CBAC

Astudiaethau Crefyddol

Chi yw'r arholwr – Cristnogaeth Gatholig

Gwella ymatebion enghreifftiol.
Gadewch i ni ddechrau gyda rhywbeth syml.
Darllenwch y cwestiynau a phenderfynwch pa un o'r ddau ateb sydd orau.
Sawl marc y byddech yn ei roi am bob ateb?
Cliciwch ar eich dewis cyn datgelu'r ymateb awgrymedig.
Sgroliwch drwy'r cwestiynau gan ddefnyddio'r saethau.

Nawr edrychwch ar yr atebion hirach hyn.

Defnyddiwch yr allwedd i danlinellu'r rhannau o'r ateb sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf asesu. Yna penderfynwch pa farc y byddech yn ei ddyfarnu am yr ateb cyn datgelu'r adborth. Mae'r bandiau marcio ar gael er gwybodaeth.

Sgroliwch drwy'r cwestiynau gan ddefnyddio'r saethau.

Nawr am gwestiynau 15 marc.
Defnyddiwch yr allwedd i danlinellu'r rhannau o'r ateb sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf asesu. Yna penderfynwch pa farc y byddech yn ei ddyfarnu am yr ateb cyn datgelu'r adborth. Mae'r bandiau marcio ar gael er gwybodaeth.
Sgroliwch drwy'r cwestiynau gan ddefnyddio'r saethau.

A allwch wella'r atebion gwan?

Disgrifiwch sut y gallai menywod Iddewig addoli yn wahanol i ddynion. (5)

Mewn Iddewiaeth mae gan ddynion a menywod rolau gwahanol ac felly maent yn addoli'n wahanol. Mae menywod yn fwy ysbrydol yn naturiol ac nid oes angen arweiniad arnynt. Felly, mae Iddewon yn credu mai dim ond dynion sydd angen gwisgo'r tefellin. Yn y Shema dywedir bod yn rhaid i chi gadw Duw yn agos at eich meddwl a'ch enaid. Dehonglir hyn drwy ddweud bod dynion Iddewig yn gwisgo'r tefillin wrth ymyl eu calonnau a'u pennau er mwyn eu helpu i gysylltu â Duw a chanolbwyntio'n fwy ar eu hochr ysbrydol.
Rheswm a ffordd arall y mae dynion a menywod Iddewig yn addoli'n wahanol yw eu safle yn y synagog. Mewn synagogau uniongred bydd menywod yn eistedd yn y rhan uchaf yn yr oriel a bydd dynion yn eistedd yn y rhan waelod yng nghanol y synagog. Gwneir hyn fel nad oes dim yn amharu ar ddynion a menywod wrth iddynt addoli.

Esboniwch pam mae Moses yn bwysig i Iddewiaeth. [8]

Mae Moses yn bwysig i Iddewiaeth oherwydd bod Duw wedi cyfamodi ag ef. Moses oedd y cyntaf yn ei deulu i gredu mewn un Duw. Fe wnaeth Duw addewid iddo. Addawodd Duw mai ei ddilynwyr fyddai 'pobl ddewisedig Duw'. Mae Moses yn bwysig oherwydd bod rhai Iddewon yn credu mai nhw yw ei ddisgynyddion ac mai ef yw sefydlydd eu crefydd.

Eglurwch safbwyntiau Catholig am nodau cosbi troseddwyr. [8]

Ym marn Catholigion, wrth ystyried nodau gwahanol cosbi troseddwyr, mae atal yn anghywir oherwydd gallech gosbi'r unigolyn anghywir ac, unwaith y mae'n farw, ni allwch ddod ag ef yn ôl. Hefyd, mae dienyddio pobl gynddrwg â llofruddiaeth, a dyna pam mae atal yn anghywir, gan mai'r nod yw annog y troseddwr i beidio â throseddu, ond gall pobl ddiniwed gael eu heuogfarnu ar gam. Fodd bynnag, mae Cristnogion yn hoffi'r nod o amddiffyn (amddiffyn cymdeithas rhag troseddwyr), diwygio (addysgu'r troseddwyr i beidio â throseddu eto) a dial (eu bod yn gorfod talu am y drosedd), gan nad y rhain na chosbau dynol, nad ydynt yn mynd yn erbyn dysgeidiaeth yr Iesu o ran 'llygad am lygad, dant am ddant', yw'r ffordd y dylem fyw, ac i faddau nid seithwaith ond saith deg seithwaith', dyma gredoau/dysgeidiaeth y Testament Newydd.

O Gristnogaeth Gatholig ac Iddewiaeth, eglurwch agweddau tuag at erthyliad. [8]

Fodd bynnag, mae Iddewon yn caniatáu erthyliad, ond ni fyddai'r rhan fwyaf o Iddewon yn ei ganiatáu ar alw. Petai rhoi genedigaeth yn peri'r risg o niweidio'r Fam, neu fod amgylchiadau difrifol eraill i'w hystyried, yna byddai llawer o Iddewon yn ei ganiatáu. Mae'r rhan fwyaf o Iddewon yn credu mewn pikuash nefesh (achub bywyd) a dywed y Torah fod dinistrio bywyd yn gyfystyr â dinistrio'r byd i gyd, felly gallai Iddewon Uniongred barhau i gredu bod erthyliad yn anghywir.
Mae Catholigion o'r farn bod erthyliad yn anghywir mewn unrhyw amgylchiadau, hyd yn oed drais rhywiol neu anabledd. Y rheswm dros hyn yw bod y Pab yn dweud ei fod yn anghywir ac ystyrir bod dysgeidiaeth y Pab yn anffaeledig.

'Dylai Cristnogion faddau bob amser'. Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt (Mae’n rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chredo yn eich ateb). [15]

Mae Cristnogion yn credu y dylent faddau bob amser gan y dywedodd Iesu pan ofynnwyd iddo sawl gwaith y dylent faddau, 'nid hyd seithwaith, ond hyd saith deg seithwaith'. Mae hyn yn dweud wrth Gristnogion y dylent faddau bob amser. Fodd bynnag, mae rhai yn gweld hyn yn anodd; Julie Nicholson, a oedd yn offeiriad pan laddwyd ei merch ar system drenau danddaearol Llundain yn ystod yr ymosodiadau, a methodd hi â gallu maddau i'r bobl a lofruddiodd ei merch. Mae Cristnogion yn credu mai maddeuant yw edrych y tu hwnt i ddiffygion rhywun, ond credodd Julie hefyd bod yn rhaid i'r person arall fod yno i dderbyn maddeuant ond roedd y rheini a laddodd ei merch eisoes wedi marw gan mai hunanfomwyr oedden nhw. Oherwydd hyn fe roddodd y gorau i'w rôl fel offeiriad/ficer oherwydd ei bod yn annog pobl i faddau pan na allai faddau i eraill ei hun. Mae hyn yn dangos nad yw Cristnogion yn maddau bob amser.
I gloi, credaf y dylai Cristnogion faddau oherwydd yn y Beibl, o ble daw y rhan fwyaf o'u credoau, mae sawl dyfyniad gan yr Iesu a Duw yn honni y dylai Cristnogion faddau bob amser, felly os nad ydyn nhw, maen nhw'n mynd yn erbyn eu crefydd.

Ni piau'r byd i wneud yr hyn y dymunwn ag ef. (15)
Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt.
(Mae'n rhaid i chi gyfeirio at gredoau crefyddol ac anghrefyddol, fel y rhai hynny a arddelir gan Ddyneiddwyr ac Anffyddwyr, yn eich ateb)

Mae Catholigion o'r farn y dylem ofalu am y blaned ar ran Duw. Mae hyn oherwydd eu bod yn credu i Dduw benodi dyn i lywodraethu'r holl greadigaeth ac mai dyletswydd dynion yw gofalu am y ddaear (ar ran Duw).
Fodd bynnag, mae dyneiddwyr o'r farn y dylai pobl ofalu am y ddaear drostynt eu hunain er mwyn ein gwneud yn hapusach. Fel Catholigion, mae dyneiddwyr yn credu mewn diogelu'r blaned, nid dim ond ar ran Duw ond i genedlaethau'r dyfodol
Yn ôl 'Laudato Si' y Pab dylem roi'r gorau i drin y ddaear fel y gwnawn oherwydd dylem ei warchod a gofalu am gread Duw yn gyfrifol. Mae hefyd yn dweud na ddylem drin adnoddau'r ddaear fel elw ac y dylem fod yn ddiolchgar am yr hyn mae Duw wedi ei adael yma i ni.
Mae dyneiddwyr yn credu y dylem ddiogelu'r ddaear ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a sicrhau eu bod yn gallu byw bywyd o ansawdd da fel eu bod yn gallu mwynhau eu hamser ar y ddaear cymaint â phosibl.

'Mae'n rhaid i chi fynd i'r synagog i fod yn Iddew' (15)

Mae pobl Iddewig fel arfer yn mynd i'r synagog ar gyfer gwasanaethau, gweddïau, digwyddiadau cymunedol ac weithiau er mwyn mynd i'r ysgol. Byddant yn ceisio cerdded yno oherwydd ar ddydd Sadyrnau ni chânt wneud unrhyw waith a gallai'r synagog fod gryn bellter i ffwrdd a byddai cerdded yno yn flinedig ac yn teimlo fel gwaith. Mae Iddewon yn hoffi mynd i'r synagog am ei fod yn golygu y gallwch fod yng nghwmni pobl sy'n credu yn yr un peth â chi a gallwch i gyd ymuno yn y canu a'r gweddïo. Hefyd, mae eu llyfrau sanctaidd yn cael eu cadw yno, felly byddent am fynd i weld y rheini. Dwi ddim yn gweld diben mewn mynd i'r synagog am nad ydw i'n Iddew, ond mae'n siŵr ei fod yn bwysig iddyn nhw.
Ar y llaw arall, gallech weddïo gartref lle cewch heddwch a thawelwch i ganolbwyntio a bod gyda'r teulu. Mae pobl Iddewig o'r farn bod bywyd teuluol yn bwysig yn enwedig ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn pan fyddant yn dathlu'r Sabath.