Ewyllys rydd neu ddim ewyllys rydd? Dyna'r cwestiwn......

“Ni ddylai Duw fod wedi rhoi ewyllys rydd i ni”

Trafodwch y gosodiad hwn gan ddangos eich bod wedi ystyried mwy nag un safbwynt. Rhaid i chi gyfeirio at grefydd a chred yn eich ateb.

Gallwch ddefnyddio'r gosodiadau isod ond peidiwch â'u copïo.

O blaid ewyllys rydd ddynol

Hebddi, byddem yn bypedau neu'n robotiaid.

Hebddi, ni fyddai unrhyw weithred dda, foesol, yn dda nac yn foesol mewn gwirionedd am na fyddai gennym y dewis i wneud yn wahanol.

Hebddi, ni fyddem yn gwbl ddynol.

Hebddi, byddai'r byd yn ddiflas.

Hebddi, ni fyddai iachawdwriaeth yn bosibl am fod iachawdwriaeth yn golygu gwneud dewis.

Hebddi, byddai credu yn Nuw yn ddiystyr am na fyddai gennym ddewis rhydd i wneud hynny.

Herio ewyllys rydd ddynol

Gallai Duw hollalluog fod wedi ein gwneud ni fel nad ydym yn teimlo fel pypedau neu robotiaid.

Ni fyddem yn colli gwneud dewisiadau rhydd oherwydd gallai Duw fod wedi penderfynu y gallem deimlo fel petaem yn gwneud dewisiadau rhydd, ond ein bod bob amser yn 'dewis' y peth mwyaf moesol i'w wneud.

Os yw bod yn 'gwbl ddynol' yn golygu rhyfel, tlodi, llygredd, llofruddiaeth, camdriniaeth.......byddai'n well gennyf beidio â bod yn 'gwbl ddynol'. Mae pris rhy uchel i ewyllys rydd.

Siawns fod Duw am i bob un ohonom gredu ynddo Ef a mwynhau iachawdwriaeth, felly byddai'n beth da petaem yn gwneud hynny does bosibl?

Byddai Duw hollalluog yn gwybod y byddem yn camddefnyddio ewyllys rydd, felly ni ddylai fod wedi'i rhoi i ni.