Mae'r ymateb i'r cwestiwn a nodir isod yn dda, ond eich gwaith chi yw ei wella ymhellach (dewiswch y botwm i i gael rhagor o wybodaeth).

Datblygwch bob pwynt sydd â rhif wrth ei ochr.

c) Esboniwch fanteision a heriau posibl cenhadaeth Gatholig ac efengyliaeth ym Mhrydain Fawr heddiw. AA1 [8]
Yn eich ymateb mae'n rhaid i chi gyfeirio at y ffaith fod llawer o draddodiadau crefyddol ym Mhrydain yn Gristnogol a hefyd yn anghydryw gan gynnwys y traddodiadau crefyddol ac anghrefyddol canlynol: Cristnogaeth, Bwdhaeth, Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth, Sikhiaeth, dyneiddiaeth ac anffyddiaeth.

(i) Gelwir ar Babyddion i ledaenu'r gair 'Ewch, gan hynny a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd.'

(ii) Mae Evangelium Vitae yn dweud '.........'. Yn wir, mae sefydliad Catholig arbennig yn bodoli ar gyfer gwaith cenhadu dramor, sef 'Missio'.

(iii) am ei bod yn ddyletswydd i gynnig y ffydd i bawb er mwyn cynnig iachawdwriaeth i bawb; bydd hyn o fudd i eraill.

(iv) er mwyn datblygu dealltwriaeth a pharch at ei gilydd gan fod hyn yn annog pobl o grefyddau gwahanol i siarad gyda'i gilydd a gall hyn atgyfnerthu ffydd.

(v) oherwydd, efallai eu bod yn teimlo'n anghyfforddus â'r syniad o genhadu am eu bod o'r farn ei fod yn ffordd haerllug ac ymosodol o orfodi ffydd arnynt.

(vi) ac am y gallai eu credoau eu hunain gael eu niweidio neu eu gwanhau drwy ganolbwyntio ar gredoau eraill.

(vii) er enghraifft, efallai bod rhai Anffyddwyr a Dyneiddwyr o'r farn bod cenhadu yn amhriodol mewn cymdeithas fel ein cymdeithas ni sy'n llawer llai crefyddol nag yr arferai fod; mae hyn yn golygu ei bod hyd yn oed yn anoddach efengylu.