1/5
Caiff Canllawiau'r Llywodraeth eu cynllunio i hybu iechyd a llesiant unigolion mewn perthynas â: deiet, clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, camddefnyddio alcohol a sylweddau, ysmygu, byw'n iach.
Adnodd polisi yw'r Canllaw Bwyta'n Dda sy'n cael ei ddefnyddio i ddiffinio argymhellion y Llywodraeth ar fwyta'n iach a chael deiet cytbwys. Mae'n dangos y mathau gwahanol o fwyd y mae angen i ni eu bwyta, ac ym mha gyfrannau, er mwyn cael deiet cytbwys ac iach.
1/5
Mae gan y Llywodraeth ganllawiau hefyd ar uchafswm yr alcohol y dylem fod yn ei yfed bob dydd. Canllaw Prif Swyddog Meddygol y DU i ddynion a merched yw na ddylent yfed mwy nag 14 o unedau yr wythnos, er mwyn cadw'r risgiau i iechyd o ganlyniad i yfed alcohol yn isel.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod.
1/5
Argymhellir y dylai pobl wneud ymarfer corff yn rheolaidd er mwyn lleihau'r risg o rai mathau penodol o salwch. Mae gweithgarwch corfforol yn golygu eich bod yn defnyddio mwy o egni na phan fyddwch yn gorffwys. Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer grwpiau amrywiol o bobl.
Cliciwch ar y ddolen isod i gael taflenni ffeithiau am faint o ymarfer corff y dylech ei wneud er mwyn cadw'n iach.
https://gweddill.gov.wales/topics/health/improvement/physical/?lang=cy
1/5
Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o fesurau i leihau'r risg o niwed o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau. Mae ganddi strategaeth 10 mlynedd o'r enw 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' sydd wedi cael ei rhoi ar waith a'i nod yw lleihau'r risg o broblemau sy'n gysylltiedig ag alcohol a chamddefnyddio cyffuriau. Mae llinell gymorth cyffuriau ac alcohol 24 awr hefyd o'r enw Dan 24/7 ar gael i helpu'r rhai sydd mewn angen.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod.
https://gweddill.gov.wales/topics/people-and-communities/communities/safety/substancemisuse/?lang=cy
1/5
Ysmygu yw'r achos mwyaf o farwolaeth yng Nghymru y gallwch ei atal. Mae gan y Llywodraeth lawer o strategaethau yng Nghymru sy'n ceisio helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu a'u hatal rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf.
Mae 'Helpa Fi i Stopio' yn wasanaeth dwyieithog gan y Llywodraeth i bobl yng Nghymru sydd am roi'r gorau i ysmygu. Gallwch fanteisio ar y gwasanaeth drwy atgyfeirio eich hun neu drwy atgyfeiriad proffesiynol.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod: