CBAC

Astudiaethau Crefyddol

Ping pong – Cydwybod

Rhowch drefn ar y cardiau o ran dadl a gwrthddadl

“Yr unig awdurdod y dylem ei ddilyn yw ein cydwybod ein hunain.”

Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt. Rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb.

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am fod ein cydwybod yn dangos y gwahaniaeth i ni rhwng da a drwg ac yn ein helpu i fyw bywydau da, moesol.'
  • 'I bobl grefyddol, nid yw hynny'n gwbl argyhoeddiadol oherwydd, er i Dduw ein creu ni 'ar Ei ddelwedd ei hun' (Imago Dei) ac, yn wahanol i anifeiliaid eraill, Ei fod wedi rhoi cydwybod i ni, ond Ei fod hefyd wedi rhoi ewyllys rhydd i ni ddefnyddio'r gydwybod hwnnw yn dda ac nid yw rhai pobl yn gwneud hynny neu maent yn methu â gwneud hynny. Mae Pabyddion yn credu, drwy weddi, bod Duw yn llywio ein cydwybod.'
  • 'Mae'r rhain yn bwyntiau teg a byddai Cristnogion Catholig yn dweud y dylem hefyd ddefnyddio'r Beibl a dysgeideithiau eglwysig i lywio ein cydwybod. Yn wir, dywedodd Sant Pawl y dylem 'ufuddhau i'r awdurdodau', felly mae cyfreithiau sifil ac awdurdod y wlad hefyd yn ffynonellau pwysig o awdurdod.'
  • 'Mae'r pwyntiau hyn yn rhesymol ond gellir dadlau yn eu herbyn. Fel y rhan fwyaf o Gristnogion, rwy'n credu y gellir dibynnu ar gydwybod sydd wedi’i lywio gan weddi, y Beibl a dysgeideithiau eglwysig fel arfer i wneud y dewisiadau moesol gorau, hyd yn oed os yw hynny weithiau'n golygu torri cyfraith sifil.'
  • 'Pam ydych chi'n meddwl hynny?'
  • 'Mae'n ddadl wan er hynny, am nad yw llawer o bobl yn dilyn eu cydwybod gan wneud penderfyniadau anfoesol. Mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos bod gan rai pobl, fel llofruddwyr, pedoffilyddion a threiswyr gydwybod, ac mae rhai pobl yn rhy ifanc neu'n rhy sâl yn feddyliol ac felly ni allant ddefnyddio eu cydwybod yn briodol.'
  • 'Ond nid yw'r dadleuon hynny yn hollol ddilys am nad yw llawer o bobl yn credu yn Nuw ac nid ydynt o'r farn bod y cydwybod wedi'i roi gan Dduw. Byddai anffyddwyr a dyneiddwyr yn dadlau y gall defnyddio'r cydwybod yn unig fod yn beryglus am fod pobl yn anghytuno e.e. mae cydwybod rhai pobl yn dweud wrthynt fod rhyfel yn anghywir, ond mae cydwybod eraill yn achosi iddynt gyflawni ymosodiadau terfysgaeth! Ni fyddai cymdeithas yn ddiogel pe byddem ond yn dibynnu ar gydwybod.
  • 'Ond mae'r safbwyntiau hyn yn ddiffygiol oherwydd weithiau, mae awdurdod y cydwybod ac awdurdod y wlad yn gwrthdaro. Ymysg yr enghreifftiau mae gwrthwynebiad cydwybodol (gwrthododd Muhammad Ali frwydro yn Fietnam), cyfreithiau erthylu, cyfreithiau ysgaru ac ati. Dywedodd ef wrthynt, 'Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw' ond allwch chi ddim plesio'r ddau, mae'n rhaid 'dewis ochr': cydwybod neu gyfraith sifil.'

Amlygwch y gosodiadau sy'n dangos gwerthusiad/cyrraedd safbwyntiau - AA2

“Yr unig awdurdod y dylem ei ddilyn yw ein cydwybod ein hunain.”

Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt. Rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb.

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am fod ein cydwybod yn dangos y gwahaniaeth i ni rhwng da a drwg ac yn ein helpu i fyw bywydau da, moesol.'
  • 'I bobl grefyddol, nid yw hynny'n gwbl argyhoeddiadol oherwydd, er i Dduw ein creu ni 'ar Ei ddelwedd ei hun' (Imago Dei) ac, yn wahanol i anifeiliaid eraill, Ei fod wedi rhoi cydwybod i ni, ond Ei fod hefyd wedi rhoi ewyllys rydd i ni ddefnyddio'r cydwybod hwnnw yn dda ac nid yw rhai pobl yn gwneud hynny neu maent yn methu â gwneud hynny. Mae Pabyddion yn credu, drwy weddi, bod Duw yn llywio ein cydwybod.'
  • 'Mae'r rhain yn bwyntiau teg a byddai Cristnogion Catholig yn dweud y dylem hefyd ddefnyddio'r Beibl a dysgeideithiau eglwysig i lywio ein cydwybod. Yn wir, dywedodd Sant Pawl y dylem 'ufuddhau i'r awdurdodau', felly mae cyfreithiau sifil ac awdurdod y wlad hefyd yn ffynonellau pwysig o awdurdod.'
  • 'Mae'r pwyntiau hyn yn rhesymol ond gellir dadlau yn eu herbyn. Fel y rhan fwyaf o Gristnogion, rwy'n credu y gellir dibynnu ar gydwybod sydd wedi’i lywio gan weddi, y Beibl a dysgeideithiau eglwysig fel arfer i wneud y dewisiadau moesol gorau, hyd yn oed os yw hynny weithiau'n golygu torri cyfraith sifil.'
  • 'Pam ydych chi'n meddwl hynny?'
  • 'Mae'n ddadl wan er hynny, am nad yw llawer o bobl yn dilyn eu cydwybod gan wneud penderfyniadau anfoesol. Mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos bod gan rai pobl, fel llofruddwyr, pedoffilyddion a threiswyr gydwybod, ac mae rhai pobl yn rhy ifanc neu'n rhy sâl yn feddyliol ac felly ni allant ddefnyddio eu cydwybod yn briodol.'
  • 'Ond nid yw'r dadleuon hynny yn hollol ddilys am nad yw llawer o bobl yn credu yn Nuw ac nid ydynt o'r farn bod y cydwybod wedi'i roi gan Dduw. Byddai anffyddwyr a dyneiddwyr yn dadlau y gall defnyddio'r cydwybod yn unig fod yn beryglus am fod pobl yn anghytuno e.e. mae cydwybod rhai pobl yn dweud wrthynt fod rhyfel yn anghywir, ond mae cydwybod eraill yn achosi iddynt gyflawni ymosodiadau terfysgaeth! Ni fyddai cymdeithas yn ddiogel pe byddem ond yn dibynnu ar gydwybod.'
  • 'Ond mae'r safbwyntiau hyn yn ddiffygiol oherwydd weithiau, mae awdurdod y cydwybod ac awdurdod y wlad yn gwrthdaro. Ymysg yr enghreifftiau mae gwrthwynebiad cydwybodol (gwrthododd Muhammad Ali frwydro yn Fietnam), cyfreithiau erthylu, cyfreithiau ysgaru ac ati. Dywedodd ef wrthynt, 'Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw' ond allwch chi ddim plesio'r ddau, mae'n rhaid 'dewis ochr': cydwybod neu gyfraith sifil.'

Dadl

Gwrthddadl

  • 'Am fod ein cydwybod yn dangos y gwahaniaeth i ni rhwng da a drwg ac yn ein helpu i fyw bywydau da, moesol.'
  • 'I bobl grefyddol, nid yw hynny'n gwbl argyhoeddiadol oherwydd, er i Dduw ein creu ni 'ar Ei ddelwedd ei hun' (Imago Dei) ac, yn wahanol i anifeiliaid eraill, Ei fod wedi rhoi cydwybod i ni, ond Ei fod hefyd wedi rhoi ewyllys rydd i ni ddefnyddio'r cydwybod hwnnw yn dda ac nid yw rhai pobl yn gwneud hynny neu maent yn methu â gwneud hynny. Mae Pabyddion yn credu, drwy weddi, bod Duw yn llywio ein cydwybod.'
  • 'Mae'r rhain yn bwyntiau teg a byddai Cristnogion Catholig yn dweud y dylem hefyd ddefnyddio'r Beibl a dysgeideithiau eglwysig i lywio ein cydwybod. Yn wir, dywedodd Sant Pawl y dylem 'ufuddhau i'r awdurdodau', felly mae cyfreithiau sifil ac awdurdod y wlad hefyd yn ffynonellau pwysig o awdurdod.'
  • 'Mae'r pwyntiau hyn yn rhesymol ond gellir dadlau yn eu herbyn. Fel y rhan fwyaf o Gristnogion, rwy'n credu y gellir dibynnu ar gydwybod sydd wedi’i lywio gan weddi, y Beibl a dysgeideithiau eglwysig fel arfer i wneud y dewisiadau moesol gorau, hyd yn oed os yw hynny ar brydiau yn golygu torri cyfraith sifil.
  • 'Pam ydych chi'n meddwl hynny?'
  • 'Mae'n ddadl wan er hynny, am nad yw llawer o bobl yn dilyn eu cydwybod gan wneud penderfyniadau anfoesol. Mewn gwirionedd, nid yw'n ymddangos bod gan rai pobl, fel llofruddwyr, pedoffilyddion a threiswyr gydwybod, ac mae rhai pobl yn rhy ifanc neu'n rhy sâl yn feddyliol ac felly ni allant ddefnyddio eu cydwybod yn briodol.
  • 'Ond nid yw'r dadleuon hynny yn hollol ddilys am nad yw llawer o bobl yn credu yn Nuw ac nid ydynt o'r farn bod y cydwybod wedi'i roi gan Dduw. Byddai anffyddwyr a dyneiddwyr yn dadlau y gall defnyddio'r cydwybod yn unig fod yn beryglus am fod pobl yn anghytuno e.e. mae cydwybod rhai pobl yn dweud wrthynt fod rhyfel yn anghywir, ond mae cydwybod eraill yn achosi iddynt gyflawni ymosodiadau terfysgaeth! Ni fyddai cymdeithas yn ddiogel pe byddem ond yn dibynnu ar gydwybod.
  • 'Ond mae'r safbwyntiau hyn yn ddiffygiol oherwydd weithiau, mae awdurdod y cydwybod ac awdurdod y wlad yn gwrthdaro. Ymysg yr enghreifftiau mae gwrthwynebiad cydwybodol (gwrthododd Muhammad Ali frwydro yn Fietnam), cyfreithiau erthylu, cyfreithiau ysgaru ac ati. Dywedodd ef wrthynt, 'Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw' ond allwch chi ddim plesio'r ddau, mae'n rhaid 'dewis ochr': cydwybod neu gyfraith sifil.