What’s the story?

Study the map briefly. On first impression, which of the following offers the best evaluation of this map? Click on the button that provides the best assessment.

Beth yw'r stori?

Astudiwch y map yn gyflym. Pa un o'r canlynol sy'n gwerthuso'r map hwn orau, ar yr argraff gyntaf? Cliciwch ar y botwm sy'n rhoi'r asesiad gorau.

Projected impact of climate change on agricultural yields
Image by @Enescot / CC BY 2.5
Effaith disgwyliedig newid hinsawdd ar gynnyrch amaethyddol
Llun gan @Enescot / CC BY 2.5
Are you sure about this? At a glance, it's hard to tell whether Africa or South Asia are most vulnerable to climate change. It feels like we have to work quite hard to interpret this map, doesn't it? Ydych chi'n siŵr am hyn? O gipolwg, mae'n anodd dweud ai Affrica neu Dde Asia sydd fwyaf agored i newid hinsawdd. Mae'n teimlo bod angen gweithio'n eithaf caled i ddehongli'r map, ond yw e?
This is a fair assessment. The use of different shades of green to show 'winners' works quite well. But the multiple colours used to show 'losers' is hard to interpret. There are a lot of categories too, perhaps more than are needed. Mae hwn yn asesiad teg. Mae'r defnydd o arlliwiau gwahanol o wyrdd i ddangos 'yr ennillwyr' yn gweithio'n eithaf da. Ond mae'r lliwiau amryliw a ddefnyddir i ddangos 'y colledwyr' yn anodd eu dehongli. Mae llawer o gategorïau hefyd, efallai mwy nag sydd eu hangen.
Are you sure about this? It seems a rather harsh assessment. It's fairly easy to work out who the main 'winners' are (green shading), isn't it? Ydych chi'n siŵr am hyn? Mae'n ymddangos yn asesiad eithaf llym. Mae'n eithaf hawdd gweithio allan pwy yw'r prif 'ennillwyr' (arlliw gwyrdd), ond yw e?

Thinking critically about presentation

Read the statements below. Select the appropriate smiley to answer the following question:

Assess the strengths and weaknesses of the way data are presented in Figure 1. [AO3, 5 marks]

Meddwl yn feirniadol am gyflwyniad

Darllenwch y datganiadau isod. Dewiswch y wyneb priodol i ateb y cwestiwn canlynol:

Aseswch gryfderau a gwendidau'r dull o gyflwyno data yn Ffigur 1. [AA3, 5 marc]

Projected impact of climate change on agricultural yields
Image by @Enescot / CC BY 2.5
Effaith disgwyliedig newid hinsawdd ar gynnyrch amaethyddol
Llun gan @Enescot / CC BY 2.5

FeedbackAdborth

QuestionCwestiwn Your AnswerEich ateb

Suggested response

Strong agricultural growth is predicted in the northern hemisphere and the weakest growth in the global south.

Response: Although this is an AO3 (analytical) response, the focus is a description of the data rather than an assessment of the presentation method.

The most important reason for weaker growth could be a drier climate.

Response: This is an AO2-style causal response which tries to explain the pattern instead of offering an assessment of the map’s quality.

Shades of light and dark green are an effective way of communicating positive changes.

Response: This is an AO3 response correctly focused on the strengths and weaknesses of the map. Using gradations of a single colour is best practice.

Mixed shades of dark orange, light orange and red do not communicate negative changes in an easy-to-understand way.

Response: This is an AO3 response correctly focused on the strengths and weaknesses of the map. Can you suggest an alternative way of shading this map, which would communicate change more effectively?

The map's nine categories make patterns harder to interpret - six or seven categories might have worked better.

Response: This is an AO3 response correctly focused on the strengths and weaknesses of the map. Because ten data classes have been used, the pattern is harder to analyse than it needs to be. 6 or 7 classes might suffice if the objective (or ‘story’) of the map is to reveal broad global variations in future carbon cycle ‘winners and losers’.

The map only shows changes at the national level - it would be better to break up big countries like Russia to show regional variations.

Response: This is an AO3 response correctly focused on the strengths and weaknesses of the map. It is always worth thinking critically about a map’s scale or level of detail.

The most important reason for stronger growth in the northern hemisphere could be warmer temperatures.

Response: This is an AO2-style causal response which tries to explain the pattern instead of offering an assessment of the map’s quality.

There are two anomalies in Central Africa where positive growth is shown in a region where other countries have declining productivity.

Response: Although this is an AO3 (analytical) response, the focus is a description of the data rather than an assessment of the presentation method.

Increased productivity in some countries may be due to warmer temperatures for cold mountainous regions.

Response: This is an AO2-style causal response which tries to explain the pattern instead of offering an assessment of the map’s quality.

Ymateb awgrymedig

1. Rhagwelir y bydd twf amaethyddol cryf yn hemisffer y gogledd a'r twf gwannaf yn hemisffer y de.

Ymateb: Er mai ymateb (dadansoddol) AA3 yw hwn, mae'n canolbwyntio ar ddisgrifio'r data yn hytrach nag asesu'r dull cyflwyno.

2. Y rheswm pennaf o bosibl dros dwf gwannaf yw hinsawdd sychach.

Ymateb: Ymateb achosol math AA2 yw hwn sy'n ceisio esbonio'r patrwm yn hytrach nag asesu ansawdd y map.

3. Mae arlliwiau o wyrdd golau a gwyrdd tywyll yn ffordd effeithiol o gyfleu newidiadau cadarnhaol.

Ymateb: Ymateb AA3 yw hwn sy'n canolbwyntio'n gywir ar gryfderau a gwendidau'r map. Mae defnyddio graddiadau o'r un lliw yn arfer gorau.

4. Nid yw arlliwiau cymysg o oren tywyll, oren golau a choch yn cyfleu newidiadau negyddol mewn ffordd hawdd ei deall.

Ymateb: Ymateb AA3 yw hwn sy'n canolbwyntio'n gywir ar gryfderau a gwendidau'r map. Allwch chi awgrymu ffordd arall o liwio'r map hwn, a fyddai'n cyfleu newid yn fwy effeithiol?

5. Mae'r naw categori a ddefnyddir ar y map yn golygu bod patrymau yn anos eu dehongli – byddai chwech neu saith categori wedi gweithio'n well.

Ymateb: Ymateb AA3 yw hwn sy'n canolbwyntio'n gywir ar gryfderau a gwendidau'r map. Mae'r deg o ddosbarthiadau data a ddefnyddiwyd yn golygu bod y patrwm yn anoddach nag y dylai fod i'w ddadansoddi. Efallai y byddai 6 neu 7 dosbarth yn ddigonol os mai amcan (neu 'stori') y map yw datgelu amrywiadau byd-eang cyffredinol o ran yr ennillwyr a’r colledwyr o ran y cylch carbon yn y dyfodol.

6. Dim ond ar lefel genedlaethol y dangosir newidiadau ar y map – byddai'n well rhannu gwledydd mawr fel Rwsia er mwyn dangos amrywiadau rhanbarthol.

Ymateb: Ymateb AA3 yw hwn sy'n canolbwyntio'n gywir ar gryfderau a gwendidau'r map. Mae bob amser yn werth meddwl yn feirniadol am raddfa neu lefel manylder map.

7. Y rheswm pennaf o bosibl dros dwf cryfach yn hemisffer y gogledd yw tymereddau cynhesach.

Ymateb: Ymateb achosol math AA2 yw hwn sy'n ceisio esbonio'r patrwm yn hytrach nag asesu ansawdd y map.

8. Mae dau anomaledd yng Nghanol Affrica lle gwelir twf cadarnhaol mewn rhanbarth lle mae'r cynhyrchiant mewn gwledydd eraill yn dirywio.

Ymateb: Er mai ymateb (dadansoddol) AA3 yw hwn, mae'n canolbwyntio ar ddisgrifio'r data yn hytrach nag asesu'r dull cyflwyno.

9. Efallai fod y cynnydd mewn cynhyrchiant mewn rhai gwledydd yn cael ei weld oherwydd tymereddau cynhesach mewn rhanbarthau mynyddig oer.

Ymateb: Ymateb achosol math AA2 yw hwn sy'n ceisio esbonio'r patrwm yn hytrach nag asesu ansawdd y map.

Extension activity

Find other choropleth maps in your course textbook or using an online image search. Look for evidence of good practice and poor practice in the way they have been created. In addition to the number of classes included, think too about how colour is used in different maps. Some unprofessional choropleth maps use too many wildly varying colours which makes it harder to grasp immediately the pattern of 'highs and lows' (which are best shown with a gradation from darker to lighter colours).

Ymarfer estynedig

Dewch o hyd i fapiau coropleth eraill yng ngwerslyfrau'r cwrs neu chwiliwch am luniau ar-lein. Edrychwch am dystiolaeth o arfer da ac arfer gwael o ran y ffordd y maent wedi cael eu creu. Yn ogystal â nifer y dosbarthiadau a ddefnyddiwyd, meddyliwch hefyd am y ffordd y caiff lliw ei ddefnyddio mewn mapiau gwahanol. Mae rhai mapiau coropleth amhroffesiynol yn defnyddio gormod o liwiau gwahanol iawn sy'n ei gwneud hi'n anoddach nodi'r patrymau gwrthgyferbyniol yn syth (a ddangosir orau drwy ddefnyddio graddiadau o liwiau tywyllach i liwiau goleuach).