Dyma enghraifft o ychydig o ddarllen cefndir posibl am wahanol ffyrdd o ddeall rôl a statws menywod mewn Islam (Thema 3B). Dyma dri chyfrif o dri adnodd. Mae peth o'r deunydd yn gorgyffwrdd. Darllenwch y tri detholiad ac yna cliciwch ar bob un i weld sut daethpwyd i’r crynodeb terfynol.

Dyma dri adnodd arall eto – y tro hwn mae mwy o ffocws penodol ar fater cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn Islam ac mae'n ymwneud â rôl a statws menywod a ffeministiaeth mewn Islam (Thema 3B). Ceisiwch lunio crynodeb. Cymharwch ef ag eraill yn y dosbarth i weld ym mha ffordd rydych yn wahanol a thrafodwch y rhesymau am hynny ac a yw'r gwahaniaethau'n bwysig

Nid ydych wedi gwneud dewis.

Dewiswch nodyn i ychwanegu at eich dewis.

Ail enwi eich nodiadau yma.

  • 1. Mae'r Qur’an yn rhoi tystiolaeth eglur fod Duw'n gweld bod menyw'n hollol gydradd â dyn o ran ei hawliau a'i chyfrifoldebau. Mae'r Qur’an yn dweud: ‘... Felly y derbyniodd eu Harglwydd eu gweddïau, (gan ddweud): Fyddaf i ddim yn dioddef i waith un ohonoch chi gael ei golli, boed wryw neu fenyw. Rydych chi'n deillio'r naill o'r llall ...’ (Qur’an 3: 195). Yn ôl y Qur’an, dydy'r fenyw ddim yn cael ei beio am gamsyniad cyntaf Adda. Roedd y ddau gyda'i gilydd yn anghywir yn anufuddhau i Dduw, edifarhaodd y ddau, a maddeuwyd i'r ddau. (Qur’an 2:36, 7:20 - 24). Mewn un adnod mewn gwirionedd (20:121), cafodd Adda'n benodol ei feio.

    O ran rheidrwydd crefyddol, fel Gweddïau Beunyddiol, Ymprydio, Rhoi i'r Tlawd, a Phererindod, dydy'r fenyw ddim yn wahanol i'r dyn. Yn wir mewn rhai achosion, mae gan y fenyw rai manteision dros y dyn. Er enghraifft, mae'r fenyw'n cael ei hesgusodi rhag y gweddïau beunyddiol a rhag ymprydio yn ystod ei mislif ac am ddeugain niwrnod ar ôl geni plentyn. Hefyd mae'n cael ei hesgusodi rhag ymprydio yn ystod ei beichiogrwydd a phan fydd hi'n meithrin ei baban os oes unrhyw fygythiad i'w hiechyd hi neu i iechyd ei baban. Os yw'r ymprydio a gollir yn orfodol (yn ystod mis Ramadan), gall hi wneud iawn am y diwrnodau a gollwyd bryd bynnag y gall hi. Does dim rhaid iddi wneud iawn am y gweddïau a gollwyd am unrhyw un o'r rhesymau uchod. Er bod menywod yn gallu mynd i'r mosg yn ystod diwrnodau'r proffwyd ac wedyn mynychu ar ddydd Gwener, mae gweddïau cynulleidfaol yn ddewisol iddyn nhw tra maen nhw'n orfodol i ddynion (ar ddydd Gwener).

    Mae hyn yn amlwg yn nodwedd dyner ar y ddysgeidiaeth Islamaidd oherwydd mae'n ystyried y ffaith y gall menyw fod yn meithrin ei baban neu'n gofalu amdano, ac felly ei bod hi'n methu mynd allan i'r mosg adeg y gweddïau. Hefyd maen nhw'n ystyried y newidiadau ffisiolegol a seicolegol sy'n gysylltiedig â'i swyddogaethau benywaidd naturiol.

    (Cyfieithiad o addasiad The Status of Women in Islam gan Jamal Badawi)

    2. Mae'r Qur’an yn cael ei gyfeirio at bob Mwslim, ac ar y cyfan nid yw'n gwahaniaethu rhwng gwryw a benyw. Mae'n dweud bod dyn a menyw, “wedi'u creu o un enaid”, a'u bod yn gydradd yn foesol yng ngolwg Duw. Mae gan fenywod hawl i ysgaru, i etifeddu eiddo, i redeg busnes ac i gael mynediad at wybodaeth. Gan fod yr un ymrwymiadau a rheolau ymddygiad yn berthnasol i fenywod ac i dynion, mae'r gwahaniaethau'n dod i'r amlwg gryfaf pan fydd hi'n fater o feichiogrwydd, cael a magu plant, y mislif ac, i ryw raddau, dillad. Mae rhai o'r gorchmynion yn ddieithr i'r traddodiad Gorllewinol. Efallai bod gofynion purdeb defodol fel petaen nhw'n cyfyngu ar fynediad menyw i fywyd crefyddol, ond maen nhw'n cael eu gweld fel consesiynau. Yn ystod y mislif neu'r gwaedu ar ôl genedigaeth, dydy hi ddim yn cael gweddïo'r salah defodol neu gyffwrdd â'r Qur’an a does dim rhaid iddi ymprydio; does dim rhaid iddi ymprydio chwaith pan fydd hi'n feichiog neu'n meithrin. Mae'r ffordd y mae menywod Mwslimaidd yn gwisgo fêl yn fater mwy cymhleth. Yn sicr, mae'r Qur’an yn dweud bod rhaid iddyn nhw ymddwyn a gwisgo'n syml – ond mae'r cyfyngiadau hyn yr un mor berthnasol i ddynion. Un adnod yn unig sy'n cyfeirio at fenywod yn gwisgo fêl, mae'n dweud y dylai gwragedd y Proffwyd fod y tu ôl i hijab pan fydd ei westeion gwrywaidd yn sgwrsio â nhw.

    (Cyfieithiad o addasiad Islam, Culture and Women gan Ruqaiyyah Waris Maqsood)

    3. Mewn lleoedd fel Medina, lle roedd priodi'n digwydd drwy brynu, roedd hi'n llawer gwaeth ar fenywod. Doedd hi ddim yn cael etifeddu oherwydd ei bod hi ei hun yn rhan o ystâd ei gŵr i'w hetifeddu. Mewn gwirionedd, pan orchmynnodd Islam fod hawl gan chwiorydd a merched i ran o'r etifeddiaeth, protestiodd dynion Medina yn erbyn y rheol. Roedd gan Mecca reolau mwy datblygedig o ran etifeddu, efallai oherwydd i ddiwylliannau uwch ddylanwadu arni drwy ei chysylltiadau masnachol â Phalesteina a Phersia, a gan fod rhai pobl o Mecca wedi byw mewn dinasoedd Rhufeinig fel Gaza. Yn Mecca roedd Khadija, er enghraifft, yn byw bywyd hollol annibynnol fel gwraig weddw gyfoethog a oedd yn ymwneud â masnach garafanau broffidiol. Roedd ei hystâd yn cynnwys eiddo go iawn oherwydd rhoddodd hi dŷ i Zainab, ei merch. Felly mae'n bosibl dod i'r casgliad fod menywod Mecca yn cael dal eiddo cyn Islam. Pan ddaeth Islam, symudodd y ffocws o'r llwyth i'r unigolyn, wedi'i gydbwyso â chysyniad cymuned a theulu. Cyflwynodd system lle roedd pawb yn gydradd, beth bynnag oedd ei ryw/rhyw, ei hil, ei oed/hoed neu ei gyfoeth/chyfoeth. O dan Islam, yr egwyddorion moesol a chrefyddol, nid cysylltiadau llwythol, oedd yn diffinio hawliau menywod. Roedd Islam yn cydnabod bod menywod yn fodau dynol rhydd gyda'u hawliau llawn eu hunain. Gyda rhyddid daw cyfrifoldebau ac ymrwymiadau. Mae hyn wedi gwneud i rai ddadlau bod menywod wedi'u cyfyngu'n fwy ar ôl Islam o ran Jahiliyya. Mewn gwirionedd gall hyn fod yn wir mewn rhai llwythau nad oedden nhw'n gormesu menywod cymaint ag eraill. Ond, gwellodd Islam gyflwr pob menyw, pa bynnag lwyth yr oedd hi'n perthyn iddo. Adferodd urddas menywod a chodi ei statws, ar y cyfan, i fod yn gydradd â statws dynion.

    (Cyfieithiad o addasiad Women in Pre-Islamic Arabia gan The Muslim Women's League)

Ygrifennu gan ddefnyddio nodiadau

...
...
...
Argraffu