‘Dydy'r ddysgeidiaeth Islamaidd ar rôl dynion a menywod ddim yn hyrwyddo anghydraddoldebau.’
Gwerthuswch y safbwynt hwn.
Nawr graddiwch y ddwy set o dri ateb sy'n dilyn, ar sail ansawdd eu gwerthusiad. Gwnewch eich sylwadau eich hun ar yr atebion a ddarperir a sut gall yr agwedd werthuso gael ei gwella. Cymharwch y safleoedd a'r sylwadau a roddwyd gan fyfyrwyr eraill yn y dosbarth ac aseswch a oes gwahaniaethau arwyddocaol rhyngoch.
‘Mae'r ddysgeidiaeth ar ysgariad mewn Islam yn gwrth-ddweud y pwysigrwydd sy'n cael ei roi ar fywyd teuluol.’
Gwerthuswch y safbwynt hwn.
‘Fyddai Islam ddim yn gweithio petai pwysigrwydd bywyd teuluol ddim yn cael ei gydnabod.’
Gwerthuswch y gosodiad hwn.