Darllenwch y canlynol a nodwch a datblygwch y casgliad terfynol ynghyd ag ystyried unrhyw gasgliadau canolradd. Yna cliciwch ar y testun i weld ateb posibl. Archwiliwch sut mae hwn yn wahanol i'ch ateb chi a thrafodwch a yw'r gwahaniaethau hyn yn arwyddocaol.

‘Pa mor dda mae Islam yn ymateb i heriau damcaniaethau gwyddonol am darddiad y bydysawd?

Un ddadl yw bod Mwslimiaid yn aml yn dweud nad yw'r damcaniaethau hyn wedi'u profi gan nad yw gwyddonwyr yn gallu bod yn siŵr. Efallai bod y Mwslimiaid hyn yn credu bod y Qur’an yn llythrennol wir a bod gwyddonwyr nad ydyn nhw'n derbyn Duw yn fygythiad oherwydd eu bod nhw'n herio gair Duw. Efallai bod Mwslimiaid yn dadlau eu bod nhw, wrth ddarllen eu llyfr sanctaidd, yn anwybyddu unrhyw gwestiynau gwyddonol a all fod yn herio eu credoau oherwydd eu bod nhw'n niweidiol yn ysbrydol. Ond ydy hyn wir yn bod yn effeithiol wrth herio damcaniaeth wyddonol neu a oes modd cyhuddo bod hyn yn osgoi'r mater?

Dadl arall yw awgrymu bod cysyniad y creu'r un mor ddilys â damcaniaeth wyddonol. Mae'r Qur’an 21:30 yn dweud: ‘Onid yw'r Anghredinwyr yn gweld bod y nefoedd a'r ddaear wedi'u huno (yn un uned o greadigaeth), cyn i ni eu hollti oddi wrth ei gilydd? Gwnaethon ni bopeth byw o ddŵr. Oni fyddan nhw'n credu wedyn?’ Mae'r syniad hwn o uno a hollti'n debyg iawn i ddamcaniaethau'r Glec Fawr a'r bydysawd sy'n osgiliadu. Yn wir, honna Harun Yahaya, y Mwslim rhethregol poblogaidd sy'n rhoi dawah am Islam, fod y Qur’an wedi rhagfynegi'r ‘Glec Fawr’ erioed. Byddai hyn yn awgrymu bod cysyniadau gwyddoniaeth fodern yn gynhenid yng ‘ngwirionedd’ y creu ac mae hefyd yn awgrymu efallai nad oes ‘her’ o gwbl.

Mae rhai Mwslimiaid sy'n dymuno cadw eu credoau ond sy'n dal i fod eisiau trafod y gwahanol ffyrdd y gallai'r creu gael ei ddeall, p'un ai'n unol â gwyddoniaeth neu â syniadau athronyddol fel yr achos cyntaf. Yn wir, mae dadl Kalam dros fodolaeth Duw yn enghraifft o hyn. Felly, er nad ydyn nhw'n ‘cydweddu’ o angenrheidrwydd, gallai rhywun ddadlau bod rhyw fath o ddeialog gadarnhaol yn digwydd ac felly bod ymateb effeithiol i her damcaniaeth wyddonol.

Ond, dylid cofio nad am y creu'n unig mae heriau gwyddoniaeth. Mae dadl gref fod y greadigaeth yn ymestyn i gyfrifoldeb y ddynoliaeth dros ofalu am y blaned. Yma mae cydweddu cryf, gellid dadlau, oherwydd yn union fel mae disgwyl i Fwslimiaid ofalu am y byd a'i amddiffyn rhag peryglon cynhesu byd-eang a gorboblogi, felly hefyd mae dadleuon gwyddonol yn cael eu cyflwyno mai dyletswydd y ddynoliaeth yw gweithredu, fel arall bydd y canlyniadau'n ddinistriol yn ôl grymoedd naturiol. Felly, mae ychydig o dir cyffredin o ran ymagwedd rhwng gwyddoniaeth ac Islam er nad oes tir cyffredin bob amser yn y rhesymu'r tu ôl i'r ymagwedd.

At ei gilydd, dydy'r syniad o gydweddu rhwng gwyddoniaeth ac Islam ddim yn un o gytuno llwyr o ran y manylion. Ond gellid dadlau bod gan yr egwyddorion sylfaenol ychydig o dir cyffredin, er eu bod nhw'n cael eu mynegi a'u hesbonio'n wahanol, a bod rhywun efallai'n gweld eu bod yn anghydweddu ar yr olwg gyntaf.

Rhaid i sefydlu cydweddu fel hyn awgrymu ymateb effeithiol i'r heriau cychwynnol a gafodd eu gwneud i ddysgeidiaeth Islamaidd am darddiad y bydysawd.

Nodwch unrhyw gasgliadau canolradd a chasgliadau terfynol yn yr ateb gwerthusol canlynol. Yna cymharwch nhw gydag aelodau eraill o'r dosbarth i weld a oes yna wahaniaethau arwyddocaol. Datblygwch y casgliad terfynol.

Islam yn cydweddu â gwyddoniaeth

Mae'n ymddangos bod sut cafodd y byd ei wneud yn cael ei weld yn wahanol o fewn Islam a rhwng Islam a gwyddoniaeth. Hyn sy'n penderfynu faint o gydweddu sydd rhwng Islam a gwyddoniaeth. Mae gwyddoniaeth yn awgrymu Clec Fawr neu ddamcaniaeth debyg, ond mewn Islam, mae'n ofynnol credu mewn Allah fel yr achos cyntaf. Ond, hefyd mae'n bosibl credu mai Allah oedd y tu ôl i'r Glec Fawr, a'i fod yn bodoli o'i blaen hi yn ôl rhai Mwslimiaid. Mae Mwslimiaid eraill yn cymryd stori'r creu o'r Qur’an yn llythrennol, nad yw'n cydweddu â gwyddoniaeth. Eto wedyn mae'r Mwslimiaid hynny sy'n ceisio nodi gwahaniaethau bach yn unig rhwng damcaniaeth wyddonol a dysgeidiaeth Islamaidd.

Mae llawer o Fwslimiaid yn gwrthod esblygiad ond mae rhai Mwslimiaid, fel y gwyddonydd Dr Usama Hasan, yn credu y gallai Duw fod wedi gweithio drwy esblygiad. Mae anghytuno ar hyn o fewn Islam er y byddai'r mwyafrif yn ffafrio dehongliad llythrennol o'r Qur’an. Felly nid cytuno eglur o fewn Islam ynghylch ‘sut’ cafodd ei wneud ond mae undod o ran credu mai Allah wnaeth hyn.

Mae'r Mwslim Harun Yaha yn awgrymu bod atebion syml i bopeth yn y Qur’an a bod unrhyw ddarganfyddiad gwyddonol wedi'i ragfynegi yn y Qur’an neu ei fod yn cytuno â'r testun a gafodd ei ddatguddio. Felly, does dim anghydweddu mewn gwirionedd rhwng gwyddoniaeth ac Islam, dim ond un ymddangosiadol. Os oes anghydweddu ar hyn o bryd, wrth i wyddoniaeth ddatblygu, bydd yn cydymffurfio mwy â'r hyn sy'n gallu cael ei ddarganfod yn y Qur’an. Mae'r Qur’an yn wirionedd tragwyddol a does dim modd ei newid tra mae darganfyddiadau gwyddonol yn newid gwyddoniaeth!

Ond, mae agweddau tebyg wedi bod yn y gorffennol sydd wedi rhwystro cynnydd diwinyddol a gwyddonol fel ei gilydd. Mae gwyddonwyr Mwslimaidd yn aml wedi stopio ymholiadau oherwydd bod y canlyniadau'n ymddangos fel petaen nhw'n groes i gredoau penodol, athroniaeth neu egwyddorion cyffredin. Mae'r berthynas ansicr hon rhwng Islam a gwyddoniaeth yn awgrymu bod modd cwestiynu a ydyn nhw'n cydweddu.

Byddai rhai Mwslimiaid yn anghytuno ac yn dweud bod Islam wedi datblygu meddwl gwyddonol ymhellach yn ystod yr Oes Aur Islamaidd: roedd athronwyr Mwslimaidd yn annog pobl i gwestiynu, i arsylwi ac i fod yn feirniadol. adeiladodd gwareiddiadau Mwslimaidd ysbytai a oedd yn cyflogi llawfeddygon i ddatblygu ac i berfformio llawdriniaethau cataract llygaid; mae tystiolaeth o feddyginiaethau llysieuol datblygedig; ac yn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd labordy er mwyn arbrofi â dyfeisiadau newydd gan gynnwys, ymysg pethau eraill, injan stêm syml. Mae Mwslimiaid yn dadlau bod eu treftadaeth yn cynnwys cymaint o wyddoniaeth fel bod y ddau'n cydweddu'n naturiol.

I gloi, mae Mwslimiaid yn gallu cyd-dynnu â gwyddoniaeth, hyd yn oed os yw eu man cychwyn yn wahanol. Mae rhai'n croesawu gwyddoniaeth ac yn falch o gyfraniad Mwslimiaid i wyddoniaeth. Mae eraill yn teimlo bod gwyddoniaeth wedi mynd yn groes i ddatguddiadau'r Qur’an, ac felly y dylai Mwslimiaid dynnu'n ôl a pheidio ag ymwneud cymaint â hi.