CBAC

Astudiaethau Crefyddol

Gwnewch waith yr Arholwr

Gwella ymatebion enghreifftiol
Gadewch i ni ddechrau gyda rhywbeth syml.
Darllenwch y cwestiynau a phenderfynwch pa un o'r ddau ateb sydd orau.
Sawl marc y byddech yn ei roi am bob ateb?
Cliciwch ar eich dewis cyn datgelu'r ymateb awgrymedig.
Sgroliwch drwy'r cwestiynau gan ddefnyddio'r saethau.

Nawr edrychwch ar yr atebion hirach hyn.

Defnyddiwch yr allwedd i danlinellu'r rhannau o'r ateb sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf asesu. Yna penderfynwch pa farc y byddech yn ei ddyfarnu am yr ateb cyn datgelu'r adborth. Mae'r bandiau marcio ar gael er gwybodaeth.

Sgroliwch drwy'r cwestiynau gan ddefnyddio'r saethau.

Nawr am gwestiynau 15 marc.
Defnyddiwch yr allwedd i danlinellu'r rhannau o'r ateb sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf asesu. Yna penderfynwch pa farc y byddech yn ei ddyfarnu am yr ateb cyn datgelu'r adborth. Mae'r bandiau marcio ar gael er gwybodaeth. Sgroliwch drwy'r cwestiynau gan ddefnyddio'r saethau.

A allwch wella'r atebion gwan?

Disgrifiwch sut y gallai menywod Iddewig addoli yn wahanol i ddynion. (5)

Mewn Iddewiaeth mae gan ddynion a menywod rolau gwahanol ac felly maent yn addoli'n wahanol. Mae menywod yn fwy ysbrydol yn naturiol ac nid oes angen arweiniad arnynt. Felly, mae Iddewon yn credu mai dim ond dynion sydd angen gwisgo'r tefellin. Yn y Shema dywedir bod yn rhaid i chi gadw Duw yn agos at eich meddwl a'ch enaid. Dehonglir hyn drwy ddweud bod dynion Iddewig yn gwisgo'r tefillin wrth ymyl eu calonnau a'u pennau er mwyn eu helpu i gysylltu â Duw a chanolbwyntio'n fwy ar eu hochr ysbrydol.
Rheswm a ffordd arall y mae dynion a menywod Iddewig yn addoli'n wahanol yw eu safle yn y synagog. Mewn synagogau uniongred bydd menywod yn eistedd yn y rhan uchaf yn yr oriel a bydd dynion yn eistedd yn y rhan waelod yng nghanol y synagog. Gwneir hyn fel nad oes dim yn amharu ar ddynion a menywod wrth iddynt addoli.

Esboniwch pam mae Moses yn bwysig i Iddewiaeth. [8]

Mae Moses yn bwysig i Iddewiaeth oherwydd bod Duw wedi cyfamodi ag ef. Moses oedd y cyntaf yn ei deulu i gredu mewn un Duw. Fe wnaeth Duw addewid iddo. Addawodd Duw mai ei ddilynwyr fyddai 'pobl ddewisedig Duw'. Mae Moses yn bwysig oherwydd bod rhai Iddewon yn credu mai nhw yw ei ddisgynyddion ac mai ef yw sefydlydd eu crefydd.

Eglurwch safbwyntiau am ddefnyddio dial fel math o gosb. [8]

Byddai rhai Cristnogion ceidwadol yn cytuno â dial am fod y beibl yn dweud "llygad am lygad" ac y dylech gael eich cosbi am eich pechodau a bod Duw yn cosbi pobl ar ddydd y farn drwy eu hanfon i uffern lle byddant yn dioddef am byth.
Fodd bynnag, byddai rhai Cristnogion rhyddfrydol yn dweud na ddylech gosbi pobl am y byddai duw yn maddau i chi a hefyd mai rheol fwyaf duw yw trin pobl fel yr hoffech chi gael eich trin.

O ddwy grefydd wahanol, esboniwch safbwyntiau am erthyliad. [8]

Mae Cristnogion yn credu y dylai erthyliad ddigwydd am resymau penodol. Os yw bywyd y fam neu'r plentyn dan fygythiad. Os yw'r fenyw wedi'i threisio'n rhywiol dylid erthylu. Mae rhai Cristnogion yn gwrthwynebu erthylu.

Mae Mwslimiaid yn gwrthwynebu erthylu. Maen nhw'n credu os mai Duw sydd wedi ein creu yna dim ond Duw sy'n cael ein lladd. "Na ladd". Mae lladd wedi'i wahardd yng nghrefydd Islam. Fodd bynnag mewn amgylchiadau lle mae bywyd y fam neu'r plentyn dan fygythiad neu rywbeth tebyg yna gellir cynnal erthyliad ymhen 120 diwrnod, rhaid ei wneud cyn i'r enaid gyrraedd y corff.

Esboniwch gredoau Mwslimiaid am natur Allah. [8]

Mae Mwslimiaid yn credu bod Duw yn hollalluog, yn hollraslon, yn hollbresennol ac yn hollwybodus). Maent yn credu mewn Tawhid sy'n golygu unoliaeth Duw. Mae Surah 42 yn dweud bod un Duw, nid oes ganddo unrhyw blant ac mae'n hollalluog. Yn ogystal, mae'r Shahadah yn dweud nad oes Duw, Muhammed yw ei negesydd.'

'Dylai Cristnogion faddau bob amser'. Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt (Mae’n rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chredo yn eich ateb). [15]

Mae Cristnogion yn credu y dylent faddau bob amser gan y dywedodd Iesu pan ofynnwyd iddo sawl gwaith y dylent faddau, 'nid hyd seithwaith, ond hyd saith deg seithwaith'. Mae hyn yn dweud wrth Gristnogion y dylent faddau bob amser. Fodd bynnag, mae rhai yn gweld hyn yn anodd; Julie Nicholson, a oedd yn offeiriad pan laddwyd ei merch ar system drenau danddaearol Llundain yn ystod yr ymosodiadau, a methodd hi â gallu maddau i'r bobl a lofruddiodd ei merch. Mae Cristnogion yn credu mai maddeuant yw edrych y tu hwnt i ddiffygion rhywun, ond credodd Julie hefyd bod yn rhaid i'r person arall fod yno i dderbyn maddeuant ond roedd y rheini a laddodd ei merch eisoes wedi marw gan mai hunanfomwyr oedden nhw. Oherwydd hyn fe roddodd y gorau i'w rôl fel offeiriad/ficer oherwydd ei bod yn annog pobl i faddau pan na allai faddau i eraill ei hun. Mae hyn yn dangos nad yw Cristnogion yn maddau bob amser.
I gloi, credaf y dylai Cristnogion faddau oherwydd yn y Beibl, o ble daw y rhan fwyaf o'u credoau, mae sawl dyfyniad gan yr Iesu a Duw yn honni y dylai Cristnogion faddau bob amser, felly os nad ydyn nhw, maen nhw'n mynd yn erbyn eu crefydd.

"Os yw Duw'n bodoli yna ni ddylai pobl ddioddef."
Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt.
(Mae’n rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb). [15]

Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn holl alluog, yn holl wybodus, ac felly pam ddylai pobl ddioddef. Maen nhw'n credu nad yw hyn yn wir am Dduw os yw pobl yn dioddef. Ond mae dioddefaint yn rhan o fywyd ac mae'n rhaid dioddef i wneud daioni. Mae Duw eisiau i bobl ddioddef. Byddai rhai Cristnogion yn dadlau na ddylai pobl ddioddef oherwydd yna ni fyddan nhw'n cael bywyd da. Maen nhw'n meddwl, os yw Duw yn gallu gwneud bob dim ac yn gwybod bob dim, yna ni allai pobl ddioddef ac nid Duw sy'n gwneud iddyn nhw ddioddef. Ond os ydi o, nid yw'n gwybod bob dim.
Mae Islam yn dysgu pobl bod Duw yn bodoli a bod pobl yn dioddef oherwydd bod Duw eisiau iddyn nhw. Maen nhw'n credu bod dioddefaint yn rhan o fywyd. Os ydych chi'n dioddef, byddwch chi'n gwneud pethau gwell. Maen nhwn credu bod Duw yn gwneud hyn i bawb. Ni all unrhyw un fyw hebddo, fel arall ni fyddan nhwn gwneud unrhyw ddaioni yn eu bywydau.
Rydw i'n meddwl os yw Duw yn bodoli, dylai pobl ddioddef oherwydd dyna sut maen nhw'n llwyddo yn eu nodau mewn bywyd. Hefyd dylai pawb gael yr un profiad.

'Mae'n rhaid i chi fynd i'r synagog i fod yn Iddew' (15)

Mae pobl Iddewig fel arfer yn mynd i'r synagog ar gyfer gwasanaethau, gweddïau, digwyddiadau cymunedol ac weithiau er mwyn mynd i'r ysgol. Byddant yn ceisio cerdded yno oherwydd ar ddydd Sadyrnau ni chânt wneud unrhyw waith a gallai'r synagog fod gryn bellter i ffwrdd a byddai cerdded yno yn flinedig ac yn teimlo fel gwaith. Mae Iddewon yn hoffi mynd i'r synagog am ei fod yn golygu y gallwch fod yng nghwmni pobl sy'n credu yn yr un peth â chi a gallwch i gyd ymuno yn y canu a'r gweddïo. Hefyd, mae eu llyfrau sanctaidd yn cael eu cadw yno, felly byddent am fynd i weld y rheini. Dwi ddim yn gweld diben mewn mynd i'r synagog am nad ydw i'n Iddew, ond mae'n siŵr ei fod yn bwysig iddyn nhw.
Ar y llaw arall, gallech weddïo gartref lle cewch heddwch a thawelwch i ganolbwyntio a bod gyda'r teulu. Mae pobl Iddewig o'r farn bod bywyd teuluol yn bwysig yn enwedig ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn pan fyddant yn dathlu'r Sabath