Darllenwch y ddwy ddadl ganlynol ynglŷn â'r shari’a mewn Islam a phenderfynwch pa un sy'n enghraifft dda a pha un sy'n enghraifft wan. Rhowch resymau i gyfiawnhau eich penderfyniad, yn benodol mewn perthynas â'r defnydd o ddyfyniadau, cyfeiriadau at ysgolheigion a'r arddull rhesymu.

Yna cliciwch ar yr adborth i weld sylwadau a chymharwch nhw â'ch sylwadau chi.

‘Does dim un ffordd o edrych ar y shari’a mewn Islam’
Gwerthuswch y safbwynt hwn.


Datblygwch y ddadl sylfaenol isod drwy ddefnyddio unrhyw ddyfyniadau/cyfeiriadau perthnasol at yr ysgolheigion a restrir. Efallai bydd gennych eich dadl eich hun. Ni ddylid rhagdybio bod pob un yn berthnasol neu'n ofynnol. Yna cymharwch gyda phobl eraill yn y dosbarth a thrafodwch unrhyw wahaniaethau gan asesu'r cyfiawnhad a roddir dros y gwahaniaethau hynny. Cofiwch hefyd ystyried y gwahanol arddulliau gwerthuso a astudir uchod ac yn y dasg AA2 sy'n seiliedig ar y testun barn wahanol am shari’a.

Dewiswch destun o'r cwarel ar y dde i'w ychwanegu at eich ysgrifennu trwy glicio arno.

‘Dim ond canllaw a ddatblygodd bodau dynol yw cyfraith shari’a.’ Gwerthuswch y safbwynt hwn gan gyfeirio at Islam.

Y mater i'w drafod yma yw mai canlyniad llunio gan fodau dynol yw'r shari’a. Mae'n bosibl dadlau bod hyn yn wir i ryw raddau gan fod y Qur’an hyd yn oed wedi cael ei lunio gan ysgrifenyddion Muhammad. Ond, ar y llaw arall mae'r Qur’an, yn ôl Mwslimiaid, yn dod oddi wrth Dduw.

Ar ôl marwolaeth Muhammad casglodd y gymuned syniadau ynghyd a'u hysgrifennu gan lunio'r traddodiad (hadith). Ond, cafodd hyn ei wneud yn ofalus iawn a'i brofi fel ei fod yn gywir fel ei fod yn gallu bod yn ddilys.

Yn ogystal, cafodd ysgolion y gyfraith eu datblygu i wneud yn siŵr fod popeth yn ei le. Serch hynny, mae rhai o'r ysgolion y gyfraith yn wahanol i'w gilydd.

Yn olaf, cafodd y drws i ijtihad ei gau ac roedd datguddiad a chytundeb terfynol y shari’a wedi cael ei sefydlu a'i amddiffyn gan Allah. Ond, mae rhai'n dadlau bod lle o hyd i ragor o ddehongli a chymhwyso'r shari’a.

“ Pan fu farw Muhammad, daeth y datguddiad dwyfol i ben; ond, ni ddaeth yr alwad Fwslimaidd i ddilyn cyfraith Dduw i ben. (John Esposito)

Mae cryn dipyn o'r agwedd foesol sylfaenol hon a adlewyrchir yn nherminoleg ‘gwaharddedig’ a ‘caniateir’ yn cyfateb i'r hyn sydd yng nghrefyddau'r Dwyrain Agos yn gyffredinol ac yn y Beibl yn enwedig. Weithiau gwelir bod pethau tebyg fel hyn yn mynd ymhellach. Weithiau mae pobl yn cymharu ‘deg gorchymyn’ y Beibl a Sura 17 adnodau 22–39. (Andrew Rippin)

I rai Mwslimiaid, mae ei bwysigrwydd yn ganllaw i faterion teuluol. I eraill, mae'n system wleidyddol o gyfreithiau i redeg cymdeithas. Does dim un system shari’a y mae pob Mwslim yn cytuno arni. Serch hynny, mae Mwslimiaid yn gyffredinol yn cytuno y dylai rheolau a chyfreithiau mewn Islam fod yn seiliedig ar nifer o ffynonellau. (Idris Morar)

Roedden nhw'n cynnwys celwyddau duwiol gan y rhai a oedd yn credu bod eu harferion yn cydymffurfio ag Islam a ffugiadau gan garfannau a oedd yn ymwneud â dadleuon gwleidyddol a diwinyddol. (John Esposito)

Diffiniodd cyfreitheg Islamaidd glasurol y gymuned mewn ystyr fwy cyfyngedig fel y gymuned o ysgolheigion cyfreithiol neu awdurdodau crefyddol sy'n gweithredu ar ran y gymuned Fwslimaidd gyfan ac yn ei harwain. (John Esposito)