What’s the story?

Select the three analytical statements below which, when combined, best summarise this graph’s overall ‘story’.

Beth yw'r stori?

Dewiswch y tri datganiad dadansoddol isod sydd, gyda'i gilydd, yn rhoi'r crynodeb gorau o 'stori' gyffredinol y graff hwn.

Figure 1: changes over time in the employment structure of a country
Figure 1 adapted from Amor Vieira Alvarez / SlideShare / LinkedIn. https://bit.ly/34DK7Vu
Ffigur 1: Newidiadau dros amser yn strwythur cyflogaeth gwlad
Ffigur 1 wedi’i haddasu o Amor Vieira Alvarez / SlideShare / LinkedIn. https://bit.ly/34DK7Vu

Trend phrase bank

Put the statements in the correct sequential order so that they describe how secondary employment changes over time.

Banc ymadroddion o ran tueddiadau

Rhowch y datganiadau yn y drefn ddilyniannol gywir fel eu bod yn disgrifio sut mae cyflogaeth eilaidd yn newid dros amser.

Figure 1: changes over time in the employment structure of a country
Figure 1 adapted from Amor Vieira Alvarez / SlideShare / LinkedIn. https://bit.ly/34DK7Vu
Ffigur 1: Newidiadau dros amser yn strwythur cyflogaeth gwlad
Ffigur 1 wedi’i haddasu o Amor Vieira Alvarez / SlideShare / LinkedIn. https://bit.ly/34DK7Vu

Identifying the elements of a good AO3 response

Describing trends accurately and comprehensively can be challenging: care is needed when communicating the dimensions of change over time.

One particular area of difficulty can be distinguishing between (i) low and high percentages and (ii) low and high rates of change.

Read the two responses to the following 5-mark AO3 question:

Describe the trends for primary and tertiary employment shown in Figure 1.

Decide which is the best response.

After discussing the strengths and weaknesses of each answer, click on the button to reveal an examiner commentary.

Nodi elfennau ymateb AA3 da

Gall disgrifio tueddiadau mewn ffordd gywir a chynhwysfawr fod yn heriol: mae angen bod yn ofalus wrth gyfleu dimensiynau newid dros amser.

Un maes penodol a all beri anhawster yw gwahaniaethu rhwng (i) canrannau isel ac uchel a (ii) cyfraddau newid isel ac uchel.

Darllenwch y ddau ymateb i'r cwestiwn AA3 canlynol sy'n werth 5 marc.

Disgrifiwch y tueddiadau mewn cyflogaeth gynradd a chyflogaeth drydyddol a ddangosir yn Ffigur 1.

Penderfynwch pa ymateb yw'r un gorau.

Ar ôl trafod cryfderau a gwendidau pob ateb, cliciwch ar y testun i ddatgelu sylwadau'r arholwr.

Figure 1: changes over time in the employment structure of a country
Figure 1 adapted from Amor Vieira Alvarez / SlideShare / LinkedIn. https://bit.ly/34DK7Vu
Ffigur 1: Newidiadau dros amser yn strwythur cyflogaeth gwlad
Ffigur 1 wedi’i haddasu o Amor Vieira Alvarez / SlideShare / LinkedIn. https://bit.ly/34DK7Vu

Response A

Total tertiary employment begins at a very low level of 10%. In stage one there is little increase prior to rapid increase in the percentage during stage two. Tertiary employment continues to rise in stage 3 but at a decreasing rate before levelling out at around 80%. In contrast, primary employment begins at a stationary high level of 70 per cent before falling rapidly in stage 2. The rate of decline slows down for three and primary employment levels off at 10 per cent.

Ymateb A

Mae cyfanswm y gyflogaeth drydyddol yn dechrau ar lefel isel iawn, sef 10%. Yng ngham un, ceir cynnydd bach, ac yna gynnydd cyflym yn y ganran yn ystod cam dau. Mae’r cyflogaeth drydyddol yn parhau i gynyddu yn ystod cam 3 ond ar gyfradd arafach cyn sefydlogi ar tua 80%. I'r gwrthwyneb, mae cyflogaeth gynradd yn dechrau ar lefel sefydlog uchel o 70 y cant cyn gostwng yn gyflym yn ystod cam 2. Mae'r gyfradd ddirywio yn arafu yn ystod cam 3 ac mae cyflogaeth gynradd yn sefydlogi ar 10 y cant.

Examiner Commentary Response A

This analysis is clear and unambiguous. The differences in the changing percentage of employment (high or low) and the rates of change (high/fast or low/slow) are very clear.

Sylwadau'r arholwr - Ymateb A

Mae'r dadansoddiad hwn yn glir ac yn ddiamwys. Mae'r gwahaniaethau yng nghanran newidiol cyflogaeth (uchel neu isel) a'r cyfraddau newid (uchel/cyflym neu isel/araf) yn glir iawn.

Response B

At the beginning, very little happens. There is low growth, and tertiary is always lower than primary. In stage two fast changes occur for both primary and tertiary employment and as one falls the other rises. After these fast changes, both trends are low again in stage 3.

Ymateb B

Ychydig iawn sy'n digwydd ar y dechrau. Ceir twf araf, ac mae cyflogaeth drydyddol bob amser yn is na chyflogaeth gynradd. Yng ngham 2, mae newidiadau cyflym yn digwydd mewn cyflogaeth yn y sector cynradd a'r sector trydyddol ac, wrth i un ostwng, mae'r llall yn codi. Ar ôl y newidiadau cyflym hyn, mae'r ddwy duedd yn isel eto yn ystod cam 3.

Examiner Commentary Response B

This analysis is unclear. The phrase 'tertiary is always lower than primary' could mean that tertiary employment has a lower growth rate than primary employment. It could also mean that tertiary employment has a lower growth rate overall. As a result, it is hard to know exactly what is going on. The account of stage three is also unclear. Can you see why?

Sylwadau'r arholwr - Ymateb B

Nid yw'r dadansoddiad hwn yn glir. Gallai'r ymadrodd 'mae cyflogaeth drydyddol bob amser yn is na chyflogaeth gynradd' olygu bod cyflogaeth drydyddol yn tyfu'n arafach na chyflogaeth gynradd. Gallai hefyd olygu bod cyfradd twf y gyflogaeth drydyddol yn is yn gyffredinol. O ganlyniad, mae'n anodd gwybod beth yn union sy'n digwydd. Nid yw'r disgrifiad o gam tri yn glir chwaith. Gallwch chi weld pam?