CBAC

Astudiaethau Crefyddol

Ping pong - Yr Eglwys

Rhowch drefn ar y cardiau o ran dadl a gwrthddadl.

“Mae'n rhaid i chi fynd i'r eglwys i fod yn Gristion da.”

Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt. Rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb.

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am ei bod yn bwysig rhannu eich ffydd a bod yn rhan o gymuned Gristnogol lle mae pawb yn credu gyda'i gilydd; mae'n atgyfnerthu eich ffydd ac yn cefnogi.'
  • 'Ond nid yw hynny'n argyhoeddiadol oherwydd dywedodd Iesu hefyd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn 'ei enw ef', y byddai yno yn eu canol, felly mai'n rhaid ei fod am i bobl gydweddïo.' Hefyd, yn yr eglwys y mae'r sacramentau'n cael eu cynnal, fel y cymun sanctaidd, a lle y caiff gwyliau eu dathlu, fel Sul y Pasg. Dathlodd Iesu y swper olaf gyda'i ddisgyblion a dywedodd 'gwnewch hyn er coffa amdanaf.'
  • 'Ond, ar y llaw arall, dim ond un agwedd ar fod yn Gristion yw bod yn berson da. Mae llawer o anffyddwyr yn bobl dda iawn a moesol, ond mae mwy i fod yn Gristion na hynny, fel cred a ffydd ac addoli Duw gyda'n gilydd.'
  • 'Mae rhai o'r dadleuon hyn yn deg ac nid oes dim o'i le mewn addoli mewn tai neu hyd yn oed yn yr awyr agored - mae llawer o Gristnogion yn gwneud hynny hefyd, ond mae eglwysi wedi'u hadeiladu i roi mawl i Dduw ac i roi lle arbennig i addoli ynddo. Ystyr y gair 'eglwys' yw cymuned o Gristnogion ac ni allwch fod yn gymuned ar eich pen eich hun.'
  • 'Pam hynny, yn eich barn chi?'
  • 'Mae hynny'n ddadl wan er hynny oherwydd ni ddylai fod angen cymorth arnoch os oes gennych wir ffydd ac mae'n well gan rai pobl addoli ar eu pen eu hunain oherwydd gallant ganolbwyntio'n well. Dywedodd Iesu hyd yn oed wrthym am fynd i'n hystafell, cau'r drws a gweddïo.'
  • 'Ond nid yw'r dadleuon hyn yn hollol ddilys oherwydd siawns y gallwch fod yn Gristion o hyd yn sgil eich gweithredoedd da? Roedd Iesu yn beirniadu’r bobl a oedd yn gweddïo ond nad oeddent yn gweithredu ar eu credoau. Dywedodd 'yn gymaint ag y'i gwnaethoch i un o'r rhai hyn, fe'i gwnaethoch i mi'. Caru eich cymydog sy'n bwysig, nid mynd i'r eglwys.'
  • 'Byddai llawer o Gristnogion yn herio hynny drwy ddweud nad yw 'gyda'n gilydd' yn gorfod golygu eglwys. Byddai'r Cristnogion cynnar yn cwrdd yng nghartrefi ei gilydd ac mae rhai yn dal i wneud hynny. Hefyd, mae rhai pobl yn rhy sâl neu hen i fynd i'r eglwys ac mae rhai yn byw yn rhy bell o eglwys.'
  • 'Mae'r rhain yn safbwyntiau rhesymol, ond, fel llawer o Gristnogion, nid wyf yn credu mai mynd i'r eglwys sy'n eich gwneud yn Gristion da oherwydd rwy'n credu ei fod yn ymwneud yn fwy â'r ffordd rydych yn rhoi dysgeidieithau Iesu ar waith drwy fod yn Samariad da. Ni ddylai adeiladau fod yn bwysig; byddai Cristnogaeth yn dal i fodoli hyd yn oed petai'r holl eglwysi yn diflannu.

Amlygwch y gosodiadau sy'n dangos gwerthusiad/cyrraedd safbwyntiau - AA2

“Mae'n rhaid i chi fynd i'r eglwys i fod yn Gristion da.”

Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt. Rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb.

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am ei bod yn bwysig rhannu eich ffydd a bod yn rhan o gymuned Gristnogol lle mae pawb yn credu gyda'i gilydd; mae'n atgyfnerthu eich ffydd ac yn cefnogi.'
  • 'Ond nid yw hynny'n argyhoeddiadol oherwydd dywedodd Iesu hefyd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn 'ei enw ef', y byddai yno yn eu canol, felly mai'n rhaid ei fod am i bobl gydweddïo.' Hefyd, yn yr eglwys y mae'r sacramentau'n cael eu cynnal, fel y cymun sanctaidd, a lle y caiff gwyliau eu dathlu, fel Sul y Pasg. Dathlodd Iesu y swper olaf gyda'i ddisgyblion a dywedodd 'gwnewch hyn er coffa amdanaf.'
  • 'Ond, ar y llaw arall, dim ond un agwedd ar fod yn Gristion yw bod yn berson da. Mae llawer o anffyddwyr yn bobl dda iawn a moesol, ond mae mwy i fod yn Gristion na hynny, fel cred a ffydd ac addoli Duw gyda'n gilydd.'
  • 'Mae rhai o'r dadleuon hyn yn deg ac nid oes dim o'i le mewn addoli mewn tai neu hyd yn oed yn yr awyr agored - mae llawer o Gristnogion yn gwneud hynny hefyd, ond mae eglwysi wedi'u hadeiladu i roi mawl i Dduw ac i roi lle arbennig i addoli ynddo. Ystyr y gair 'eglwys' yw cymuned o Gristnogion ac ni allwch fod yn gymuned ar eich pen eich hun.'
  • 'Pam hynny, yn eich barn chi?'
  • 'Mae hynny'n ddadl wan er hynny oherwydd ni ddylai fod angen cymorth arnoch os oes gennych wir ffydd ac mae'n well gan rai pobl addoli ar eu pen eu hunain oherwydd gallant ganolbwyntio'n well. Dywedodd Iesu hyd yn oed wrthym am fynd i'n hystafell, cau'r drws a gweddïo.'
  • 'Ond nid yw'r dadleuon hyn yn hollol ddilys oherwydd siawns y gallwch fod yn Gristion o hyd yn sgil eich gweithredoedd da? Roedd Iesu yn beirniadu'r bobl a oedd yn gweddïo ond nad oeddent yn gweithredu ar eu credoau. Dywedodd 'yn gymaint ag y'i gwnaethoch i un o'r rhai hyn, fe'i gwnaethoch i mi'. Caru eich cymydog sy'n bwysig, nid mynd i'r eglwys.'
  • 'Byddai llawer o Gristnogion yn herio hynny drwy ddweud nad yw 'gyda'n gilydd' yn gorfod golygu eglwys. Byddai'r Cristnogion cynnar yn cwrdd yng nghartrefi ei gilydd ac mae rhai yn dal i wneud hynny. Hefyd, mae rhai pobl yn rhy sâl neu hen i fynd i'r eglwys ac mae rhai yn byw yn rhy bell o eglwys.'
  • 'Mae'r rhain yn safbwyntiau rhesymol, ond, fel llawer o Gristnogion, nid wyf yn credu mai mynd i'r eglwys sy'n eich gwneud yn Gristion da oherwydd rwy'n credu ei fod yn ymwneud yn fwy â'r ffordd rydych yn rhoi dysgeidieithau Iesu ar waith drwy fod yn Samariad da. Ni ddylai adeiladau fod yn bwysig; byddai Cristnogaeth yn dal i fodoli hyd yn oed petai'r holl eglwysi yn diflannu.'

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am ei bod yn bwysig rhannu eich ffydd a bod yn rhan o gymuned Gristnogol lle mae pawb yn credu gyda'i gilydd; mae'n atgyfnerthu eich ffydd ac yn cefnogi.'
  • ''Ond nid yw hynny'n argyhoeddiadol oherwydd dywedodd Iesu hefyd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn 'ei enw ef', y byddai yno yn eu canol, felly mai'n rhaid ei fod am i bobl gydweddïo.' Hefyd, yn yr eglwys y mae'r sacramentau'n cael eu cynnal, fel y cymun sanctaidd, a lle y caiff gwyliau eu dathlu, fel Sul y Pasg. Dathlodd Iesu y swper olaf gyda'i ddisgyblion a dywedodd 'gwnewch hyn er coffa amdanaf.'
  • ''Ond, ar y llaw arall, dim ond un agwedd ar fod yn Gristion yw bod yn berson da. Mae llawer o anffyddwyr yn bobl dda iawn a moesol, ond mae mwy i fod yn Gristion na hynny, fel cred a ffydd ac addoli Duw gyda'n gilydd.'
  • ''Mae rhai o'r dadleuon hyn yn deg ac nid oes dim o'i le mewn addoli mewn tai neu hyd yn oed yn yr awyr agored - mae llawer o Gristnogion yn gwneud hynny hefyd, ond mae eglwysi wedi'u hadeiladu i roi mawl i Dduw ac i roi lle arbennig i addoli ynddo. Ystyr y gair 'eglwys' yw cymuned o Gristnogion ac ni allwch fod yn gymuned ar eich pen eich hun.'
  • 'Pam hynny, yn eich barn chi?'
  • ''Mae hynny'n ddadl wan er hynny oherwydd ni ddylai fod angen cymorth arnoch os oes gennych wir ffydd ac mae'n well gan rai pobl addoli ar eu pen eu hunain oherwydd gallant ganolbwyntio'n well. Dywedodd Iesu hyd yn oed wrthym am fynd i'n hystafell, cau'r drws a gweddïo.'
  • ''Ond nid yw'r dadleuon hyn yn hollol ddilys oherwydd siawns y gallwch fod yn Gristion o hyd yn sgil eich gweithredoedd da? Roedd Iesu yn beirniadu’r bobl a oedd yn gweddïo ond nad oeddent yn gweithredu ar eu credoau. Dywedodd 'yn gymaint ag y'i gwnaethoch i un o'r rhai hyn, fe'i gwnaethoch i mi'. Caru eich cymydog sy'n bwysig, nid mynd i'r eglwys.'
  • ''Byddai llawer o Gristnogion yn herio hynny drwy ddweud nad yw 'gyda'n gilydd' yn gorfod golygu eglwys. Byddai'r Cristnogion cynnar yn cwrdd yng nghartrefi ei gilydd ac mae rhai yn dal i wneud hynny. Hefyd, mae rhai pobl yn rhy sâl neu hen i fynd i'r eglwys ac mae rhai yn byw yn rhy bell o eglwys.'
  • ''Mae'r rhain yn safbwyntiau rhesymol, ond, fel llawer o Gristnogion, nid wyf yn credu mai mynd i'r eglwys sy'n eich gwneud yn Gristion da oherwydd rwy'n credu ei fod yn ymwneud yn fwy â'r ffordd rydych yn rhoi dysgeidieithau Iesu ar waith drwy fod yn Samariad da. Ni ddylai adeiladau fod yn bwysig; byddai Cristnogaeth yn dal i fodoli hyd yn oed petai'r holl eglwysi yn diflannu.