded gweddill y ffordd’ neu ‘Rydw i am wneud yn siŵr fy mod yn cael pryd da a gorffwys ar ôl mynd i'r gampfa ddydd Sadwrn’.

A note of caution

Gair o rybudd

Sports man experiencing stress

Although there is a positive link between physical activity and good mental health, there is also a cautionary note to be added to this to make a complete picture. There are instances which show that the interdependence between physical activity and mental health can have negative connotations.

For some individuals, exercising can become a pre-occupation. This can lead to the balance between leisure, work and self-care, becoming unhealthy. When exercise becomes an obsession for individuals it can result in feeling a lack of control as the regime takes over. This type of behaviour not only has a detrimental impact on the physical body (such as damage to weight-bearing joints), it also can cause stress, anxiety and exhaustion as the pressure to exercise becomes overwhelming. Short-term, high-intensity exercise can be detrimental to mood, whereas good mental health has been associated with medium and long-term regimes of moderate physical intensity.

This high-intensity is incorporated into the training for elite athletes. The specific training regime developed for athletes at this level is essential for developing the endurance needed on the pitch. However, it can result in changes in mood which is added to when they have limited time to recover. The pressure to perform in training and on the pitch, can lead to feelings of stress and concerns about performance.

Other behaviours associated with more extreme physical activity can also have an impact on mental health. The use of steroids to increase the body’s ability to train also can have a negative impact on mental health. These substances have been linked to changes in mood such as irritability and manic, risk-taking behaviours. The symptoms of depression have also been associated with users that cease to use steroids and those with psychotic symptoms (which can lead to unpredictable behaviour).

Er bod cysylltiad cadarnhaol rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, dylid ychwanegu gair o rybudd i roi darlun cyflawn. Dangoswyd bod goblygiadau negyddol i'r gyd-ddibyniaeth rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl ar rai adegau.

Gall rhai unigolion ymgolli'n llwyr mewn ymarfer corff. Gall hyn arwain at gydbwysedd afiach rhwng hamdden, gwaith a hunanofal. Pan fydd ymarfer corff yn dod yn obsesiwn i unigolion gall arwain at deimlad o golli rheolaeth wrth i'r drefn ymarfer gymryd drosodd. Mae'r math hwn o ymddygiad nid yn unig yn cael effaith niweidiol ar y corff (fel niwed i gymalau sy'n cynnal pwysau), gall hefyd achosi straen, gorbryder a gorflinder wrth i'r pwysau i ymarfer ddod yn llethol. Gall ymarfer corff tymor byr, arddwysedd uchel, fod yn niweidiol i'r hwyliau, ond dangoswyd bod iechyd meddwl da yn gysylltiedig â threfn ymarfer corff arddwysedd cymhedrol tymor canolig a thymor hir.

Mae'r arddwysedd uchel hwn yn cael ei gynnwys fel rhan o hyfforddiant athletwyr elît. Mae'r drefn hyfforddiant benodol a ddatblygwyd ar gyfer athletwyr ar y lefel hwn yn hanfodol i ddatblygu'r dygnwch sydd ei angen ar y cae chwarae. Fodd bynnag, gall arwain at hwyliau gwael pan fydd ganddyn nhw lai o amser i adfer. Gall y pwysau i berfformio wrth hyfforddi ac ar y cae arwain at deimladau o straen a phryderon am berfformiad.

Gall mathau eraill o ymddygiad sy'n gysyllltiedig â gweithgarwch corfforol mwy eithafol hefyd effeithio ar iechyd meddwl. Gall y defnydd o steroidau i wella gallu'r corff i hyfforddi hefyd gael effaith negyddol ar iechyd meddwl. Mae'r sylweddau hyn wedi cael eu cysylltu â newidiadau yn hwyliau unigolion fel anniddigrwydd ac ymddygiad manig, sy'n gysylltiedig â chymryd risg. Hefyd, gwelwyd cysylltiad rhwng symptomau iselder â defnyddwyr sy'n rhoi'r gorau i ddefnyddio steroidau ynghyd â symptomau seicotig (sy'n gallu arwain at ymddygiad nad yw'n bosibl ei ragweld).

Case study

Astudiaeth achos

Dan was in year 9 and found that sometimes he felt quite anxious about things; what did his friends really think of him? What if he failed his exams? Was he really of any use to anyone? He became withdrawn and started spending more and more time alone in his bedroom watching movies and YouTube. He used to enjoy playing football in a team and his Dad was willing to take him to the games, but he decided to give up last year as he just didn't feel like it.

Jon, one of Dan’s friends, texted him one day and invited him to come and play in a five-a-side tournament. Dan reluctantly agreed. During the tournament and after, Dan noticed that he felt less anxious and enjoyed the interaction with his team mates and winning the tournament! He decided to join a regular five-a-side team and played weekly with Jon. He noticed after a few months that he felt better about himself and was much happier. He found he was more confident, better able to engage with school, he started going to a youth group, made new friends and was less concerned about what others thought of him.

Questions for group discussion:

List the ways the five-a-side football helped Dan.

Discuss what Dan's life might have looked like 2 years later if he hadn't started the five-a-side activity by Year 11.

Roedd Dan ym mlwyddyn 9 pan ddechreuodd deimlo'n eithaf pryderus am bethau weithiau; beth oedd ei ffrindiau wir yn ei feddwl amdano? Beth petai'n methu ei arholiadau? A oedd o unrhyw ddefnydd gwirioneddol i unrhyw un? Daeth yn encilgar a dechreuodd dreulio mwy a mwy o amser ar ei ben ei hun yn ei ystafell wely yn gwylio ffilmiau a YouTube. Roedd yn arfer mwynhau chwarae pêl-droed mewn tîm ac roedd ei Dad yn fodlon mynd ag ef i'r gemau, ond penderfynodd roi'r gorau iddi y llynedd gan nad oedd yn teimlo fel mynd.

Anfonodd Jon, un o ffrindiau Dan, neges destun ato un diwrnod yn ei wahodd i ddod i chwarae mewn twrnament pump-bob-ochr. Cytunodd Dan er ei fod braidd yn anfoddog. Yn ystod y twrnament ac ar ei ôl, sylwodd Dan ei fod yn teimlo'n llai pryderus ac roedd yn mwynhau'r rhyngweithio gydag aelodau'r tîm ac ennill y twrnament! Penderfynodd ymuno â thîm pump-bob-ochr rheolaidd a chwaraeodd bob wythnos gyda Jon. Ar ôl ychydig fisoedd sylwodd ei fod yn teimlo'n llawer gwell amdano ei hun ac roedd yn llawer hapusach. Sylwodd ei fod yn fwy hyderus, yn gallu ymgysylltu'n well yn yr ysgol, dechreuodd fynd i grŵp ieuenctid, gwnaeth ffrindiau newydd ac roedd yn poeni llai am farn unigolion eraill amdano.

Cwestiynau ar gyfer trafodaeth grŵp:

Rhestrwch y ffyrdd gwnaeth y pêl-droed pump-bob-ochr helpu Dan.

Trafodwch sut byddai bywyd Dan wedi gallu edrych 2 flynedd yn ddiweddarach pe na bai wedi dechrau mynd i'r gweithgaredd pump-bob-ochr erbyn Blwyddyn 11.

Suggested answers

  1. Five-a-side football helped Dan in the following ways:
    1. Helped boost his self-esteem which will stop him worrying about whether he was of any use to anyone.
    2. Helped reduce his levels of anxiety which made him worry less about failure at school and what his friends thought about him.
    3. Helped with his ability to think which in turn helped with his school work.
    4. Has increased his fitness levels.
    5. Has put an end to his self-imposed social isolation.
  2. In 2 years’ time, Dan’s life would have looked very different if he hadn’t taken up five-a-side football. He would have become more insular and this social isolation would have made his anxiety and lack of self-worth far worse. He would have lost touch with friends who would stop calling if he always turned down their invitations.
    Dan’s life would have become far more sedentary and with this would come risks of weight gain and ill health due to a slow-down in his metabolism and a reduction is his cardiovascular fitness.
    His anxiety levels would have risen, and he would find it more difficult to concentrate without the benefit of physical activity.

Atebion awgrymedig

  1. Roedd pêl-droed 5 bob ochr yn gymorth i Dan yn y ffyrdd canlynol:
    1. Helpodd i roi hwb i'w hunan-barch a fydd yn ei atal rhag poeni am b'un a yw o ddefnydd i unrhyw un.
    2. Helpodd i leihau ei lefelau o bryder a olygodd ei fod yn poeni llai am fethu yn yr ysgol a beth oedd barn ei ffrindiau amdano.
    3. Helpodd ei allu i feddwl, a helpodd hynny yn ei dro gyda'i waith ysgol.
    4. Mae wedi cynyddu ei lefelau ffitrwydd.
    5. Mae wedi rhoi diwedd ar yr arwahanrwydd cymdeithasol mae'n ei orfodi ar ei hun.
  2. Mewn 2 flynedd, byddai bywyd Dan wedi edrych yn wahanol iawn petai heb ddechrau chwarae pêl-droed 5 bob ochr. Byddai wedi mynd yn fwy ynysig a byddai'r gor-bryder a'i ddiffyg hunan-werth wedi gwaethygu o lawer oherwydd yr arwahanrwydd cymdeithasol. Byddai wedi colli cysylltiad â ffrindiau a fyddai'n rhoi'r gorau i alw pe bai yn gwrthod eu gwahoddiadau bob amser.
    Byddai bywyd Dan wedi mynd yn llawer mwy eisteddog a byddai hyn wedi cyflwyno risg o fagu pwysau a salwch oherwydd arafiad yn ei fetaboledd a gostyngiad yn ei ffitrwydd cardiofasgwlar.
    Byddai ei lefelau gorbryder wedi codi a byddai'n ei chael yn fwy anodd i ganolbwyntio heb fudd gweithgaredd corfforol.

Conclusion

Casgliad

Dancing

Physical activity has been proven to have an interdependent link with mental health. Maintaining good physical health improves resilience and coping strategies for those managing mental health. Although there is a need to recognise the risks that can come with more extreme regimes of physical activity, for the majority of individuals moderate exercise can act in a preventative manner to help maintain good mental health. It can also help those that have a mental illness to manage it, by providing a distraction, improving mood and giving a sense of achievement and control.

Profwyd bod cysylltiad cyd-ddibynnol rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl. Mae cadw eich hun yn iach yn gorfforol yn gwella gwydnwch a strategaethau ymdopi wrth reoli iechyd meddwl. Er bod angen cydnabod y risgiau sy’n gysylltiedig â dilyn trefn gweithgarwch corfforol eithafol, i'r mwyafrif o unigolion gall ymarfer corff cymhedrol fod yn ddull ataliol sy'n helpu i gynnal iechyd meddwl da. Hefyd, gall helpu'r rheini sydd â salwch meddwl i'w reoli, gan dynnu eu sylw, gwella'r hwyliau a rhoi ymdeimlad o gyflawniad a rheolaeth iddyn nhw.