CBAC

Astudiaethau Crefyddol

Ping pong - Y Byd

Rhowch drefn ar y cardiau o ran dadl a gwrthddadl.

“Ni piau'r byd i wneud yr hyn y dymunwn ag ef.”

Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt. Rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb.

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am mai ni yw'r rhywogaeth fwyaf deallus a datblygedig ar y blaned ac yn stori genesis, rhoddodd Duw reolaeth neu 'arglwyddiaeth' i ni dros yr holl greadigaeth.'
  • 'Ond nid yw hynny'n argyhoeddiadol iawn gan fod Duw wedi ein creu 'ar ei ddelwedd ei hun' sy'n golygu bod gennym le arbennig yn y greadigaeth sef 'rheoli'r pysgod, yr adar a'r holl anifeiliaid'. Mewn gwirionedd, mae angen adnoddau'r byd arnom i gynnal diwydiant ac i roi'r pethau sy'n angenrheidiol i ni fel pŵer, trafnidiaeth a chyflogaeth.'
  • Ond nid yw'r ddadl honno yn arwyddocaol i lawer o bobl am nad ydynt hyd yn oed yn credu yn Nuw ac nid ydynt yn credu ein bod yn 'Stiwardiaid'.
  • 'Mae rhai o'r dadleuon hyn yn deg oherwydd y blaned yw ein hunig gartref ac mae pawb yn haeddu gallu manteisio ar yr hyn mae'n ei ddarparu, ond mae'r gosodiad yn gywir oherwydd ni biau'r byd o ran bod gennym reolaeth drosti.'
  • 'Pam ydych chi'n meddwl hynny?'
  • 'Mae hynny'n ddadl wan er hynny. Nid yw'r ffaith bod gennym reolaeth yn golygu y gallwn wneud fel y mynnwn gyda'r byd. Mae'r rhan fwyaf o grefyddau yn addysgu bod yn rhaid i ni fod yn stiwardiaid neu'n ofalwyr dros Dduw a chymryd cyfrifoldeb drosto. Mae Iddewon yn credu yn Tikkun Olam, sy'n golygu 'atgyweirio'r byd' ac mae stori o'r Talmud hyd yn oed yn dweud y dylech oedi cyn cyfarch y meseia ei hun nes byddwch wedi plannu’r had.'
  • 'Ond nid yw'r dadleuon hyn yn hollol ddilys am fod llawer o'r pethau a wnawn i'r blaned yn ymwneud mwy â barusrwydd ac eisiau yn hytrach nag anghenraid. Mae Pabyddion yn credu na ddylem ddefnyddio adnoddau'r ddaear, na'i phobl, er elw ac mae dysgeideithiau pab Francis yn 'Laudato Si' yn dweud y dylem warchod y blaned a roddodd Duw i ni a bod yn ddiolchgar amdani.'
  • 'Er hyn, byddai dyneiddwyr hyd yn oed yn dadlau bod angen i ni geisio byw yn fwy cynaliadwy a dangos mwy o gyfrifoldeb i'r amgylchedd oherwydd, er nad ydynt yn credu yn Nuw efallai, byddent yn dadlau mai'r ddaear yw ein hunig gartref ac y dylem ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae grwpiau fel 'humanists 4 a better world' yn weithredol iawn ar faterion 'gwyrdd' '.
  • 'Ceir safbwyntiau rhesymol, ond, fel llawer o Babyddion, nid wyf o'r farn y dylem ystyried mai ni 'biau'r' byd am fod hynny'n arwain at agwedd hunanol. Duw sy'n berchen arni mewn gwirionedd am mai Ef greodd hi a'r holl greaduriaid rydym yn ei rhannu â nhw. Fel dynol ryw, ni ddylem feddwl o ran 'rheolaeth' ond yn hytrach o ran 'cyfrifoldeb cymdeithasol' a stiwardiaeth.

Amlygwch y gosodiadau sy'n dangos gwerthusiad/cyrraedd safbwyntiau - AA2

“Ni piau'r byd i wneud yr hyn y dymunwn ag ef.”

Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt. Rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb.

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am mai ni yw'r rhywogaeth fwyaf deallus a datblygedig ar y blaned ac yn stori genesis, rhoddodd Duw reolaeth neu 'arglwyddiaeth' i ni dros yr holl greadigaeth.'
  • 'Ond nid yw hynny'n argyhoeddiadol iawn gan fod Duw wedi ein creu 'ar ei ddelwedd ei hun' sy'n golygu bod gennym le arbennig yn y greadigaeth sef 'rheoli'r pysgod, yr adar a'r holl anifeiliaid'. Mewn gwirionedd, mae angen adnoddau'r byd arnom i gynnal diwydiant ac i roi'r pethau sy'n angenrheidiol i ni fel pŵer, trafnidiaeth a chyflogaeth. '
  • 'Ond nid yw'r ddadl honno yn arwyddocaol i lawer o bobl am nad ydynt hyd yn oed yn credu yn Nuw ac nid ydynt yn credu ein bod yn 'Stiwardiaid'.
  • 'Mae rhai o'r dadleuon hyn yn deg oherwydd y blaned yw ein hunig gartref ac mae pawb yn haeddu gallu manteisio ar yr hyn mae'n ei ddarparu, ond mae'r gosodiad yn gywir oherwydd ni biau'r byd o ran bod gennym reolaeth drosti.'
  • Pam ydych chi'n meddwl hynny?'
  • 'Mae hynny'n ddadl wan er hynny. Nid yw'r ffaith bod gennym reolaeth yn golygu y gallwn wneud fel y mynnwn gyda'r byd. Mae'r rhan fwyaf o grefyddau yn addysgu bod yn rhaid i ni fod yn stiwardiaid neu'n ofalwyr dros Dduw a chymryd cyfrifoldeb drosto. Mae Iddewon yn credu yn Tikkun Olam, sy'n golygu 'atgyweirio'r byd' ac mae stori o'r Talmud hyd yn oed yn dweud y dylech oedi cyn cyfarch y meseia ei hun nes byddwch wedi plannu’r had.'
  • 'Ond nid yw'r dadleuon hyn yn hollol ddilys am fod llawer o'r pethau a wnawn i'r blaned yn ymwneud mwy â barusrwydd ac eisiau yn hytrach nag anghenraid. Mae Pabyddion yn credu na ddylem ddefnyddio adnoddau'r ddaear, na'i phobl, er elw ac mae dysgeideithiau pab Francis yn 'Laudato Si' yn dweud y dylem warchod y blaned a roddodd Duw i ni a bod yn ddiolchgar amdani.'
  • 'Er hyn, byddai dyneiddwyr hyd yn oed yn dadlau bod angen i ni geisio byw yn fwy cynaliadwy a dangos mwy o gyfrifoldeb i'r amgylchedd oherwydd, er nad ydynt yn credu yn Nuw efallai, byddent yn dadlau mai'r ddaear yw ein hunig gartref ac y dylem ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae grwpiau fel 'humanists 4 a better world' yn weithredol iawn ar faterion 'gwyrdd' '.
  • 'Ceir safbwyntiau rhesymol, ond, fel llawer o Babyddion, nid wyf o'r farn y dylem ystyried mai ni 'biau'r' byd am fod hynny'n arwain at agwedd hunanol. Duw sy'n berchen arni mewn gwirionedd am mai Ef greodd hi a'r holl greaduriaid rydym yn ei rhannu â nhw. Fel dynol ryw, ni ddylem feddwl o ran 'rheolaeth' ond yn hytrach o ran 'cyfrifoldeb cymdeithasol' a stiwardiaeth.

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am mai ni yw'r rhywogaeth fwyaf deallus a datblygedig ar y blaned ac yn stori genesis, rhoddodd Duw reolaeth neu 'arglwyddiaeth' i ni dros yr holl greadigaeth.'
  • ''Ond nid yw hynny'n argyhoeddiadol iawn gan fod Duw wedi ein creu 'ar ei ddelwedd ei hun' sy'n golygu bod gennym le arbennig yn y greadigaeth sef 'rheoli'r pysgod, yr adar a'r holl anifeiliaid'. Mewn gwirionedd, mae angen adnoddau'r byd arnom i gynnal diwydiant ac i roi'r pethau sy'n angenrheidiol i ni fel pŵer, trafnidiaeth a chyflogaeth. '
  • 'Ond nid yw'r ddadl honno yn arwyddocaol i lawer o bobl am nad ydynt hyd yn oed yn credu yn Nuw ac nid ydynt yn credu ein bod yn 'Stiwardiaid'.
  • ''Mae rhai o'r dadleuon hyn yn deg oherwydd y blaned yw ein hunig gartref ac mae pawb yn haeddu gallu manteisio ar yr hyn mae'n ei ddarparu, ond mae'r gosodiad yn gywir oherwydd ni biau'r byd o ran bod gennym reolaeth drosti.'
  • Pam ydych chi'n meddwl hynny?'
  • 'Mae hynny'n ddadl wan er hynny. Nid yw'r ffaith bod gennym reolaeth yn golygu y gallwn wneud fel y mynnwn gyda'r byd. Mae'r rhan fwyaf o grefyddau yn addysgu bod yn rhaid i ni fod yn stiwardiaid neu'n ofalwyr dros Dduw a chymryd cyfrifoldeb drosto. Mae Iddewon yn credu yn Tikkun Olam, sy'n golygu 'atgyweirio'r byd' ac mae stori o'r Talmud hyd yn oed yn dweud y dylech oedi cyn cyfarch y meseia ei hun nes byddwch wedi plannu’r had.'
  • ''Ond nid yw'r dadleuon hyn yn hollol ddilys am fod llawer o'r pethau a wnawn i'r blaned yn ymwneud mwy â barusrwydd ac eisiau yn hytrach nag anghenraid. Mae Pabyddion yn credu na ddylem ddefnyddio adnoddau'r ddaear, na'i phobl, er elw ac mae dysgeideithiau pab Francis yn 'Laudato Si' yn dweud y dylem warchod y blaned a roddodd Duw i ni a bod yn ddiolchgar amdani.'
  • 'Er hyn, byddai dyneiddwyr hyd yn oed yn dadlau bod angen i ni geisio byw yn fwy cynaliadwy a dangos mwy o gyfrifoldeb i'r amgylchedd oherwydd, er nad ydynt yn credu yn Nuw efallai, byddent yn dadlau mai'r ddaear yw ein hunig gartref ac y dylem ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae grwpiau fel 'humanists 4 a better world' yn weithredol iawn ar faterion 'gwyrdd' '.
  • ''Ceir safbwyntiau rhesymol, ond, fel llawer o Babyddion, nid wyf o'r farn y dylem ystyried mai ni 'biau'r' byd am fod hynny'n arwain at agwedd hunanol. Duw sy'n berchen arni mewn gwirionedd am mai Ef greodd hi a'r holl greaduriaid rydym yn ei rhannu â nhw. Fel dynol ryw, ni ddylem feddwl o ran 'rheolaeth' ond yn hytrach o ran 'cyfrifoldeb cymdeithasol' a stiwardiaeth.